Polisi Bwyd a Diod y Gwasanaethau Gwybodaeth

Diben y polisi canlynol yw cydbwyso anghenion ein holl ddefnyddwyr. Gofynnwn i’n holl ddefnyddwyr helpu i weithredu’r polisi hwn drwy ddilyn y rheolau a chadw’r llyfrgell yn lle cysurus ac addas i astudio ynddo.

Bwyd

1. Gall defnyddwyr y llyfrgell ddod â bwyd oer i’r holl lyfrgelloedd (ac eithrio wrth edrych ar lyfrau prin, archifau neu draethodau ymchwil):

2. Byddwch yn ystyriol o eraill a pheidiwch â dod â bwyd oer drewllyd, seimllyd ac anniben, bwyd tecawê poeth sydd wedi oeri na bwyd oer mewn pecynnau swnllyd.

3. Ni chaniateir bwyd a phrydau poeth yn unrhyw ran o unrhyw un o’r llyfrgelloedd.
     Pam? 

  • Mae bwyd poeth yn tueddi i gynhyrchu arogleuon sy’n gallu tarfu ar eraill.
  • Mae bwyd poeth yn tueddi i fod yn anniben. Gall olewau, sawsiau ac ati, ddifrodi eiddo’r llyfrgell.
  • Mae prydau llawn yn tueddi i gynhyrchu mwy o sbwriel.
  • Gall gweddillion bwyd ddifrodi eiddo’r llyfrgell ac fe allai ddenu llygod a phryfed.

4. Peidiwch ag archebu bwyd tecawê i unrhyw un o’r llyfrgelloedd.

5. Gofynnir i unrhyw un sydd â bwyd poeth neu unrhyw fwyd oer sy’n achosi drewdod neu annibendod fynd â’r bwyd allan o’r llyfrgell.

Diodydd

6. Caniateir diodydd oer a phoeth yn yr holl lyfrgelloedd (ac eithrio wrth edrych ar lyfrau prin, archifau neu draethodau ymchwil), cyhyd â’u bod mewn cynwysyddion â chaeadau.

7. Ni chaniateir yfed alcohol yn unrhyw un o’r llyfrgelloedd.

Bod yn ystyriol o eraill

8. I sicrhau bod y llyfrgell yn parhau i fod yn amgylchedd dymunol i bawb, gofynnwn i’r holl ddefnyddwyr glirio ar eu hôl, i gadw’r lle mor daclus â phosibl.

9. Bydd staff y Gwasanaethau Gwybodaeth yn gofyn i chi symud i ran arall o’r llyfrgell neu’n eich atgoffa am reoliadau'r Gwasanaethau Gwybodaeth os ydynt yn teimlo nad ydych yn defnyddio’r ardal yn briodol a’ch bod yn tarfu ar fyfyrwyr eraill.

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Tachwedd 2024 a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Tachwedd 2026.