Polisi Gofal Cwsmeriaid y Gwasanaethau Gwybodaeth
Ein hymrwymiad i’n cwsmeriaid:
- Trin ein holl gwsmeriaid gyda pharch, cwrteisi, tegwch a heb wahaniaethu;
- Darparu gwasanaeth defnyddiol a chyfeillgar i bawb;
- Sicrhau bod ein cwsmeriaid yn ganolbwynt i’n gwasanaeth;
- Ymateb i anghenion cwsmeriaid wrth ddatblygu ein gwasanaethau, gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd o arolygon defnyddwyr rheolaidd a’n hadnoddau adborth defnyddwyr;
- Gwerthfawrogi a dathlu amrywiaeth ein cwsmeriaid a bod yn ymwybodol o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth gynorthwyo ein holl gwsmeriaid;
- Gwisgo ein Cardiau Aber a rhoi ein henwau i’r holl gwsmeriaid yn ôl y gofyn ac wrth gyfathrebu’n ysgrifenedig;
- Ceisio darparu’r gwasanaeth llawnaf posibl a cheisio cynnal dibynadwyedd ein gwasanaethau o fewn cyfyngiadau’r adnoddau sydd ar gael;
- Hysbysebu ein gwasanaethau, ein Rheoliadau a Chanllawiau a dangos ein horiau agor gan roi gwybod i gwsmeriaid am unrhyw newidiadau;
- Darparu gwasanaeth proffesiynol i’n cwsmeriaid a hyfforddi ein staff mewn gofal cwsmeriaid;
- Darparu ffurflen adborth ar-lein yn ein holl lyfrgelloedd a chynnal arolygon rheolaidd o farn defnyddwyr;
- Ceisio ymateb i sylwadau wedi’u llofnodi o fewn 3 diwrnod gwaith;
- Defnyddio sylwadau ac awgrymiadau cwsmeriaid i helpu i wella ein gwasanaeth.
Gall cwsmeriaid ein helpu i gyflawni hyn trwy:
- Trin staff y Gwasanaethau Gwybodaeth a chwsmeriaid eraill â pharch, cwrteisi a thegwch heb wahaniaethu;
- Gofalu am eiddo, offer ac adnoddau’r Gwasanaethau Gwybodaeth;
- Cario eich cerdyn Aber pan fyddwch yn ymweld ag unrhyw un o’n llyfrgelloedd neu ystafelloedd cyfrifiaduron a bod yn ymwybodol o’r rheoliadau ar gyfer ei ddefnyddio
- Dychwelyd eitemau yr ydych yn eu benthyca ar amser;
- Cadw at Reoliadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth a dilyn gofynion y parthau unigol yn y llyfrgelloedd i gynnal ardaloedd astudio priodol;
- Cadw at ein polisi sŵn gan gynnwys ein hardaloedd tawel a distaw;
- Cadw at ein polisi bwyd a diod.
Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Mai 2024 a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Tachwedd 2026.