Menywod yn hanes Prifysgol Aberystwyth
O sgrolio i lawr fe gewch ragor o wybodaeth am rai o’r menywod rydyn ni'n dathlu eu cyfraniad i Brifysgol Aberystwyth yn academaidd a thu hwnt i hynny.
Y Fyfyrwraig Gyntaf
Louise Davies oedd y fenyw gyntaf i ymuno â Choleg Prifysgol Cymru. Ar ôl ennill ysgoloriaeth mynediad, ymunodd â’r Coleg pan oedd yn 16 mlwydd oed ym 1884. Am oddeutu tri mis, hi oedd yr unig fenyw yn y Coleg cyn i eraill ymuno â hi.
Myfyrwyr go iawn? Go brin
Er bod pob hanes safonol a ysgrifennwyd am y Coleg yn dweud mai Louise Davies oedd y fenyw gyntaf a ddaeth yma’n fyfyrwraig, yr oedd menywod wedi bod yn astudio yn Aberystwyth ers 1875, yn yr adran Gerdd. Astudiai’r menywod hyn gyda Joseph Parry (cyfansoddwr enwog yr alaw Gymreig, Myfanwy).
Cawsant eu hanwybyddu gan haneswyr y Coleg, gan gynnwys Dr E. L. Ellis yn ei gyfrol am hanes y sefydliad a gyhoeddwyd ym 1972:
“Wrth gwrs, fe fu menywod yn fyfyrwyr rhan-amser yn nyddiau Joseph Parry yn yr adran Gerdd, ond go brin y gellid dweud iddynt gael eu hystyried yn fyfyrwyr go iawn”.
Ym 1874, roedd dwy fenyw, Kate Rees a Lizzie Edwards (y ddwy o Aberystwyth), yn astudio Cerddoriaeth yn y Coleg. Uchod mae llun o’r menywod o 1875-6 ac rydym yn gallu rhoi rhai enwau ochr yn ochr â’r llun hwn:
1. Hattie Davies, Caerdydd
2. Maggie Edwards, Ffestiniog
3. G Griffiths, Llanberis
4. Mary Jones, Aberystwyth
5. Nellie Owens, Unol Daleithiau America
6. Annie Williams, Caerdydd
7. Cordelia Edwards, Y Bermo
Dydyn ni ddim yn gwybod pwy yw pwy o blith yr enwau – os ydych chi, cofiwch roi gwybod i ni.
Y Fenyw Raddedig Gyntaf
Mary Louisa Carter oedd y fenyw gyntaf i raddio o Aberystwyth
Cadair, Pennaeth Adran, a Phrifathrawes Dros Dro
Mae Lily Newton yn aelod pwysig o staff Aberystwyth. Hi oedd yr Athro benywaidd cyntaf a’r Pennaeth Adran benywaidd cyntaf yn Aberystwyth (1930) ond, ar ben hynny, penodwyd hi yn Brifathrawes dros dro ar ôl marwolaeth Ifor Evans yn 1952. Yr oedd hi’n dysgu Botaneg, ac ymddeolodd o’r Coleg ym 1958.
Neuadd Breswyl
Aberystwyth oedd y brifysgol gyntaf i gael neuadd breswyl bwrpasol ar gyfer menywod. Enwyd y neuadd ar ôl y Dywysoges Alexandra a agorodd y neuadd ei hun yn swyddogol ym mis Mehefin 1896. Dyma ystafell yn Neuadd Alexandra:
Cydraddoldeb drwy Siarter
Mae Siarter 1896 y Brifysgol yn nodi’n glir bod cydraddoldeb yn rhan allweddol o genhadaeth Aberystwyth:
“Bydd menywod yr un mor gymwys â dynion ar gyfer mynediad at unrhyw Radd y mae gan y Brifysgol yr awdurdod i’w chadarnhau drwy’r Siarter hon. Bydd pob swydd yn y Brifysgol a grëir drwy hyn ac aelodaeth o bob awdurdod a sefydlir trwy hyn ar agor i fenywod a dynion yn gyfartal”.