Gweld adnoddau Llyfrgell ar-lein o’ch dyfais eich hun: effaith newidiadau preifatrwydd porwyr byd-eang
Yn ystod 2025 bydd porwyr gwe megis Chrome, Firefox, Safari ac Edge yn gweithredu swyddogaeth preifatrwydd newydd a fydd yn rhwystro gwefannau rhag gwybod cyfeiriad IP y defnyddiwr.
Mae'r Llyfrgell yn tanysgrifio i lawer o adnoddau ar-lein fel e-lyfrau, erthyglau cyfnodolion testun llawn a chronfeydd data. Ni fydd cyhoeddwyr ar-lein yr adnoddau hyn yn gallu canfod myfyrwyr a staff PA sy'n ceisio cael mynediad at gynnwys trwy ddyfeisiau rydych chi'n berchen arnyn nhw, megis gliniaduron, tabledi a ffonau symudol, pan fyddant wedi'u cysylltu â rhwydwaith y campws neu wi-fi eduroam fel y gallant nawr.
Ni fydd modd defnyddio GlobalProtect VPN mwyach i gael mynediad at yr adnoddau hyn o'ch dyfeisiau eich hun pan fyddwch oddi ar y campws neu'n defnyddio gwasanaethau wi-fi eraill.
Pan fydd y newidiadau hyn yn dechrau cael eu rhoi ar waith, gallwch barhau i weld adnoddau ar-lein ar y campws ac oddi arno drwy
- fewngofnodi i Primo gyda'ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA
- dilyn y cyngor a ddarperir ar hyn o bryd yn y canlyniad chwilio am fynediad oddi ar y campws. Efallai y bydd hyn yn golygu clicio dolen ychwanegol ar safle'r cyhoeddwr a dewis Prifysgol Aberystwyth o ddewislen o’r sefydliadau sy’n tanysgrifio. Ceir mwy o fanylion yn y Cwestiwn Cyffredin hwn
Bydd diweddariadau pellach pan fyddwn yn gwybod pryd y bydd y porwyr gwahanol yn newid. Mae nifer fach o adnoddau ar-lein y tanysgrifir iddynt gan Lyfrgell PA nad ydynt wedi'u galluogi eto i gael mynediad fel hyn.
Ni fydd hyn yn effeithio ar ddyfeisiau a reolir gan y Brifysgol megis offer addysgu, gliniaduron a fenthycwyd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth, a chyfrifiaduron sydd wedi'u lleoli mewn ystafelloedd cyfrifiaduron a llyfrgelloedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â llyfrgellwyr@aber.ac.uk
Parhewch i roi gwybod am unrhyw broblemau wrth weld adnoddau ar-lein drwy ddefnyddio'r botwm Adrodd Problem yn y canlyniad chwilio yn Primo, neu drwy e-bostio ejournals@aber.ac.uk
Ffynonellau: