Ailwampio Ystafell Iris de Freitas, Llyfrgell Hugh Owen
Cadwch i fyny gyda newyddion diweddaraf y prosiect
Iris de Freitas NAWR AR AGOR
Dewch i edrych, mae’n hyfryd!
Iris de Freitas – diweddariad Hydref 2019
Mae’r gwaith adeiladu bron wedi’i gwblhàu, a ddoe fe gyrhaeddod y lori i ddanfon yr holl ddodrefn newydd ar gyfer ystafell Iris de Freitas. Nid ydym yn gallu dangos dim o’r dodrefn i chi eto – mae hwnnw’n syrpreis ar gyfer yr agoriad swyddogol y mis nesaf, ond mae gennym lun o’r lori!Mae manylion o’r […]
Manylion ailwampiad Iris de Freitas
Rydym newydd gael crynodeb o’r holl welliannau sy’n cael eu gwneud yn ystafell Iris de Freitas yn Llyfrgell Hugh Owen – gobeithio eich bod yn edrych ymlaen gymaint â ni i weld yr ystafell! Bydd yno:• 44 desg astudio, pob un gyda’i chyfrifiadur ei hun. Gellir addasu uchder dwy o’r desgiau hyn• 140 o ardaloedd […]
Ailwampio Iris de Freitas, y diweddaraf ym mis Awst 2019
Mae ystafell Iris de Freitas yn dod yn ei blaen yn dda, gyda’r ffenestri newydd wedi’u gosod yn ddiweddar. Mae’r ffenestri sy’n wynebu’r Gorllewin (ar flaen yr adeilad) yn rhai arlliwiedig ac yn adlewyrchu gwres, a fydd yn gwneud yr ystafell yn un fwy cyfforddus i bawb. Y bwriad yw ailagor ym mis Tachwedd, ac […]
Diweddariad ar y gwaith adeiladu yn ystafell Iris de Freitas, Llyfrgell Hugh Owen, mis Mehefin 2019
Mae’r gwaith o adnewyddu ystafell Iris de Freitas ar Lefel E Llyfrgell Hugh Owen dros yr haf yn mynd rhagddo’n dda: • mae’r ystafell wedi cael ei chlirio yn barod ar gyfer tair ystafell astudio newydd i grwpiau, y bydd modd eu harchebu• mae byrddau distewi acwstig yn cael eu gosod ar y nenfwd er […]
Read more from Cadwch i fyny gyda newyddion diweddaraf y prosiect
Ailwampio Ystafell Iris de Freitas, Llyfrgell Hugh Owen
Rhwng diwedd Mai a mis Tachwedd 2019, bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn ailwampio Ystafell Iris de Freitas ar Lawr E, Llyfrgell Hugh Owen. Rydym eisoes wedi ymgynghori â defnyddwyr yr ystafell drwy gyfrwng arolwg, bwrdd awgrymiadau a chyfweliadau un-i-un, am eu syniadau ynglŷn â’r gofod ac wedi ystyried eu sylwadau a’u hawgrymiadau. Dyma rai o’r prif ddarganfyddiadau ar ôl siarad â’r defnyddwyr:
- Mwy o ystafelloedd astudio
- Socedi pŵer
- Peiriannau bwyd a diod
- Dodrefn cyfforddus
- Gwell golau
- Planhigion
Bydd y gwaith ailwampio’n dechrau’n syth ar ôl yr arholiad semester 2 diwethaf, o 13:00 ddydd Mercher 29ain Mai, ac rydym yn bwriadu ail-agor yr ystafell ar 4ydd Tachwedd 2019. Yn ystod y cyfnod hwn ni fydd mynediad o gwbl i Ystafell Iris de Freitas. Ni fydd hyn yn effeithio ar fynediad i ardaloedd eraill y llyfrgell. Mae’n bosib y bydd y llwybr o fynedfa’r de i Lawr D Adeilad Hugh Owen i gyntedd Llawr E a’r llwybr mynediad i adeilad Parry Williams a chefn Canolfan y Celfyddydau yn cael eu heffeithio am rai cyfnodau – byddwn yn rhoi manylion yn nes at yr amser.
Bydd y gwaith ailwampio’n golygu ardal llawer mwy deniadol i ddefnyddwyr. Byddwn yn ychwanegu ystafelloedd astudio ychwanegol i grwpiau. Y cynllun yw darparu ardaloedd hyfforddi/digwyddiadau pwrpasol yn Ystafell Herman Ethe yn ogystal â pheiriant bwyd bach. Bydd y dodrefn a’r addurniadau’n cael eu diweddaru, a bydd gwell awyru a goleuo.