Lefel E ar ei newydd wedd
Yr haf hwn, mae Lefel E (ail lawr) Llyfrgell Hugh Owen wedi cael ei drawsnewid.
Rydym wedi symud rhai mannau i staff a myfyrwyr o gwmpas i greu gofod mwy i fyfyrwyr ac i greu rhagor o fannau astudio yng nghornel de-orllewinol y Llyfrgell. Mae gan yr ardal astudio newydd olygfeydd dros y dref i’r môr ac yn cynnwys 6 ystafell astudio grŵp newydd.
Dyma gipolygon wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen:
- Yr ardal wedi cael ei chlirio yn barod i'r gwaith ddechrau
- Gwaith ar y goleuadau a'r trydan yn y nenfwd
- Wal newydd rhwng y swyddfa staff a'r ardal astudio newydd
- Lliwiau ar y wal newydd
- Ystafelloedd astudio grŵp newydd
A dyma'r ardal sgleiniog newydd:
- Ffenestri a desgiau yn yr ardal newydd yn edrych draw i La Scala
- Cadeiriau duon newydd a desgiau newydd yn yr ardal newydd yn edrych draw i'r llyfrau ar silffoedd yn Lefel E
- Yr ardal astudio tawel newydd ar Lefel E