Newyddion

Yn cyflwyno: BrowZineYn cyflwyno: BrowZine

18/10/2022

Mae BrowZine yn ffordd newydd o bori a chwilio miloedd o gyfnodolion electronig sydd ar gael i chi fel aelod o Brifysgol Aberystwyth.

Gan ddefnyddio BrowZine gallwch:

  • Pori neu chwilio yn ôl maes pwnc i ddod o hyd i e-gyfnodolion o ddiddordeb
  • Chwilio am deitl penodol
  • Creu eich silff lyfrau eich hun o'ch hoff e-gyfnodolion a'u trefnu sut y dymunwch
  • Dilyn eich hoff deitlau a derbyn hysbysiadau pan fydd rhifyn newydd yn cael ei gyhoeddi
  • Cadw erthyglau yn eich llyfrgell bersonol a fydd yn cysoni ar draws eich dyfeisiau

Gallwch ddefnyddio BrowZine ar eich cyfrifiadur, neu lawrlwythwch yr ap i'w ddefnyddio ar ddyfais Android neu Apple. Bydd BrowZine yn cysoni ar draws sawl dyfais fel y gallwch chi ddarllen eich e-gyfnodolion lle bynnag y byddwch.

Dewch o hyd iddo ar Primo, catalog y llyfrgell, drwy glicio ar y botwm Chwiliad e-gyfnodolion ar frig y dudalen neu lawrlwythwch yr ap o'ch siop apiau.