Newyddion a Digwyddiadau
Am y diweddaraf am ein systemau a'n gwasanaethau, ewch i Statws Gwasanaethau GG
Llyfrgell Hugh Owen: Dim Cerdyn Aber, Dim Mynediad Llun 28 Ebrill tan ddiwedd Mai 2025
07/04/2025
Oherwydd y galw mawr am le yn y llyfrgell, dim ond deiliaid Cerdyn Aber sy'n cael defnyddio Llyfrgell Hugh Owen yn ystod y dydd yn y cyfnod cyn ac yn ystod arholiadau mis Mai (o ddydd Llun 28 Ebrill tan ddiwedd Mai). Mae angen eich Cerdyn Aber arnoch i fynd i mewn ac allan o'r llyfrgell.
Mae angen Cerbyn Aber bob amser y tu allan i 08:30 a 17:00, 7 diwrnod yr wythnos. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan:http://www.aber.ac.uk/cy/is/library/hughowen/ ac ar dudalennau gwe ymwelwyr
Oriau agor Llyfrgell Hugh Owen dros gyfnod gwyliau'r Pasg a chyfnod yr arholiadau.
24/03/2025
Dyma oriau agor Llyfrgell Hugh Owen dros gyfnod gwyliau'r Pasg a chyfnod yr arholiadau.
Mae Lefel D (llawr mynediad) y llyfrgell bob amser ar agor 24/7
- Sad 05 Ebrill - Iau 17 Ebrill: Lefelau E&F ar agor 08.30 - 20:00
- Gwe 18 Ebrill - Mawrth 22 Ebrill: Lefel D (llawr mynediad) ar agor 24/7 / Lefelau E&F ar gau
- Mer 23 Ebrill – Sul 27 Ebrill: Lefelau E&F ar agor 08:30- 20:00
- Llun 28 Ebrill: Lefelau E ac F ar agor 08:30-00:00
- Mawrth 29 Ebrill – Gwener 30 Mai: pob un o'r 3 Lefel ar agor 24/7
Gwnewch yn siwr bod gennych eich Cerdyn Aber gyda chi i fynd i mewn ac allan o'r llyfrgell bob amser yn ystod cyfnod yr arholiad.
Gallwch weld ein holl oriau agor yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/about/opening-hours/Amserlen Arholiadau Terfynol - Semester 2
24/03/2025
Mae amserlen arholiadau terfynol ar gyfer semester dau ar gael ar y wefan amserlennu: https://ow.ly/a6GI50Qanas
Os am gyngor pellach parthed arholiadau, gallwch gysylltu â’ch swyddog arholiadau adrannol: https://ow.ly/xmcS50Qanat
Diwrnod y Ddaear 22 Ebrill 2025
14/04/2025
Rydym yn dathlu Diwrnod y Ddaear ar 22ain Ebrill. Thema’r ymgyrch eleni ydy Ein Pwer, Ein Planed – sy’n estyn gwahoddiad i bawb i uno i gefnogi ynni adnewyddadwy, ac i dreblu'r gynhyrchiad byd-eang o drydan glân erbyn 2030. Ymwelwch â https://www.earthday.org/earth-day-2025/ I gael rhagor o wybodaeth.
Mae gan y llyfrgell fyd o adnoddau i gefnogi ymchwil a gwaith amgylcheddol, gan gynnwys mynediad i Digimap - gwasanaeth cyflenwi map a data ar-lein gwych sy'n cynnig sawl casgliad data, gan gynnwys mapiau Arolwg Ordnans, hanesyddol, daearegol, LiDAR a mapiau morol a data gofodol.
Archwiliwch ein Daear y Diwrnod y Ddaear hwn. Cymerwch olwg ar ein harddangosfa ar Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen, neu ewch i Primo, catalog y llyfrgell, i gychwyn arni
Cyhoeddi Siaradwr Gwadd ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol
17/04/2025
Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd yr Athro Lee Elliot Major OBE FAcSS, Athro mewn Symudedd Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerwysg, a'i gydweithiwr Beth Brooks, Swyddog Gweithredol gyda Chomisiwn Symudedd Cymdeithasol De-orllewin Lloegr, yn ymuno â ni yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ddydd Mawrth 8 Gorffennaf.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am sut i archebu’ch lle, ar gael ar ein blog.
Sesiynau Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu 24/04/2025 - 02/05/2025
16/04/2025
Ebrill
24/04 Integrating trauma-informed approaches to teaching & learning (Wyneb yn wyneb)
29/04 E-learning Essentials: Preparing your Online Exam (Ar-lein)
Mai
02/05 Stress, Resilience & Your Personality (Wyneb yn wyneb)
Amserau / archebu
Cynhadledd Fer: Deunyddiau ar gael
16/04/2025
Mae deunyddiau o'n Cynhadledd Fer ddiweddaraf, Cyflogadwyedd a'r Cwricwlwm Cynhwysol, bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.
Diolch i'n siaradwyr am sesiynau mor ddiddorol ac i'r rhai a fynychodd y digwyddiad.
Gweler ein blog am grynodeb o’r digwyddiad.
Eich adborth SgiliauAber
10/04/2025
Diolch yn fawr i'r rheiny ohonoch a gymerodd amser i rannu'ch adborth ar y safle SgiliauAber yn ddiweddar.
Dyma gyhoeddi crynodeb o'r hyn roedd ganddoch chi i'w ddweud a'n camau gweithredu yn sgil eich adborth: https://www.aber.ac.uk/cy/is/feedback/response/issugharv/
Diolch am ein helpu i barhau i ddatblygu ein gwasanaethau llyfrgell a dysgu
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn ddiogel yn eich astudiaethau
02/04/2025
Yr ydym yn edrych ar brofiadau myfyrwyr o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac eich anghenion o ran arweiniad ar sut i’w ddefnyddio yn ddiogel yn eich astudiaethau. Os oes gennych 15-10 munud i’w sbario i siarad gyda staff y llyfrgell, fe fydden yn ddiolchgar iawn. Os gwelwch yn dda, danfonwch ebost i gg-adborth@aber.ac.uk os ydych yn hapus i ni gysylltu â chi. Yr ydym yn hapus i gwrdd wyneb yn wyneb neu dros Teams,
Cwestiynau am gyfeirnodi?
17/02/2025
Gall cyfeirnodi fod yn anodd, ond does dim rhaid iddo fod yn frwydr! Os oes gennych chi gwestiynau, mae gennym atebion ichi.
- Yn gyntaf, archwiliwch ein LibGuide Cyfeirnodi cynhwysfawr - mae'n llawn gwybodaeth, enghreifftiau, a chynghorion i'ch helpu i feistroli cyfeirnodi.
- Yn ail, cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc am gymorth. Maent yn cynnig ymgynghoriadau un-i-un ac yn arbenigo yn y dulliau cyfeirnodi penodol ar gyfer eich mesydd pwnc.
Cewch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i lwyddo o’r llyfrgell heddiw.
Diweddariad Blackboard fis Ebrill
04/04/2025
Hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw at welliannau i Hyfforddwyr yn niweddariad Blackboard fis Ebrill:
- Newydd: Cadwrfa Gwrthrychau Dysgu
- Dylunydd Cynnwys: Argraffu Dogfen
- Rhoi Gradd ac Adborth
Am fanylion pellach, gweller ein blog:Beth sy’n newydd yn Blackboard Ebrill 2025
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 Ebost: gg@aber.ac.uk