Y Gwasanaethau Gwybodaeth yn cyflawni ardystiad Hanfodion Seiber yn dilyn asesiad ym mis Mehefin 2023
Mae Hanfodion Seiber yn gynllun sicrhau gwybodaeth Llywodraeth y DU a weithredir gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae'n annog sefydliadau i fabwysiadu arfer da mewn diogelwch gwybodaeth ac mae'n cynnwys fframweithiau sicrwydd a chyfres syml o reolaethau diogelwch i amddiffyn rhag bygythiadau ar-lein. Mae'r ardystiad hwn yn dangos ymroddiad y Gwasanaethau Gwybodaeth i sicrhau'r lefel uchaf o ddiogelwch ar gyfer y systemau a'r rhwydweithiau y mae'n eu rheoli.
Mae'r achrediad yn bwysig i'r Brifysgol. Mae Hanfodion Seiber yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rhan fwyaf o gontractau'r Llywodraeth, gan gynnwys ymchwil a gwasanaethau eraill a ddarperir gan y Brifysgol ac mae'n cefnogi ceisiadau am gyllid ymchwil.
Cwmpas yr ardystiad presennol yw adran Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol. Mae'r holl staff yn yr adran bellach wedi'u hachredu ar gyfer cydymffurfio â Hanfodion Seiber ers 29 Mehefin 2023. Mae gwaith caled ac ymrwymiad yr holl staff cymorth TG i gyflawni hyn yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
Mae tystysgrif Hanfodion Seiber y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gael i'w lawrlwytho yma a gellir dod o hyd i'n statws trwy Chwiliad Tystysgrif Hanfodion Seiber IASME Rydym wrthi'n gweithio tuag at gydymffurfiad ehangach ar draws y Brifysgol yn ogystal â gwelliannau parhaus i allu ailardystio ar gyfer Hanfodion Seiber ar gyfer y Gwasanaethau Gwybodaeth ym mis Mehefin 2024.