Newyddion a Digwyddiadau

Am y diweddaraf am ein systemau a'n gwasanaethau, ewch i Statws Gwasanaethau GG

Mae Teithiau Llyfrgell yn ôl!

10/09/2025

Os ydych chi'n dychwelyd i fannau astudio cyfarwydd neu'n darganfod mannau newydd, dewch i ymuno â ni ar Daith Llyfrgell.

Mae ein teithiau yn gyfleoedd anffurfiol i edrych o gwmpas y llyfrgell, gofyn cwestiynau (dim ond os ydych chi eisiau!) a dod i wybod sut mae pethau'n gweithio.

Does dim angen archebu lle, dim ond dod i Lefel D (llawr gwaelod) Llyfrgell Hugh Owen ar yr adeg iawn. Mae teithiau'n rhedeg bob awr o 11am (ar gyfer yr boregodwyr) i 4pm bob dydd gan ddechrau 18 Medi.

Rhagor o fanylion yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/ug/welcome/#teithiau-llyfrgell Welwn ni chi yno

Oriau Agor mis Medi yn Llyfrgell Hugh Owen

01/09/2025

O ddydd Llun 1 Medi i ddydd Gwener 19 Medi, rydym ar agor 08:30–20:00.
O ddydd Sadwrn 20 Medi i ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr, bydd yr oriau yn ymestyn i 08:30–22:00.
A chofiwch—mae Lefel D ar agor 24/7 drwy’r flwyddyn

Gweler oriau agor y llyfrgell at: https://www.aber.ac.uk/cy/is/about/opening-hours/

Sesiynau Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu 09/09 - 18/09

08/09/2025

Mis Medi

09/09 E-learning Essentials: Introduction to Turnitin (Ar-lein)

10/09 E-learning Essentials: Become a Document Pro (Ar-lein)

11/09 E-learning Essentials: Introduction to Blackboard Ally (Ar-lein)

12/09 E-learning essentials: Introduction to Microsoft Copilot for Learning and Teaching (Ar-lein)

16/09 E-learning Essentials: Introduction to Panopto Lecture Capture and Teaching Room (Wyneb yn wyneb)

17/09 E-learning Essentials: Introduction to Blackboard Ultra (Ar-lein)

18/09 E-learning Essentials: Introduction to Blackboard Ally (Ar-lein)

18/09 E-learning essentials: Introduction to Microsoft Copilot for Learning and Teaching Activities (Ar-lein)

Amserau/archebu

Diweddariad Blackboard fis Medi

05/09/2025

Hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw at welliannau i Hyfforddwyr yn niweddariad Blackboard fis Medi: 

  • Newydd: Ychwanegu a rheoli teitlau cwestiynau mewn profion, ffurflenni a banciau
  • Gwelliannau i brofion grwp
  • Amser ychwanegol yn gyson ar draws rolau
  • Gwella dogfennau gydag opsiynau arddull bloc

Am fanylion pellach, gweller ein blog: Beth sy’n newydd yn Blackboard Medi 2025.

Diweddariadau i Blackboard ar gyfer myfyrwyr

31/10/2025

Mae ein blogbost diweddaraf yn amlinellu'r hyn sydd wedi newid yn Blackboard ar gyfer myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.

Cynllun Gweithredu'r Llyfrgell 24/25

24/07/2025

Dysgwch ragor am eich llyfrgell. Mae ein cynllun gweithredu yn cyflwyno datblygiadau allweddol i wasanaethau a darpariaeth adnoddau’r llyfrgell ac yn manylu ar y defnydd a wnaed o'r llyfrgell.

Darllenwch yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/feedback/action-plans/cynllungweithredu2425/#d.cy.282320