Blackboard Ultra

Croeso i’n tudalen we ar Blackboard Ultra. Mae Blackboard Ultra yn brosiect yng ngofal yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu sy’n ein gweld ni’n symud o’n fersiwn gyfredol o Blackboard, Blackboard Original, i fersiwn newydd: Ultra.

Ar y dudalen we hon, fe welwch ganllawiau perthnasol a chwestiynau cyffredin i staff a myfyrwyr i’ch helpu chi gyda’r symudiad hwn. Wrth i ni symud drwy’r prosiect, bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru gyda rhagor o ddeunyddiau cymorth.

Rydym ni hefyd yn blogio am ein symudiad i Ultra i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynnydd. Byddwn yn defnyddio’r bwletin wythnosol i gyfathrebu newidiadau, diweddariadau a gwybodaeth allweddol i staff a myfyrwyr.

Cam 1: Ionawr 2023, Ultra Base Navigation

Bydd Ultra Base Navigation yn cael ei alluogi ar ein fersiwn fyw o Blackboard rhwng 3 a 6 Ionawr 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn sylwi ar newidiadau i dudalennau glanio Blackboard. Er bod UBN yn cynnig naws newydd i Blackboard, bydd elfennau ymarferol a chynnwys cyrsiau yn aros yr un fath. Efallai y bydd rhywfaint o darfu wrth i ni gael y tudalennau hyn yn fyw. Bydd symud i Ultra Base Navigation yn ein galluogi ni i greu cyrsiau hyfforddi i staff i’w paratoi ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24.

Cam 2: Ionawr 2023-Medi 2023, Ultra Courses

Bydd yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu’n gweithio i gefnogi a pharatoi cydweithwyr ar gyfer Ultra Courses rhwng mis Ionawr 2023 a mis Medi 2023.

Mae Ultra Courses yn darparu ffordd newydd sbon o drefnu cynnwys Blackboard. I helpu gyda’r symudiad hwn, bydd yr holl gyrsiau’n cael eu creu o’r cychwyn gyda thempled safonol y cytunir arno gan y Bwrdd Academaidd.

Bydd cyrsiau Ultra’n cael eu defnyddio o fis Medi 2023.

Hyfforddiant a Chymorth

Hyfforddiant a Chymorth

Bydd yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu’n cynnal rhaglen hyfforddi o fis Mawrth 2023 i helpu i baratoi cydweithwyr ar gyfer Blackboard Ultra. Bydd y sesiynau hyfforddi hyn yn cael eu cynnal ar-lein ar Microsoft Teams.

Bydd sesiynau a drefnir yn ganolog yn cael eu hysbysebu a’u harchebu drwy’r dudalen Archebu Cyrsiau. Byddwn yn trafod â chyfarwyddwyr dysgu ac addysgu adrannau i ddarparu sesiynau hyfforddi rhagarweiniol pwrpasol i’ch adran academaidd.

Cymorth a Chwestiynau Pellach

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ni ar eddysgu@aber.ac.uk.