Blackboard yw amgylchedd dysgu ar-lein Prifysgol Aberystwyth. Mae gan Blackboard amrywiaeth o offer ar gyfer cyfathrebu, cydweithio, asesu, rhoi adborth, myfyrio a rheoli cynnwys, ac mae'n darparu gofod ar-lein ar gyfer gweithgareddau i gynorthwyo dysgu ac addysgu. Gallwch gael mynediad i Blackboard drwy http://blackboard.aber.ac.uk a defnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair Aberystwyth.

Rydym yn darparu nifer o gyrsiau hyfforddi, Cwestiynau Cyffredin a Chanllawiau i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich modiwlau yn Blackboard:

Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG)

Mae’n rhaid i’r holl fodiwlau israddedig ac uwchraddedig a addysgir gadw at Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard PA. Caiff yr IPG ei ategu gan arferion da a gydnabyddir yn y sector yn ogystal ag adborth gan fyfyrwyr PA.

Hyfforddiant a Chymorth

Hyfforddiant a Chymorth

Bydd yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu’n cynnal rhaglen hyfforddi o fis Mawrth 2023 i helpu i baratoi cydweithwyr ar gyfer Blackboard Ultra. Bydd y sesiynau hyfforddi hyn yn cael eu cynnal ar-lein ar Microsoft Teams.

Bydd sesiynau a drefnir yn ganolog yn cael eu hysbysebu a’u harchebu drwy’r dudalen Archebu Cyrsiau. Byddwn yn trafod â chyfarwyddwyr dysgu ac addysgu adrannau i ddarparu sesiynau hyfforddi rhagarweiniol pwrpasol i’ch adran academaidd.

Cymorth a Chwestiynau Pellach

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ni ar eddysgu@aber.ac.uk.