Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) - Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau TG a Llyfrgell i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amodol ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i fedru defnyddio ein hadnoddau.
Eich Cyfrif TG
Eich Cerdyn Aber
Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes
Primo (adnoddau electronig)
- Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn tanysgrifio i amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth ar-lein gan gynnwys e-gyfnodolion ac e-lyfrau sydd hefyd ar gael oddi ar y campws. Mae’r rhain ar gael drwy Primo
- Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r adnoddau hyn oddi ar y campws yn ein Cwestiwn Cyffredin ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws
Cyfleusterau'r llyfrgell
- Mae Primo – catalog y llyfrgell ar gael ar y campws ac oddi arno
- Bydd yn rhaid i chi fewngofnodi â'ch eich enw defnyddiwr a chyfrinair y Brifysgol i ddefnyddio eich cyfrif llyfrgell er mwyn i chi allu cadw llyfrau neu’u hadnewyddu ar-lein.
- Ceir gwybodaeth am ddefnyddio llyfrgelloedd y Brifysgol a benthyca o’n casgliadau ar ein gweddalennau Llyfrgell
- Mae cyngor penodol ar ddefnyddio ein hadnoddau ar gael yng Nghanllaw Llyfrgell LibGuide Dysgu Gydol Oes.
- Yn ogystal â defnyddio llyfrgelloedd y Brifysgol gallwch hefyd ddefnyddio adnoddau llyfrgell mewn llyfrgelloedd eraill.