Gwasanaethau i Staff Academaidd
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn cynnig ystod eang o wasanaethau i staff academaidd i gynorthwyo dysgu, addysgu ac ymchwil.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â thudalen Gwybodaeth i Staff Newydd sydd ar gyfer HOLL aelodau newydd ac yn cynnwys gwybodaeth angenrheidiol ar sut i gychwyn eich cyfrif cyfrifiadur a sut i wneud cais am gerdyn Aber.
Rhagor o Wybodaeth
Cael adnoddau llyfrgell
- Defnyddiwch y Ffurflen Cais Pwrcasu yn Primo (catalog a gwasanaeth darganfod y llyfrgell) i archebu llyfrau, DVDs ac ati o ganolfan gost eich adran, neu anfonwch e-bost i acqstaff@aber.ac.uk
- Cysylltwch â’ch Llyfrgellwyr Pwnc os ydych yn ystyried tanysgrifio i gyfnodolyn, neu i drefnu treialu adnoddau electronig
- Defnyddiwch y ffurflenni Cyflenwi Dogfennau yn Primo i archebu llyfrau, erthyglau neu draethodau ymchwil o lyfrgelloedd eraill. Mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yma
- Gall Gwasanaethau Gwybodaeth drefnu digido penodau o lyfrau neu erthyglau o gyfnodolion sydd ar restri darllen modiwlau fel ei bod hi’n bosibl i’w gweld ar Blackboard, ein Hamgylchedd Dysgu Rhithiol
- Creu dolenni gwe i eitemau yn Primo yn eich rhestrau darllen
- Bydd eich llyfrgellydd pwnc yn cysylltu â chi ynglŷn ag archebu llyfrau ar ôl derbyn ffurflen gymeradwyo modiwl newydd ar gyfer unrhyw fodiwl newydd neu un sydd wedi ei addasu y byddwch wedi ei anfon i’w gymeradwyo
- Os ydych am wirio adnoddau sydd ar gael ar gyfer modiwl sy eisoes yn bodoli, gallwch lan lwytho rhestr ddarllen y modiwl neu ei e-bostio i library@aber.ac.uk
Gwasanaethau e-ddysgu
- AberLearn Blackboard – Amgylchedd Dysgu Rhithiol
- AberLearn Blackboard CHA
- Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu - darparu rhanglen flynyddol o sesiynau, digwyddiadau a gweithdai datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), ac hyrwyddo dysgu ac addysgu drwy gyfrwng technoleg, wrth gefnogi amrywiaeth o offer e-ddysgu, gan gynnwys Blackboard, Turnitin a Panopto.
- Blog Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu – Rhannu Arferion da drwy ddefnyddio technoleg i ddysgu yn Aberystwyth
- Trello - Gwybodaeth â'r adnoddau diweddaraf ar ddysgu trwy gyfrwng technoleg gydag ein llyfrnodau
- Offer dysgu arbenigol
- Recordio darlithoedd trwy AberCast – ar gael ym mhob ystafell ddysgu ar yr amserlen ganolog
- Fideogynadledda – mae pum ystafell gynadledda ar gael i’w defnyddio
Meddalwedd ar gais
Gall staff Gwasanaethau Gwybodaeth drefnu:
- I osod meddalwedd ar gyfrifiaduron cyhoeddus (peiriannau ac amodau yn caniatáu)
- llwytho ffeiliau enghreiffitiol (at ddibenion dysgu) ar gyfrifiaduron cyhoeddus
- darparu meddalwedd sydd wedi ei drwyddedu ar gyfer safleoedd, i’w osod ar gyfrifiaduron sy’n eiddo i’r sefydliad e.e. EndNote (rheoli cyfeiriadau)
Catalog y llyfrgell ac adnoddau electronig
- Chwilio Primo i ddod o hyd i lyfrau, DVDs, papurau newydd, traethodau ymchwil a llyfrau prin yn holl Lyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth. Chwiliwch hefyd am e-lyfrau ac e-gyfnodolion
- Mewngofnodwch i
- Defnyddiwch Fy Nghyfrif Llyfrgell i reoli'ch benthyciadau a'ch ceisiadau
- ddefnyddio Eitemau a gadwyd i gadw cofnodion neu eitemau rydych wedi’u darganfod
- greu cysylltiad i dderbyn gwybodaeth am lyfrau newydd ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi
- Porwch neu chwiliwch ein e-gyfnodolion yn Primo, porwch ein tudalen E-cynfodolion
- Chwiliwch Primo gan ddefnyddio'r opsiwn chwilio Erthyglau i ddarganfod erthyglau cyfnodolion testun llawn o filoedd o gyfnodolion.
- Cliciwch Rhestr E-adnoddau yn Primo i bori drwy’r holl fasau data rydym yn tanysgrifio iddynt, yn ogystal â rhai adnoddau ar-lein rhad ac am ddim o safon uchel
- Dilynwch y cyngor yma i weld y testun llawn o ganlyniadau chwilio Primo
- Os gwelwch y botwm @Aber yng nghanlyniadau chwilio cronfeydd data, cliciwch arno i weld a yw’r testun llawn ar gael
- Dilynwch y cyngor yma pan fyddwch yn gweithio i ffwrdd o’r campws i wneud yn siŵr eich bod yn gallu defnyddio e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd data mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio iddynt
Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth
- PURE yw System Gwybodaeth Ymchwil Gyfredol (CRIS) Prifysgol Aberystwyth. Ynddo ceir gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil cyfredol staff (canlyniadau, pwysigrwydd arolygu myfyrwyr). Mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyflwyniadau REF ac i osod canlyniadau ymchwil staff ac traethodau ymchwil graddau uwch ym Mhorth Ymchwil Aberystwyth.
Rhifau ISBN ar gyfer cyhoeddiadau Aberystwyth
Gall Gwasanaethau Gwybodaeth eich cynghori pan fyddwch yn cyhoeddi ar-lein
Gwasanaeth llyfrgellydd academaidd
Cysylltwch â'ch llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd yn uniongyrchol dros y ffôn neu drwy e-bost llyfrgellwyr@aber.ac.uk gyda’ch ymholiadau pwnc a sgiliau gwybodaeth, a chais am hyfforddiant neu gymorth personol.
Rydym yn darparu: ar gyfer staff
- Ymweliad neu daith gyflwyniadol i weld cyfleusterau'r llyfrgell drwy drefniant
- Cyngor dros y ffôn neu drwy e-bost ar wasanaethau’r llyfrgell
- Cydweithio ar ddarparu hyfforddiant llyfrgell a sgiliau gwybodaeth
- Sesiynau cynghori un-i-un – gallwn ymweld â chi ar y campws drwy apwyntiad i gynghori ar e.e. catalogau ar-lein, adnoddau ar y campws neu i ffwrdd ohono, hyfforddiant EndNote
- Sesiynau adfywio neu ddiweddaru gwybodaeth i grwpiau o staff
Rydym yn darparu: ar gyfer myfyrwyr
- Ymholiadau pwnc a sgiliau dros y ffôn a thrwy e-bost, neu gymorth ac hyfforddiant unigol drwy drefniant
- Cyflwyniadau i fyfyrwyr newydd: sgyrsiau a theithiau yn ystod yr wythnos gyntaf
- Cyflwyniadau i fyfyrwyr ôl-raddedig: drwy drefniant â’r adrannau academaidd
- Cyflwyniadau a theithiau llyfrgell drwy drefniant ar gyfer myfyrwyr fydd yn dechrau ar adegau eraill o’r flwyddyn
- Hyfforddiant sgiliau gwybodaeth penodol mewn partneriaeth â staff academaidd fel rhan o’ch modiwlau neu raglenni dysgu eraill e.e. techneg ymchwilio, meddalwedd cyfeiriadol, osgoi llên ladrad
- Digwyddiadau arbennig i gynorthwyo dysgwyr e.e. Teithiau Primo, Aseiniadau Cyntaf (ar y cyd â chydweithwyr, adrannau gwasanaeth eraill ac Urdd y myfyrwyr a staff academaidd)
- Yn ddewisol ar brynhawn Mercher Rhaglen Ymarfer Astudio i Israddedigion a Rhaglen Ymarfer Astudio i Uwchraddedigion
Cysylltiadau ffurfiol gydag adrannau academaidd
Mae llyfrgellwyr cymorth pwnc yn cysylltu'n uniongyrchol â Chynrychiolwyr Adrannau, sy'n aelodau o staff academaidd o bob adran. Ymhlith fforymau eraill ceir:
- Byrddau Crwn: cyfle i staff GG drafod newidiadau strategol i gynorthwyo adrannau yn fwy effeithiol, a rhoi adroddiadau ar ddigwyddiadau a datblygiadau perthnasol.
- Mae staff GG hefyd yn mynychu Pwyllgorau Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr adrannol i ateb cwestiynau a chael adborth y staff a'r myfyrwyr, ac i roi adroddiadau ar unrhyw adnoddau neu wasanaethau newydd.
- Byrddau Adrannau: bydd llyfrgellwyr cymorth pwnc yn hapus i fynychu ac i ddwyn sylw at ddatblygiadau newydd ac i wella eu dealltwriaeth o’r adrannau maent yn eu cynorthwyo.