Myfyrwyr
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn darparu gwasanaethau llyfrgell, cyfrifiadurol a chyfryngau i Brifysgol Aberystwyth. I ddefnyddio ein hadnoddau byddwch angen cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth a cherdyn Aber. Mae pob defnydd yn amodol ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Caiff cyfrifon cyfrifiadurol i bob myfyriwr newydd a phresennol, gan gynnwys Myfyrwyr Dysgu o Bell a Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes eu creu a’u diweddaru o’r System Cofrestru Myfyrwyr (AStRA) drwy gyfrwng proses dros nos. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi llenwi a chyflwyno’r holl ffurflenni y gofynnwyd amdanynt gan eich Adran, y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion a’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr.
Bydd eich cyfrif cyfrifiadurol yn aros ar y system trwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr cofrestredig.
Gwybodaeth i fyfyrwyr ar ddiwedd eu cyfnod cofrestru:
- Parhad cofrestriad i fyfyrwyr uwchraddedig
- Graddedigion – bydd modd iddynt wneud cais am Ddarllenyddiaeth Gysylltiol yn Llyfrgelloedd y Brifysgol ac am gyfeiriad e-bost alumni
- Myfyrwyr sydd wedi tynnu allan dros dro
Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr
Gall Clybiau a Chymdeithasau sy’n gysylltiedig ag Undeb y Myfyrwyr gael cyfrif cyfrifiadurol ar gyfer cyhoeddi gweddalennau ac e-bost. Manylion llawn yma