Amgylchedd |
- Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu amgylchedd groesawgar i gefnogi ein defnyddwyr gyda’u hastudiaethau
|
Cyfathrebu |
- Yr ydym yn anelu at ateb 100% o ymholiadau i gyfeiriadau e-bost Gwasanaethau Gwybodaeth a chyfrifon cyfryngau chymdeithasol, o fewn 3 diwrnod, ond fel rheol byddwn yn ymateb o fewn 24 awr (oni bai am benwythnosau, dyddiau cau y Brifysgol a Gwyliau Banc)
- Yr ydym yn anelu at ateb, o fewn oriau craidd, 85% neu fwy o alwadau i Wasanaethau Gwybodaeth ar 01970 622400
- Bydd tudalennau gwe ac ein Cwestiynau Cyffredin yn cwrdd ag anghenion defnyddwyr
|
Cymorth a Chefnogaeth |
- Bydd cymorth a chefnogaeth ar gael o 08:30-17:00 yn ystod y tymor
- Bydd pob myfyriwr newydd yn cael cynnig sesiwn ymgynefino i’w gyflwyno i wasanaethau ac adnoddau Gwasanaethau Gwybodaeth
- Bydd 90% neu fwy o’n defnyddwyr yn fodlon gydag ansawdd y gwasanaeth a dderbynir wrth y desgiau ymholiadau
|
Argaeledd Adnoddau TG |
- Bydd holl wasanaethau craidd TG ar gael 99% o’r amser yn ystod oriau craidd gyda’r mwyafrif o’r systemau ar gael 24/7 ar wahân i gyfnodau cynnal a chadw a gynlluniwyd o flaen llaw
- Bydd 95% o’r cyfrifiaduron cyhoeddus yn gweithio ar unrhyw adeg
- Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaeth di-wifr cyflym a dibynadwy sydd ar gael ar y campws ac ym mhob adeilad preswyl
|
Argaeledd Adnoddau Llyfrgell |
- Bydd llyfrau print ar gael i'w benthyca'n uniongyrchol o silffoedd y llyfrgell, trwy'r cynllun Clicio a Chasglu a phan fo'n briodol, y cynllun benthyca drwy'r post
- Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwella argaeledd llyfrau cwrs a thestunau angenrheidiol
|