Strategaeth Ddigidol
Croeso i Strategaeth Ddigidol Prifysgol Aberystwyth.
Diben y strategaeth hon yw edrych ymlaen a gosod gweledigaeth ar gyfer mabwysiadu ymagwedd ddigidol ar draws y sefydliad. Dros y cyfnod a amlinellir yn y strategaeth, bydd digidol yn graidd i holl weithgareddau’r sefydliad ac yn y ddogfen hon eglurir sut y caiff ei ddefnyddio i gyfoethogi dysgu ac addysgu, ymchwil, ein gweinyddiaeth a phrosesau yn ogystal â’n presenoldeb byd-eang.
Datblygwyd y strategaeth drwy ymgynghori â myfyrwyr, staff, penaethiaid adran a’r tîm Gweithredol. Mae wedi tynnu ar dystiolaeth o ffynonellau niferus gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS), Holiaduron Gwerthuso Modiwl, sylwadau Rho Wybod Nawr, Arolygon Defnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth, a’r tri arolwg Profiad Digidol Insights JISC (i staff addysgu, staff proffesiynol a myfyrwyr). Ymhellach, mae adroddiadau a llenyddiaeth ddiweddar (gweler cyfeirnodau), cynadleddau a strategaethau digidol eraill y Brifysgol wedi helpu i’w ffurfio. Disgwyliwn i’r strategaeth fod yn ‘ddogfen fyw’, a gaiff ei diweddaru dros y cyfnod gan ystyried profiad, amgylchedd a blaenoriaethau newidiol, a’r lefelau o gyllid sydd ar gael. Fodd bynnag, mae’r themâu a’r egwyddorion ehangach a osodir yn y Strategaeth Ddigidol hon yn debygol o aros yn fwy cyson gan helpu’r Brifysgol i lywio ei ffordd ymlaen.
Mae’r Strategaeth Ddigidol wedi’i chostio’n llawn ac mae cynlluniau gweithredu manwl wedi’u datblygu. Caiff cyllidebau cyfalaf a refeniw i gefnogi gweithrediad y Strategaeth eu cyflwyno fel rhan o broses y cylch cynllunio blynyddol.
Mae’r ddogfen hon yn egluro gweledigaeth uchelgeisiol i drawsnewid y Brifysgol yn sefydliad digidol sy’n arwain y sector. Mae’n cefnogi Cynllun Strategol y Brifysgol 2018-2023, Strategaeth Dysgu ac Addysgu 2019-2022, a’r Strategaeth Ymchwil ac Arloesi 2019-24. Bydd y strategaeth yn gweithio gyda strategaethau Ystadau a Phobl y Brifysgol ac yn eu hategu. Mae’r ddogfen hefyd yn adlewyrchu Strategaeth Ddigidol i Gymru Llywodraeth Cymru.
Er eglurder, mae’n werth nodi’r hyn nad yw’r strategaeth:
- Nid yw’n strategaeth ar gyfer yr adran Gwasanaethau Gwybodaeth; mae’n strategaeth ar draws y Brifysgol y dylid ei pherchnogi ar draws y sefydliad.
- Nid yw’n ymwneud â chyfrifiaduron a TG yn unig; mae pobl a diwylliant yn allweddol i’r strategaeth, fel y mae’r ffordd rydym yn gweithio.
- Nid yw’n ymwneud â dysgu ac addysgu’n unig; mae’n cwmpasu pob agwedd ar fusnes y Brifysgol.
Mae digidol yn rym sy’n aflonyddu, gyda modelau busnes diwydiannau cyfan, o gerddoriaeth, cyhoeddi a manwerthu’n cael eu trawsnewid. Mae cyfradd newid y chwyldro digidol yn cyflymu. Mae ton o dechnolegau sy’n aeddfedu fel deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio, realiti estynedig / rhithwir, Rhyngrwyd Pethau, roboteg, dadansoddeg data a symudol / 5G yn cynnig cyfleoedd enfawr yn ogystal â bygythiadau i Brifysgolion. Mae disgwyliadau myfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr o ran eu profiad digidol yn y Brifysgol hefyd yn esblygu’n gyflym. Ni all Prifysgol Aberystwyth fforddio bod yn hunanfodlon; mae angen iddi ymgysylltu’n dechnolegol a symud ymlaen ar lwybr o aeddfedrwydd digidol uwch. Diben cyffredinol y strategaeth yw gosod y Brifysgol ar sylfaen gref i ymateb yn rhagweithiol i dueddiadau digidol a chymdeithasol ehangach, yr amgylchedd technolegol sy’n newid yn gyflym, ac yn y pen draw fod yn llwyddiannus wrth gyflawni ei hamcanion drwy drawsnewid digidol.
Tim Davies, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth, Mehefin 2021