Teithio

Yn aml mae teithio yn rhan hanfodol ac annatod o ddiwrnodau gwaith i lawer o bobl oherwydd natur gweithgareddau dysgu, ymchwil a masnachol y Brifysgol. Felly mae'n hanfodol bod pob aelod o staff yn gyfarwydd â Pholisi Teithio'r Brifysgol, a'r canllawiau cysylltiedig, yn enwedig os ydynt yn teithio'n rheolaidd ar unrhyw fath o fusnes sy'n gysylltiedig â’r Brifysgol.

Polisi

Dylai pob aelod o staff sicrhau eu bod yn gyfarwydd â gofynion Polisi Teithio’r Brifysgol:

Yn benodol, mae tri phrif beth i’w hystyried a'u gwneud cyn teithio:

  • Rhybudd ymlaen llaw o bob taith dramor er mwyn sicrhau bod yswiriant priodol wedi’i drefnu;
  • Llunio asesiadau risg i'r daith ac ar gyfer gweithgareddau penodol;

Darparu manylion llawn y daith a manylion cyswllt mewn argyfwng.

Cyngor Teithio gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO)

Wrth deithio dramor, dylai'r asesiadau risg perthnasol gyfeirio at gyngor teithio y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO), gan ystyried y mesurau rheoli priodol a awgrymir gan y swyddfa honno.

Cewch y cyngor teithio diweddaraf gan yr FCO yn: https://www.gov.uk/foreign-travel-advice

Bydd yr FCO fel arfer yn dynodi dosbarth penodol o gyfyngiad ar gyfer pob gwlad neu ranbarth:

  1. Gwledydd neu ranbarthau nad oes cyfyngiadau teithio wedi eu gosod arnynt gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad;
  2. Gwledydd neu ranbarthau lle mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cynghori yn erbyn teithio iddynt, ac eithrio ar fusnes hanfodol;
  3. Gwledydd neu ranbarthau lle mae'r Swyddfa Ranbarthau a Chymanwlad yn cynghori yn erbyn teithio iddynt o gwbl.

Dylai'r staff fod yn ymwybodol o'r broses gymeradwyo briodol ar gyfer teithio i bob un o'r mathau hyn o wledydd, a monitro'n rheolaidd am unrhyw newidiadau yng nghyngor yr FCO yn ystod y cyfnod cyn y bwriedir teithio.

Yswiriant Teithio

Mae'n hanfodol i unrhyw staff neu fyfyrwyr sydd yn teithio dramor ar deithiau sydd yn ymwneud â'r Brifysgol (gan gynnwys y rhai sy'n mynd i gynadleddau, sy'n ymgymryd â gwaith maes, neu ar leoliadau gwaith) sicrhau bod yswiriant teithio wedi'i drefnu trwy ddarparwr y Brifysgol. Mae'n RHAID i hyn gael ei drefnu cyn unrhyw deithio dramor.

Er mwyn trefnu yswiriant teithio ar gyfer teithiau sy'n ymwneud â gwaith y Brifysgol, cysylltwch â'r Adran Gyllid gyda manylion ynghylch:

  • Dyddiadau'r teithio;
  • Y cyrchfannau;
  • Pwrpas y teithio.

Am rhagor o wybodaeth ynghylch Yswiriant Teithio, cliciwch yma neu cysylltwch â'r Adran Gyllid ar travel@aber.ac.uk. 

Hysbysiad Diogelu Data: Mae'r Tîm Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd yn ymroddedig i ddiogelu data personol trwy gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data ac arfer gorau. Am fanylion ynghylch sut yr ydym yn rheoli eich data personol, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/gwybodaeth-am-ddiogelu-data/

Rhestr Wirio Teithio

Cyn ymgymryd ag unrhyw deithio ar ran y Brifysgol, efallai y bydd ystyriaethau cyffredin y dylai staff eu bodloni cyn iddynt deithio. Gall yr ystyriaethau hynny gynnwys y camau canlynol, ymhlith pethau eraill:

  1. Gwnewch yn siŵr fod gennych ganiatâd Cyfarwyddwr eich Athrofa neu Bennaeth eich Adran Gwasanaethau Proffesiynol i deithio.
  2. Gwnewch yn siŵr fod gennych gopïau wrth gefn o'ch holl rifau cyswllt a'u bod ar gael ar gyfrif e-bost / ar bapur yn eich ystafell, yn ogystal â’ch pasbort a’ch fisa.
  3. Cysylltwch â’ch Athrofa yn rheolaidd ar adegau y cytunir arnynt ymlaen llaw.
  4. Gwiriwch eich bod yn cael y brechiadau priodol a chymryd mesurau diogelu iechyd eraill cyn teithio.
  5. Gwiriwch eich bod wedi gwneud cais am y Fisâu perthnasol (os yw’n berthnasol) ar gyfer y gwledydd y byddwch yn ymweld â nhw - a'ch bod wedi'u derbyn.
  6. Mae manylion eich taith wedi’u cofnodi gan Gyfarwyddwr eich Athrofa neu Bennaeth eich Adran Gwasanaethau Proffesiynol a’r Swyddfa Ryngwladol.
  7. Cysylltwch â’r Swyddfa Ryngwladol ar gyfer gwybodaeth am wlad benodol ar gyfer materion ymarferol a pholisi’r Brifysgol.
  8. Mae’r Brifysgol wedi cadarnhau bod ei hyswiriant teithio yn cynnwys eich taith chi.
  9. Mae gennych ddigon o arian ar gyfer y daith, ac wedi gwneud cais am dreuliau ymlaen llaw, os oes angen.
  10. Cadwch bob derbynneb i hawlio treuliau (gwnewch yn siŵr fod y dderbynneb yn ddarllenadwy er mwyn cadarnhau’r hyn a brynwyd).
  11. Rydych wedi mynegi unrhyw bryderon a fo gennych cyn gadael.

Asesu Risg

Mae Asesiadau Risg yn rhan annatod o’r broses deithio, ac mae'n ofynnol i gyflogwyr ddiogelu'r sawl sy’n teithio ar fusnes rhag niwed, cyhyd ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol. O’r herwydd, rhaid i asesiadau risg gael eu cwblhau ar gyfer pob taith sy’n ymwneud â busnes y Brifysgol. Dylai asesiadau risg gael eu cwblhau gan unigolyn cymwys yn yr Athrofa neu'r Adran Gwasanaethau Proffesiynol (ac fe all fod yr aelod staff neu’r myfyriwr fydd yn teithio). Mewn achosion lle mae'r unigolyn cymwys yn aelod cymwys o staff, dylai’r unigolyn/unigolion fydd yn teithio gael mewnbwn sylweddol wrth nodi peryglon posib a mesurau rheoli, ac wrth lunio cynnwys cyffredinol yr asesiad risg, yn enwedig lle bydd y gweithgareddau arfaethedig yn gofyn am arbenigedd technegol a gwyddonol sylweddol.  

Dylai'r staff fod yn ymwybodol o'r mesurau rheoli a nodir yn yr asesiadau risg perthnasol, a dylent gydymffurfio â nhw. Bydd natur yr asesiadau risg yn amrywio, gan ddibynnu ar natur a lleoliad y daith, a’r gweithgareddau yn ystod y daith. Fel mater o'r ymarfer gorau, dylai pob achos o deithio dramor ar waith sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol gynnwys un asesiad risg sy’n canolbwyntio ar y dull(iau) teithio, ac ail asesiad risg yn canolbwyntio ar y gweithgareddau yn ystod y daith (e.e. gwaith maes, ymchwil, a.y.y.b.).
Gall y math o bethau i’w hystyried mewn asesiad risg teithio gynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • Glefydau neu bryderon meddygol penodol eraill, megis unrhyw gyflyrau sydd ar yr unigolion dan sylw y maent yn gwybod amdanynt;
  • Ffitrwydd yr unigolyn i deithio;
  • Gofynion imiwneiddio / brechu;
  • Llety;
  • Codi a chario eitemau;
  • Protocolau ar gyfer Argyfwng Meddygol;
  • Problemau neu bryderon diogelwch penodol ynglŷn â’r lleoliad arfaethedig;
  • Terfysgaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am Asesiadau Risg, cliciwch yma.