Cyfarpar Diogelu Personol (CDP) yn y gwaith
Mae gan gyflogwyr gyfrifoldebau yn gysylltiedig â darparu a defnyddio cyfarpar diogelu personol (CDP) yn y gwaith. Mae’r wybodaeth isod, gan Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (IDA) yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud i gyflawni gofynion Deddf Cyfarpar DiogeluPersonol yn y Gwaith 1992 (fel a ddiwygwyd).
Beth yw Cyfarpar Diogelu Personol (CDP)?
Cyfarpar yw CDP a fydd yn amddiffyn y defnyddiwr yn erbyn peryglon iechyd a diogelwch yn y gwaith. Gall gynnwys offer fel hetiau diogelwch a hetiau caled, menyg, cyfarpar diogelu llygaid, dillad amlygrwydd uchel, esgidiau diogelwch ac harneisiau diogelwch.
Ni chynhwysir cyfarpar sy’n diogelu’r clyw na chyfarpar resbiradol a ddarperir ar gyfer y mwyafrif o sefyllfaoedd gwaith yn y ddeddf hon gan fod deddfwriaeth arall fwy penodol yn briodol iddynt. Fodd bynnag, rhaid i’r eitemau hynny fod yn gyson ag unrhyw CDP arall a ddarparwyd.
Ni ddaw helmedau beic na helmedau pigfain dan orchuwyliaeth y ddeddfwriaeth. Mae helmedau beic modur yn amod cyfreithiol dan ddeddfwriaeth trafnidiaeth. Mae Deddf Cyflogaeth 1989 yn esgusodi Siciaid sy’n gwisgo tyrban rhag gorfod gwisgo cyfarpar amddiffyn y pen ar safleoedd adeiladu.
Beth mae’r Deddf yn ei fynnu?
Dylid defnyddio CDP fel y gobaith olaf. Os oes peryglon i iechyd a diogelwch na ellir eu rheoli drwy ddulliau eraill, mae’r Ddeddf Cyfarpar DiogeluPersonol (CDP) yn y Gwaith 1992 yn mynnu bod CDP yn cael ei ddarparu.
Mae’r ddeddf yn mynnu y dylai Cyfarpar DiogeluPersonol:
- Gael ei asesu’n iawn cyn ei ddefnyddio i sicrhau ei fod yn addas;
- Gael ei gynnal a’i gadw’n iawn;
- Gael ei ddarparu gyda chyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio’n diogel;
- Gael ei ddefnyddio’n ddiogel gan weithwyr.
Asesu CDP Addas
Er mwyn sicrhau bod y math cywir o CDP wedi’i ddewis, ystyriwch y gwahanol beryglon yn y gweithle a nodi pa fath o CDP a fydd yn rhoi amddiffyniad digonol yn eu herbyn; gall hyn fod yn wahanol i bob swydd.
Gofynnwch i’ch cyflenwr am y mathau o CDP sydd ar gael, a’u haddasrwydd ar gyfer tasgau gwahanol. Mewn rhai achosion, efallai bydd angen i chi gael cyngor gan arbenigwyr neu gynhyrchwr y CDP.
Fynhonnell ddefnyddiol arall o wybodaeth yw Ffederasiwn Diwydiant Diogelwch Prydain (www.bsif.co.uk).
Ystyriwch y canlynol wrth asesu addasrwydd:
- A yw’r CDP yn amddiffyn y gwisgwr rhag peryglon ac yn ystyried yr amgylchiadau amgylcheddol lle mae’r dasg yn digwydd? Er enghraifft, efallai nad yw amddiffynydd llygad a gynlluniwyd i amddiffyn yn erbyn pla-leiddiaid amaethyddol yn rhoi amddiffyniad yn erbyn defnyddio malwr i dorri haearn a charreg.
- A yw defnyddio CDP yn cynyddu lefelau risg neu’n ychwanegu peryglon newydd, e.e. drwy wneud cyfathrebu’n anoddach?
- A ellir ei addasu i ffitio’r gwisgwr yn iawn?
- Beth yw anghenion y swydd a’r gofynion a roddir ar y gwisgwr? Er enghraifft, am faint o amser mae angen gwisgo’r CDP, yr ymdrech gorfforol sydd ei angen i wneud y swydd neu’r gofynion am welededd a chyfathrebu.
- Os yw rhywun yn gwisgo mwy nag un eitem o CDP, a ydynt yn gyfaddas? Er enghraifft, a yw defnyddio anadlydd yn ei wneud yn anodd gwisgo amddiffynydd llygad ar yr un pryd?
Dewis a defnyddio
Wrth ddewis CDP: BSIF
- Dewiswch nwyddau o ansawdd uchel sydd wedi’u marcio â CE yn unol â’r Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol yn y Gwaith 1992 - gall cyflenwyr eich cynghori;
- Dewiswch offer sy’n addas i’r gwisgwr – gan ystyried maint, ffit a phwysau; efallai y bydd angen i chi ystyried iechyd y gwisgwr, e.e. os yw’r offer yn drwm iawn, neu os oes gan y gwisgwr gyflwr iechyd, efallai na fydd CDP safonol yn addas;
- Gadewch i’r sawl sy’n gwisgo’r cyfarpar gynorthwyo i ddewis, bydd yn fwy tebygol o’i ddefnyddio.
Defnyddio a dosbarthu CDP i’ch gweithwyr:
- Rhaid hysbysu a hyfforddi pobl sut i’w ddefnyddio;
- Dywedwch wrthynt pam fod ei angen, pryd i’w ddefnyddio a beth yw’r cyfyngiadau;
- Peidiwch â chaniatau eithriadau ar gyfer y mân ddyletswyddau sydd ddim ond yn cymryd ychydig funudau;
- Os oes unrhywbeth yn newid yn y swydd, gwnewch yn sicr fod y CDP yn dal yn addas – siaradwch â’ch cyflenwr, gan esbonio’r gwaith wrthynt;
- Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’ch ymgynghorydd arbenigol.
Y peryglon a’r mathau o CDP
Llygaid
Peryglon: cemegau neu fetal yn tasgu, llwch, teflynnau, nwy ac anweddau, ymbelydredd.
Opsiynau: Sbectol ddiogelwch, sbectol, gorchudd-wyneb, cysgodion llygaid.
Noder: Sicrhewch fod gan yr amddiffynydd-llygad y cyfuniad cywir o amddiffyniad rhag gwrthdrawiad/llwch/tasgiad/metal toddedig ar gyfer y dasg a’i fod yn addas i’r defnyddiwr.
Pen
Peryglon: Gwrthrychau sy’n cwympo neu’n hedfan, perygl taro pen, ymglymu gwallt.
Opsiynau: Amrywiaeth o helmedau, hetiau caled a capiau ‘bwmp’.
Noder: Mae rhai hetiau diogelwch yn cynnwys neu gellir eu cynnwys ag amddiffynwyr clyw neu llygad a gynlluniwyd yn arbennig. Peidiwch ag anghofio amddiffynydd gwddf e.e. sgarff i’w defnyddio wrth weldio. Peidiwch â defnyddio amddiffynwr pen os yw wedi’i ddifrodi – amnewidwch ef.
Anadlu
Peryglon: Llwch, anweddau, nwy, awyrgylch sy’n ddiffygiol o ocsigen.
Opsiynau: Anadlydd tafladwy , helmedau sy’n bwydo aer, offer anadlu.
Noder: Dylid defnyddio’r math cywir o offer anadlu gan fod pob un yn effeithiol ddim ond gydag amrywiaeth cyfyng o sylweddau. Os oes prinder ocsigen neu beryg o golli ymwybyddiaeth oherwydd lefelau uchel o anweddau niweidiol, defnyddiwch offer anadlu yn unig – peidiwch â defnyddio cetrisen hidlo. Bywyd cyfyngedig sydd i getrisen; pan fyddwch yn eu cyfnewid nhw, neu unrhyw ran arall, edrychwch ar gyfarwyddiadau’r cynhyrchydd a sicrhewch bod y rhan cyfnewidol cywir yn cael ei ddefnyddio. Wrth ddefnyddio offer anadlol amddiffynnol, edrychwch ar gyhoeddiad yr IDA Respiratory protective equipment at work: A practical guide (Gweler ‘ Darllen Pellach’).
Amddiffyn y Corff
Peryglon: Eithafion tymheredd, tywydd anffafriol, cemegau neu fetal yn tasgu, chwystrelliad o ollyngiadau dan bwysedd neu ddrylliau chwystrellu, gwrthdaro neu dreiddiad, llwch sydd wedi’i lygru, traul eithafol neu ymglymu â’ch dillad eich hun.
Opsiynau: ‘Overalls’ confensiynol neu dafladwy, siwtiau bwyler, dillad amddiffynnol arbenigol e.e. ffedogau, dillad gwelededd uchel.
Noder: Mae’r dewis o ddefnydd yn cynnwys gwrth-dân, gwrth-statig, cadwyn, anhydraidd gan gemegau, a gwelededd uchel. Peidiwch ag angofio dulliau eraill o amddiffyn, fel harneisiau diogelwch a siacedi bywyd.
Dwylo a Breichiau
Peryglon: Crafu, eithafion tymheredd, toriadau a thyllu, gwrthdaro, cemegau, sioc drydanol, heintiau’r croen, afiechyd neu heintio.
Opsiynau: Menyg, menyg dur, menyg cau, cyffion garddwn, a breichledau.
Noder: Dylech osgoi defnyddio menyg wrth drafod peiriannau fel driliau mainc, lle gall y menyg ddal. Mae rhai defnyddiau yn gallu cael eu treiddio’n gyflym gan gemegau felly byddwch yn ofalus wrth eu dewis, gweler gwefan ‘Skin at Work’ yr IDA (www.hse.gov.uk/skin).
Mae hufennau rhwystro yn annibynadwy ac ni allant gymryd lle CDP iawn. Gall wisgo menyg am gyfnodau hir wneud y croen yn boeth a chwyslyd, gan arwain at broblemau â’r croen; gall defnyddio menyg mewnol cotwm helpu i osgoi hyn. Byddwch yn ymwybodol y gall fod gan rai bobl alergedd i ddeunyddiau a ddefnyddir mewn menyg e.e. latecs.
Traed a Choesau
Peryglon: Gwlybaniaeth, crynhodiadau electrostatig, llithro, toriadau a thyllu, gwrthrychau’n cwympo, cemegau neu fetal yn tasgu, crafu.
Opsiynau: Esgidiau diogelwch neu esgidiau â chapiau traed amddiffynnol a gwadn anhydraidd, sanau, legins.
Noder: Gall esgidiau gael amryw o batrymau gwadnau a deunyddiau i helpu osgoi llithro mewn amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys gwadnau sy’n wrthiannol i olew a chemegion.
Gall hefyd fod yn wrth-statig, yn dargludo trydan, ac yn ynysu’n thermol. Mae’n bwysig dewis yr esgidiau priodol ar gyfer y peryglon y gwyddoch amdanynt.
Hyfforddiant
- Sicrhewch bod unrhywun sy’n defnyddio CDP yn ymwybodol o’r rheswm pam fod ei angen, pryd i’w ddefnyddio, ei drwsio neu gyfnewid, sut i adrodd os oes nam, a beth yw ei gyfyngiadau.
- Hyfforddi a hysbysu pobl sut i ddefnyddio CDP yn gywir, a sicrhau eu bod yn gwneud hyn. Cynnwys rheolwyr a goruchwylwyr yn yr hyfforddiant. Efallai na fydd angen iddynt ddefnyddio’r cyfarpar yn bersonol, ond mae angen iddynt sicrhau bod eu staff yn ei ddefnyddio’n gywir.
- Mae’n bwysig bod defnyddwyr yn gwisgo CDP trwy’r amser pan maent yn agored i berygl. Peidiwch â chaniatáu eithriadau ar gyfer mân dasgau sydd ddim ond yn cymryd ychydig funudau.
- Gwiriwch yn rheolaidd a yw CDP yn cael ei ddefnyddio ac ymchwiliwch i achosion lle nad yw’n cael ei ddefnyddio. Gall arwyddion diogelwch fod yn nodiadau atgoffa defnyddiol i wisgo CDP, sicrhau bod staff yn deall yr arwyddion, beth yw eu hystyr a lle gallant gael yr offer e.e. i ymwelwyr neu gontractwyr.
Cynnal a Chadw
Sicrhewch:
- Bod yr offer yn cael ei ofalu amdano a’i storio’n gywir pan nad yw’n cael ei ddefnyddio e.e mewn cwpwrdd sych a glân, neu os ydynt yn eitemau llai mewn bocs neu gasyn;
- Sicrhau bod yr offer wedi’i gadw’n lân ac mewn cyflwr da – cadwch at amserlen cynnal a chadw’r gwneuthurwr (gan gynnwys cyfnodau newid a awgrymir a chyfnod oes y cyfarpar);
- Gall y gwisgwr hyfforddedig wneud gwaith cynnal a chadw syml, ond dylid gwneud unrhyw atgyweiriadau pellach gan arbenigwyr.
Iechyd a Diogelwch
Gweithredol
- Bod rhannau amnewid yr un peth â’r gwreiddiol e.g. hidlwyr anadlyddion;
- Eich bod yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw a sut mae gwneud hynny;
- Bod gweithwyr yn gwneud defnydd iawn o CDP ac yn adrodd os caiff ei golli neu ei ddinistrio neu os oes unrhyw nam arno. Cofiwch sicrhau fod eitemau amnewid o gyfarpar CDP i’w cael bob amser. Gallai fod yn ddefnyddiol cael cyflenwad o CDP tafladwy, e.e. ar gyfer ymwelwyr sydd angen dillad amddiffynnol.
Marciau CE
Sicrhewch fod unrhyw CDP a brynir wedi’i farcio â ‘CE’ ac yn cydymffurfio â gofynion Deddf Cyfarpar Diogelu Personol 2002. Mae’r marciau CE yn dynodi bod y CDP yn bodloni gofynion diogelwch sylfaenol ac mewn rhai achosion byddant wedi’u profi a’u hardystio gan gorff annibynnol.
Deddfwriaeth Arall
Nid yw’r Deddfwriaethau CDP yn y Gwaith yn gymwys os yw’r pum deddf canlynol yn gofyn darpariaeth a defnydd CDP yn erbyn y peryglon hyn. Er enghraifft, cynhwysir menyg a ddefnyddir i atal cemegau peryglus rhag treiddio i’r croen yn Neddf Rheoli Sylweddau sydd yn Beryglus i Iechyd 2002. Y deddfau yw:
- Rheoliadau Llywodraethu Plwm yn y Man Gwaith 2002.
- Rheoliadau Pelydriad Ioneiddio 1999.
- Rheoliadau Llywodraethu Asbestos 2012.
- Rheoliadau Llywodraethu Sylweddau a all Beryglu Iechyd 2002 (fel a ddiwygiwyd).
- Rheoliadau Llywodraethu Sŵn yn y Man Gwaith 2005.
Pwyntiau Allweddol i’w Cofio
A oes unrhyw ffordd arall ar wahân i ddefnyddio CDP i reoli risg yn ddigonol e.e. drwy ddefnyddio rheoliadau peirianneg? Os na, sicrhewch:
- Bod CDP addas wedi’i ddarparu;
- Ei fod yn cynnig diogelwch digonol ar gyfer ei brif ddefnydd.
- Bod rheini sydd yn ei ddefnyddio wedi’u hyfforddi’n ddigonol i’w ddefnyddio’n ddiogel.
- Ei fod wedi’i gynnal a’i gadw’n gywir a bod unrhyw ddiffygion yn cael eu hadrodd.
- Y caiff ei ddychwelyd i’w storfa gywir ar ôl ei ddefnyddio.
A allaf godi tâl am ddarparu CDP?
Ni all cyflogwr ofyn am arian gan weithiwr am CDP, os oes modd ei ddychwelyd neu beidio. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr asiantaeth os ystyrir yn gyfreithlon eu bod yn weithwyr i chi. Os yw cyflogaeth wedi dod i ben a bod y gweithiwr yn cadw’r CDP heb ganiatâd y cyflogwr, yna, os gwnaed hynny’n glir yn y cytundeb, mae’n bosib y gall y cyflogwr dynnu costau am gyfarpar o unrhyw gyflog sy’n ddyledus.