Adrodd am Ddigwyddiad
Mae’r adran ganlynol yn rhoi arweiniad ar lenwi ffurflen Cofnodi Digwyddiad. Dylid llenwi ac anfon ffurflen Cofnodi Digwyddiad i roi gwybod am bob digwyddiad sydd wedi digwydd yn ogystal ag unrhyw ddigwyddiad a fu bron â digwydd, waeth pa mor ddifrifol oeddynt na beth oedd eu heffaith.
Rhan 1 - Eich Manylion
1. Eich Enw?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau enw’r unigolyn sy’n adrodd am y digwyddiad. Cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, dylai’r sawl sy’n adrodd fod yr aelod o staff sy’n llenwi’r Ffurflen Cofnodi Digwyddiad. Mewn achosion pan nad yw hynny’n bosibl, dylid nodi enw’r unigolyn a roddodd wybod am y digwyddiad yn wreiddiol. Bydd y maes hwn yn awtomatig yn llenwi i nodi gwybodaeth yr unigolion y defnyddiwyd eu manylion i fewngofnodi i’r system cofnodi digwyddiadau.
2. Eich Manylion Cysylltu?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau eu manylion cysylltu. Dylai’r wybodaeth a roddir gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn. Bydd y maes hwn yn awtomatig yn llenwi i nodi gwybodaeth yr unigolion y defnyddiwyd eu manylion i fewngofnodi i’r system cofnodi digwyddiadau.
3. Eich Adran?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau enw’r Adran sy’n rhoi gwybod am y digwyddiad. Hon fydd Adran y sawl sy’n adrodd. Y maes hwn sy’n pennu at bwy yr anfonir yr ymchwiliad i’r digwyddiad.
Rhan 2 - Dyddiad, Amser a Lleoliad
4. Dyddiad y digwyddiad?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau dyddiad y digwyddiad. Dylai defnyddwyr ddewis yr opsiwn o’r calendr, gan sicrhau mai’r dyddiad a gofnodwyd yw’r dyddiad y digwyddodd y digwyddiad, yn hytrach na’r dyddiad y mae’r sawl sy’n adrodd yn llenwi’r Ffurflen Cofnodi Digwyddiad.
Gellir newid y mis trwy ddefnyddio’r saethau toglo, a dewis y dyddiad perthnasol o’r calendr drwy glicio ar y dyddiad hwnnw o’r opsiynau sydd ar gael.
5. Amser y digwyddiad
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau amser y digwyddiad. Dylai’r sawl sy’n adrodd gofnodi amser y digwyddiad ar fformat aa:mm gan ddefnyddio cloc 24 awr h.y. chwarter wedi naw yn y nos fyddai 21:15. Pan nad yw union amser y digwyddiad yn hysbys, dylai’r sawl sy’n adrodd geisio roi eu hamcangyfrif gorau o’r amser, neu roi ‘ddim yn gwybod’ os nad oes modd amcangyfrif.
6. Lleoliad y digwyddiad (Adeilad)?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau lleoliad y digwyddiad. Dylai defnyddwyr ddewis yr adeilad priodol o’r opsiynau a gynigir. Dylai defnyddwyr glicio saeth y gwymplen i weld yr opsiynau a dewis o’u plith.
7. Union leoliad y digwyddiad?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau yr union ardal y digwyddodd y peth. Dylai defnyddwyr geisio bod mor benodol â phosibl o ran enw’r campws, Adeilad, Ystafell (os yw’n berthnasol) ac union leoliad y digwyddiad. Testun rhydd yw’r maes hwn, felly dylai’r sawl sy’n adrodd glicio yn y blwch penodedig a theipio union leoliad y digwyddiad.
Rhan 3 - Manylion y Digwyddiad
8. Rhowch ddisgrifiad byr o’r amgylchiadau h.y. beth ddigwyddodd
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd roi gwybodaeth yn ymwneud â digwyddiadau cyn, yn ystod ac yn dilyn y digwyddiad. Dylai’r sawl sy’n adrodd geisio crynhoi’r amgylchiadau, a chynnwys cymaint o fanylion perthnasol â phosibl. Mae’r maes hwn ar gyfer testun rhydd, ac felly dylai’r sawl sy’n adrodd glicio yn y blwch dynodedig a theipio crynodeb o’r digwyddiad.
Dylai’r wybodaeth gynnwys y canlynol, ond heb fod wedi’u cyfyngu i’r rhain yn unig:
- Crynodeb o’r amgylchiadau;
- Manylion o’r tasgau neu waith oedd wrthi’n cael eu gwneud ar adeg y digwyddiad;
- Crynodeb o’r hyn ddigwyddodd cyn y digwyddiad ac yn arwain ato;
- Crynodeb o ddigwyddiadau a’r ymatebion yn syth ar ôl y digwyddiad;
- Unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r sawl sy’n adrodd yn ei hystyried yn berthnasol.
9. A wnaeth y digwyddiad arwain at niwed (i berson, eiddo neu’r amgylchedd)?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau a oedd y digwyddiad wedi arwain at niwed; gellid dehongli hyn i fod yn anaf corfforol personol neu ddifrod i eiddo, offer neu’r amgylchedd. Dylai defnyddwyr ddewis y wybodaeth briodol o’r opsiynau a gynigir iddynt. Dylai defnyddwyr glicio saeth y gwymplen i weld yr opsiynau a dewis o’u plith.
Dyma’r opsiynau sydd ar gael i’r sawl sy’n adrodd:
Naddo – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan nad oedd y digwyddiad wedi arwain at anaf personol neu ddifrod i eiddo, offer neu’r amgylchedd. Ystyrir bod digwyddiadau fel y rhain heb unrhyw niwed dilynol yn rhai ‘bron â digwydd’.
Do – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan fo’r digwyddiad wedi arwain at anaf personol neu ddifrod i eiddo, offer neu’r amgylchedd.
10. Pa gategori sy’n disgrifio orau pa fath o ddigwyddiad oedd hwn?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau pa fath o ddigwyddiad yr adroddir amdano. Dylai’r sawl sy’n adrodd ddefnyddio’r maes hwn i nodi prif achos uniongyrchol y digwyddiad (immediate primary cause). Nodwch fod hyn yn wahanol i achos sylfaenol y digwyddiad (underlying cause) y bydd y broses ymchwilio yn penderfynu arno. Dylai defnyddwyr ddewis y wybodaeth briodol o’r opsiynau a gynigir iddynt. Dylai defnyddwyr glicio saeth y gwymplen i weld yr opsiynau a dewis o’u plith. Dyma’r opsiynau sydd ar gael i’r sawl sy’n adrodd:
- Alcohol – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai alcohol yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad.
- Anifeiliaid (gan gynnwys pryfaid) – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai anifeiliaid yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau megis brathu/cnoi, taro, pigo a gwasgu gan anifeiliaid.
- Ymddygiad gwrth-gymdeithasol – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai ymddygiad gwrth-gymdeithasol yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys, ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau megis difrod troseddol, ymddygiad ymosodol a sŵn yn tarfu.
- Trydan – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai trydan yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys, ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau megis trydaneiddio a thanau trydanol.
- Amgylcheddol – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai gollyngiadau neu halogiad yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad.
- Methiant dyfais – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai methiant dyfais a oedd yn cael ei ddefnyddio ar adeg y digwyddiad yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad.
- Syrthio o uchder (gan gynnwys grisiau) – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai syrthio o uchder yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys, ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau megis syrthio i lawr grisiau neu gwympo oddi ar ysgol.
- Cysylltiedig â thân – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai materion yn ymwneud â diogelwch tân yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys, ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau megis peidio â gadael yr adeilad pan fo’r larwm tân yn canu, plocyn yn dal drysau tân ar agor, ac unrhyw amharu ar offer canfod ac ymladd tân.
- Tân/Ffrwydrad – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai tân neu ffrwydrad yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad.
- Nwy – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai nwy yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys, ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau megis gollyngiadau nwy a hylosgi nwy.
- Offer llaw – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai defnyddio offer llaw yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad.
- Codi, symud a chario – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai codi a chario yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau sy’n cynnwys codi corfforol, tynnu, gwthio a chario.
- Sylwedd niweidiol – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai sylweddau niweidiol yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau megis cemegau yn tywallt, sylweddau yn gollwng, ac anadlu’r rhain.
- Chwarae gwirion – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai hwyl wedi mynd dros ben llestri yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad.
- Peiriannau / offer – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai dod i gysylltiad â pheiriannau sy’n symud yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau a achosir gan rannau offer sy’n symud, neu’n gysylltiedig â gweithredu neu ddefnyddio peiriant neu ddarn o offer.
- Cynnal a chadw – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai diffyg neu angen gwell cynnal a chadw yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad.
- Gwrthrych yn symud neu’n syrthio – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai cysylltiad â gwrthrych yn symud neu’n syrthio yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys ond nid yw wedi’i gyfyngu i ddigwyddiadau wedi’u hachosi gan wrthdrawiadau â gwrthrych sy’n symud ar adeg y gwrthdrawiad, neu wrthrychau sydd wedi dod i ffwrdd o’u gosodiadau.
- Peryglon naturiol – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai peryglon naturiol yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau a achosir gan lifogydd, eira ac amodau tywydd gwael.
- Salwch nad yw’n gysylltiedig â gwaith (e.e. llewygu) – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai salwch nad yw’n gysylltiedig â gwaith yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Dylid dewis yr opsiwn hwn pan fo salwch nad yw’n gysylltiedig â gweithgarwch yn y gwaith neu’r amgylchedd gwaith.
- Salwch yn y gwaith – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai salwch sy’n gysylltiedig â gwaith yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Dylid dewis yr opsiwn hwn pan fo salwch wedi digwydd oherwydd gweithgarwch yn y gwaith neu’r amgylchedd gwaith.
- Eitem(au) wedi’u gwahardd/anghyfreithlon – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai eitemau wedi’u gwahardd neu sy’n anghyfreithlon yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys, ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau megis defnyddio cyffuriau a digwyddiadau wedi’u hachosi gan wrthrychau na chaniateir ar eiddo Prifysgol Aberystwyth.
- Damwain traffig ffordd – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai damwain traffig ffordd yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys, ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau megis damweiniau sy’n cynnwys cerbyd ac unrhyw wrthrych arall megis cerbydau, adeiladau, tir a cherddwyr.
- Gwrthrych miniog (gwydr, nodwyddau, etc.) – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai dod i gysylltiad â gwrthrychau miniog yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau a achosir gan wydr, nodwyddau a metelau.
- Llithro, baglu neu syrthio ar yr un lefel – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai llithro, baglu neu syrthio ar dir gwastad (ac eithrio grisiau neu stepiau) yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad.
- Chwaraeon/Ymarfer Corff – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai cymryd rhan mewn gweithgarwch chwaraeon neu ymarfer corff yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad.
- Gwrthrych sefydlog (e.e. dodrefn, gosodiadau) – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai dod i gysylltiad â gwrthrychau llonydd yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau a achosir gan ffitiadau gosodedig a gwrthrychau llonydd (e.e. dodrefn).
- Gwrthrych neu sylwedd oer neu boeth iawn – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai cysylltiad â rhywbeth eithriadol o oer neu eithriadol o boeth yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys, ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau megis llosgi a sgaldio.
- Trais (ymosodiad corfforol) – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan ystyrir mai trais yw prif achos uniongyrchol y digwyddiad. Gall hyn gynnwys ond heb ei gyfyngu i ddigwyddiadau sy’n cynnwys arwyddion o ymddygiad ymosodol ac/neu ymosodiad corfforol.
I gael canllawiau neu eglurhad ynghylch yr opsiwn priodol, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
11. Rhowch enwau a manylion cysylltu unrhyw dystion
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd roi gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw dystion neu unrhyw un arall oedd yn rhan o’r digwyddiad. Mae’r maes hwn yn destun rhydd, felly dylai’r sawl sy’n adrodd glicio yn y blwch dynodedig a theipio enw(au) a manylion cysylltu unrhyw dystion. Dylid rhoi cymaint o wybodaeth cysylltu â phosibl, megis enwau, rhifau ffôn, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost, rhag ofn y bydd angen rhagor o wybodaeth. O ran digwyddiadau pan nad oedd tystion, dylid nodi ‘Dim’ yn y blwch.
12. A oedd unrhyw un arall yn rhan o’r digwyddiad neu wedi’u heffeithio ganddo?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau a oedd unrhyw un arall wedi’u heffeithio gan y digwyddiad neu y gellid effeithio arnynt. At y diben hwn, dylid ystyried bod unigolion yr effeithir arnynt yn unigolion sydd wedi dioddef niwed neu fod posibilrwydd y gallent fod wedi dioddef niwed, neu eu bod wedi’u hanafu neu fod posibilrwydd y gallent fod wedi’u hanafu, o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad.
Dylai defnyddwyr ddewis y wybodaeth briodol o’r opsiynau a gynigir iddynt. Dylai defnyddwyr glicio saeth y gwymplen i weld yr opsiynau a dewis o’u plith.
Dyma’r opsiynau sydd ar gael i’r sawl sy’n adrodd:
Oedd – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan oedd unigolyn(ion) wedi dioddef niwed/anaf neu fod posibilrwydd y gallent fod wedi dioddef niwed/anaf, o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Pan ddewisir yr opsiwn hwn, bydd yn rhaid i’r sawl sy’n adrodd lenwi’r rhannau ‘Person(pobl) yr effeithir arnynt’ ac ‘Anafiadau’.
Nac oedd – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan nad oedd unigolyn(ion) wedi dioddef niwed/anaf neu fod posibilrwydd y gallent fod wedi dioddef niwed/anaf, o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Pan ddewisir yr opsiwn hwn, ni fydd yn rhaid i’r sawl sy’n adrodd lenwi’r rhannau ‘Person(pobl) yr effeithir arnynt’ ac ‘Anafiadau’.
13. Tystiolaeth / Dogfennau Ategol
Mae’r rhan hon yn rhoi modd i’r sawl sy’n adrodd lanlwytho tystiolaeth neu ddogfennau ategol i gyd-fynd â’r adroddiad am ddigwyddiad. Gellir lanlwytho dogfennau mewn unrhyw fath o ffeil a gefnogir. Gall hyn gynnwys, ond nid yw wedi’i gyfyngu i ddogfennau fel ffotograffau, datganiadau tystion, gohebiaeth e-bost, asesiadau risg, ac ati. I lanlwytho dogfen, cliciwch ‘Lanlwytho Dogfen’, dewiswch y ddogfen berthnasol o’r ffolder gywir gan ddefnyddio ‘Pori’, cyn clicio ‘Lanlwytho’. Gellir lanlwytho mwy nag un ddogfen ar gyfer pob adroddiad am ddigwyddiad os oes angen.
Rhan 4 – Person(pobl) yr effeithir arnynt
Yn y rhan hon, cliciwch ‘Ychwanegu Person’ er mwyn cofnodi manylion am bob person yr effeithir arnynt. Sylwer: ar gyfer pob digwyddiad a gyflwynir gellir cofnodi mwy nag un unigolyn yr effeithir arnynt.
14. Enw’r person yr effeithir arnynt
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau enw’r person yr effeithir arno. Testun rhydd yw’r maes hwn, felly dylai’r sawl sy’n adrodd glicio yn y blwch penodedig a theipio enw llawn y person yr effeithiwyd arno. Ystyrir bod person wedi’i effeithio os yw wedi cael ei niweidio/anafu neu fod posibilrwydd y gallai fod wedi cael ei niweidio/anafu, o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad.
15. Cyfeiriad a manylion cysylltu yr unigolyn yr effeithir arno
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau cyfeiriad a manylion cysylltu’r person yr effeithir arno. Mae’r maes hwn yn destun rhydd, ac felly dylai’r sawl sy’n adrodd glicio yn y blwch a chofnodi’r cyfeiriad eu hunain, ac unrhyw fanylion eraill sydd ganddynt e.e. cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, ac ati.
16. Rheswm y Person i fod yn y Brifysgol
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau hawl y person yr effeithir arno a pham eu bod yn y Brifysgol ar adeg y digwyddiad. Dylai defnyddwyr ddewis y wybodaeth briodol o’r opsiynau a gynigir iddynt. Dylai defnyddwyr glicio saeth y gwymplen i weld yr opsiynau a dewis o’u plith.
Dyma’r opsiynau sydd ar gael i’r sawl sy’n adrodd:
Uwchraddedig – Myfyriwr/myfyrwyr uwchraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Israddedig – Myfyriwr/myfyrwyr israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Contractwr – Cyflenwyr allanol sydd wedi cael contract i wneud gwaith ar ran y Brifysgol.
Aelod o Staff – aelod o staff Prifysgol Aberystwyth. Sylwer, wrth ddewis yr opsiwn hwn, dylai’r digwyddiad fod wedi digwydd yn ystod oriau gwaith yr unigolyn yr effeithiwyd arno. Os dewisir yr opsiwn hwn, bydd yn rhaid i ddefnyddwyr ateb cwestiwn ychwanegol yn ymwneud â’u lleoliad gweithio. Sylwer, os bydd digwyddiad yn digwydd y tu allan i’r oriau gwaith (e.e. wrth ddefnyddio’r Ganolfan Chwaraeon gyda’r nos), dylid ystyried yr aelod o staff yn ‘Ymwelydd’ at ddibenion adrodd.
Ymwelydd – Pob unigolyn arall nad oedd ar eiddo Prifysgol Aberystwyth at ddibenion astudio neu waith
17. Lleoliad gweithio staff
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau lleoliad gweithio unrhyw berson yr effeithir arnynt sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth. Bydd y cwestiwn hwn ond yn ymddangos os dewisir ‘Aelod o Staff’ yn y cwestiwn blaenorol. Dylai defnyddwyr ddewis y wybodaeth briodol o’r opsiynau a gynigir iddynt. Dylai defnyddwyr glicio saeth y gwymplen i weld yr opsiynau a dewis o’u plith.
Dyma’r opsiynau sydd ar gael i’r sawl sy’n adrodd:
- Academaidd / Academaidd Berthynol
- Gofalwr / Porthor
- Arlwyo
- Glanhau / Domestig
- Clerigol / Ysgrifenyddol
- Staff Fferm
- Tiroedd / Gerddi
- Cynnal a Chadw
- Arall
- Diogelwch
- Technegol
Dylai defnyddwyr nad yw eu prif rôl wedi’u rhestru yn yr opsiynau gysylltu â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd i gael arweiniad pellach.
18. A wnaeth y person yr effeithir arno gael anaf?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau a oedd y person yr effeithir arno wedi dioddef anaf o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Yn yr achos hwn, ystyrir bod anaf yn wir niwed corfforol. Dylai defnyddwyr ddewis y wybodaeth briodol o’r opsiynau a gynigir iddynt. Dylai defnyddwyr glicio saeth y gwymplen i weld yr opsiynau a dewis o’u plith.
Dyma’r opsiynau sydd ar gael i’r sawl sy’n adrodd:
Naddo – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan nad yw’r unigolyn wedi cael anaf o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Pan ddewisir yr opsiwn hwn, nid oes raid i’r sawl sy’n adrodd lenwi’r rhan ‘Anafiadau’.
Do – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan fo’r unigolyn wedi cael anaf o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Pan ddewisir yr opsiwn hwn, rhaid i’r sawl sy’n adrodd lenwi’r rhan ‘Anafiadau’.
Rhan 5 – Anafiadau
Yn y rhan hon, cliciwch ‘Ychwanegu Anaf’ er mwyn cofnodi manylion am bob anaf a gafwyd. Sylwer: gellir cofnodi sawl anaf am bob person yr effeithir arno. Dim ond pobl a gadarnhawyd a gafodd anaf yn y rhan ‘Person(pobl) yr effeithir arnynt’ y gellir rhestru anaf ar eu cyfer.
19. Rhan(nau) y corff yr effeithiwyd arnynt
Mae’r rhan hon yn ei gofyn i’r sawl sy’n adrodd roi gwybodaeth yn ymwneud â rhan(nau) y corff a anafwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Dylai’r sawl sy’n adrodd wneud ei orau i fod mor benodol â phosibl yn eu disgrifiad o rannau’r corff yr effeithiwyd arnynt. Testun rhydd yw’r maes hwn, felly dylai’r sawl sy’n adrodd glicio yn y blwch penodedig a theipio’r manylion perthnasol.
20. Natur yr anaf(iadau)
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd roi gwybodaeth yn ymwneud â natur yr anaf(iadau) a gafwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Dylai ymatebion gyfeirio at natur benodol a math yr anaf a gafwyd i ran(nau) y corff a nodwyd yn y cwestiwn blaenorol. Testun rhydd yw’r maes hwn, felly dylai’r sawl sy’n adrodd glicio yn y blwch penodedig a theipio’r manylion perthnasol.
21. A roddwyd cymorth cyntaf?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau a oedd y person yr effeithir arno wedi cael cymorth cyntaf ar gyfer yr anaf(anafiadau) a gafwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Dylai defnyddwyr ddewis y wybodaeth briodol o’r opsiynau a gynigir iddynt. Dylai defnyddwyr glicio saeth y gwymplen i weld yr opsiynau a dewis o’u plith.
Dyma’r opsiynau sydd ar gael i’r sawl sy’n adrodd:
Naddo – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan nad oedd yr unigolyn wedi cael cymorth cyntaf ar gyfer yr anaf(anafiadau) a gafwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad.
Do – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan fo’r unigolyn wedi cael cymorth cyntaf ar gyfer yr anaf(anafiadau) a gafwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Os dewisir yr opsiwn hwn, mae’n rhaid i’r sawl sy’n adrodd ateb cwestiwn ychwanegol i roi manylion yr unigolyn a roddodd y cymorth cyntaf.
22. Pwy roddodd y cymorth cyntaf
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau enw(au) yr unigolyn(unigolion) a roddodd gymorth cyntaf i’r person yr effeithiwyd arno. Ni fydd y cwestiwn hwn ond yn ymddangos os rhoddwyd cymorth cyntaf. Testun rhydd yw’r maes hwn, ac felly dylai’r sawl sy’n adrodd glicio yn y blwch dynodedig a theipio enw llawn y person a roddodd gymorth cyntaf.
23. A oedd angen cymryd amser o’r gwaith o ganlyniad i’r digwyddiad?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau a oedd angen i’r person yr effeithiwyd arno gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd yr anaf(iadau) a gafwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Dylai defnyddwyr ddewis y wybodaeth briodol o’r opsiynau a gynigir iddynt. Dylai defnyddwyr glicio saeth y gwymplen i weld yr opsiynau a dewis o’u plith.
Dyma’r opsiynau sydd ar gael i’r sawl sy’n adrodd:
Nac oedd – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan nad oedd angen i’r unigolyn gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd yr anaf(iadau) a gafwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad.
Oedd – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan oedd yn rhaid i’r unigolyn gael amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd yr anaf(iadau) a gafwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Os dewisir yr opsiwn hwn, mae’n rhaid i’r sawl sy’n adrodd ateb cwestiwn ychwanegol i roi manylion am sawl diwrnod dilynol y bu’r person yn absennol.
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol gan fod posibilrwydd bod Rheoliadau Adrodd am Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol adrodd am ddigwyddiadau sy’n arwain at gyflogai i ffwrdd o’r gwaith, neu’n methu â chyflawni ei ddyletswyddau gwaith arferol o ganlyniad i’w anaf, am gyfnod sy’n hirach na saith diwrnod. Y Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd fydd yn gyfrifol am adrodd o dan RIDDOR. I gael rhagor o ganllawiau ynghylch a yw digwyddiad yn adroddadwy o dan Reoliadau Adrodd am Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR) 2013 ai peidio, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
24. Os oeddynt yn absennol, am sawl diwrnod dilynol oeddynt i ffwrdd?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau sawl diwrnod dilynol yr oedd y person yr effeithiwyd arno i ffwrdd o’r gwaith oherwydd yr anaf(iadau) a gafodd o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Ni fydd y cwestiwn hwn yn ymddangos oni bai fod y person yr effeithiwyd arno wedi gorfod cael amser i ffwrdd o’r gwaith. Testun rhydd yw’r maes hwn, felly dylai’r sawl sy’n adrodd glicio yn y blwch penodedig a theipio nifer y diwrnodau drwy ddefnyddio fformat rhifau. Sylwer bod yn rhaid adrodd am unrhyw absenoldeb sy’n fwy na saith diwrnod o dan Reoliadau Adrodd am Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR) 2013. Y Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd fydd yn gyfrifol am adrodd o dan RIDDOR. I gael rhagor o ganllawiau ynghylch a yw digwyddiad yn adroddadwy o dan Reoliadau Adrodd am Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR) 2013 ai peidio, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
25. A oedd y person yr effeithwyd arno wedi mynd yn syth i’r ysbyty?
Mae’r rhan hon yn gofyn i’r sawl sy’n adrodd gadarnhau a aethpwyd â’r person yr effeithiwyd arno yn syth i’r ysbyty i gael triniaeth oherwydd yr anaf(iadau) a gafodd o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad. Dylai defnyddwyr ddewis y wybodaeth briodol o’r opsiynau a gynigir iddynt. Dylai defnyddwyr glicio saeth y gwymplen i weld yr opsiynau a dewis o’u plith.
Dyma’r opsiynau sydd ar gael i’r sawl sy’n adrodd:
Naddo – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan nad aethpwyd â’r unigolyn yn syth i’r ysbyty i drin yr anaf(iadau) a gafwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad.
Do – Dylid dewis yr opsiwn hwn pan aethpwyd â’r unigolyn yn syth i’r ysbyty i drin yr anaf(iadau) a gafwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiad.
Sylwer, os yw digwyddiad yn ymwneud ag aelodau o’r cyhoedd neu bobl nad ydynt yn weithwyr a bod y digwyddiad wedi arwain at anaf sy’n golygu gorfod mynd â’r unigolyn yn syth o leoliad y digwyddiad i’r ysbyty i gael triniaeth, yna mae’n bosibl bod yn rhaid adrodd am y digwyddiad o dan Reoliadau Adrodd am Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglu ( RIDDOR) 2013. I gael rhagor o ganllawiau ynghylch a yw digwyddiad yn adroddadwy o dan Reoliadau Adrodd am Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR) 2013 ai peidio, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.