Trydan
Nodwch:
1. Dylai unrhyw gyfarpar trydanol personol a ddaw i adeiladau academaidd y Brifysgol sydd i’w gysylltu â’r prif gyflenwad trydan gael eu profi am ddiogelwch trydanol cyn eu defnyddio.
Ni chaniateir rhai eitemau penodol o gyfarpar trydanol sydd yn eiddo preifat ac sy'n cysylltu â'r prif gyflenwad trydan. Maent yn cynnwys:
- Gwresogyddion Ystafell (o unrhyw fath)
- Tegellau neu beiriannau coffi
- Tostiwr neu offer coginio arall
- Gwyntyllau (ffaniau) neu unedau awyru cludadwy
- Arfau gwaith trydan
Os oes angen eitemau o'r fath, fe ddylid eu cael (os ceir cymeradwyaeth amdanynt) gan yr adran dan sylw a’u cyflwyno ar gyfer profion PAT. Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch ag Ymgynghorydd Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd am gyngor.
2. Dylai myfyrwyr a staff sy'n preswylio yn llety Prifysgol Aberystwyth ddilyn y canllawiau a nodir gan Wasanaethau Preswyl a Chroeso.
3. Rhaid i gontractwyr ddilyn y rheolau a nodir gan yr Adran Datblygu Ystadau a'r Gwasanaethau Campws.
Profi Offer Trydanol Cludadwy
Yr adrannau sy'n gyfrifol am sicrhau bod eu hoffer trydanol cludadwy yn ddiogel; gellir gwneud hyn drwy drefn brofi reolaidd a wneir gan unigolion cymwys (un ai staff adrannol neu gontractwyr trydanol).
Isod ceir amserlen a awgrymir ar gyfer profi offer a ddefnyddir mewn amgylcheddau risg isel isod. Dylid profi offer a ddefnyddir mewn amgylcheddau risg uwch (fel safleoedd adeiladu a ffermydd) yn fwy aml – mae gan yr HSE arweiniad (gwelwch y linc isod). Dylid profi unrhyw offer a fenthycwyd (er enghraifft i fyfyrwyr ar gyfer prosiect) bob tro pan fydd yn cael ei ddychwelwyd.
Mae’r Adran Datblygu Ystadau wedi sicrhau telerau arbennig i'r Brifysgol ar gyfer profi PAT gyda darparwr gwasanaeth lleol. Efallai y dymuna'r adrannau fanteisio ar y gwasanaeth hwn:PAT testing rates, Electrical Estimates Ltd.
Cyfnodau a awgrymir ar gyfer profion
(Swyddfeydd ac amgylcheddau eraill risg isel yn unig)
Offer / Amgylchedd |
Archwiliad Defnyddiwr |
Archwiliad Gweledol Ffurfiol |
Archwiliad a phrawf Cyfun |
Gweithio ar fatri: |
Na |
Na |
Na |
Foltedd isel iawn: |
Na |
Na |
Na |
Technoleg Gwybodaeth: e.e. cyfrifiaduron, sgrîn VDU |
Na |
Ie |
Nid os yw wedi’i ynysu’n ddwbl |
Llungopïwyr, peiriannau ffacs: NID un a ddelir yn y llaw. Symudir yn anaml |
Na |
Ie |
Nid os yw wedi’i ynysu’n ddwbl |
Offer wedi’i ynysu’n ddwbl: NID un a ddelir yn y llaw. Symudir weithiau, |
Na |
Ie |
Na |
Offer wedi’i ynysu’n ddwbl: A DDELIR YN Y LLAW e.e. rhai glanhawyr llawr |
Ie |
Ie |
Na |
Offer wedi’i ddaearu (Dosbarth 1): e.e. tecell trydan, rhai glanhawyr llawr |
Ie |
Ie |
Ie |
Gwifrau a phlygiau wedi’u cysylltu i’r uchod. |
Ie |
Ie |
Ie |
ON. Wrth adolygu pa mor aml y dylid cynnal archwiliad dylid defnyddio profiad o weithredu’r system gynhaliaeth dros gyfnod o amser, ynghyd â gwybodaeth am ddiffygion a ganfyddir.
Dylid defnyddio hyn hefyd i ystyried a oes angen prawf ac archwiliad cyfun ar yr offer a’r gwifrau a phlygiau dderbyn, a pha mor aml.