Claire Williams
Ymunodd Claire â ni o Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Rhagfyr 2017 i arwain y Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd. Daw â phrofiadau amrywiol o weithio gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac ym maes gweithgynhyrchu.
A hithau wedi adleoli o Sir Gaerfyrddin, mae gan Claire brofiad o ymdrin â’r heriau y mae nifer o sefydliadau yn eu hwynebu o ran cyflwyno dull synhwyrol o reoli risg a chydbwysedd mewn amgylchiadau anodd. Fel Aelod Gweithredol o Grŵp Diogelwch Galwedigaethol De a Gorllewin Cymru, mae Claire yn cefnogi’r grŵp wrth drefnu cyfleoedd rhwydweithio misol a blynyddol i hyrwyddo a rhannu arferion da o ran iechyd, diogelwch a lles.
Mae gan Claire Wobr ‘A’ mewn dyfarnu Pêl-rwyd, ac ar hyn o bryd mae’n cynorthwyo carfan dan 21 oed Cymru drwy ddyfarnu ar benwythnosau ac mewn gemau. Mae Claire yn dyfarnu gemau Pêl-rwyd i Brifysgol Aberystwyth yn y gynghrair BUC ac mewn gemau rhyng-golegol; ac mae’n chwarae yng Nghynghrair Pêl-rwyd lleol Ceredigion.
Rhif: 01970 62(1715)
Ebost: maw70@aber.ac.uk