Gŵyl Ein Llais yn y Byd
Yr Ŵyl
Ymunwch â ni ar gyfer cyfres o sgyrsiau, paneli trafod a pherfformiadau i ddathlu’r Gymraeg fel iaith hyfyw ymhlith teulu ieithoedd y byd fel rhan o Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019.
Bydd y themâu trafod yn cynnwys y canlynol, gan amlygu profiad o Gymru a gwledydd eraill:
- dysgu a defnyddio iaith
- iaith, llên, y celfyddydau a’r cyfryngau
- polisi a chynllunio iaith
Anelir y digwyddiad at ymarferwyr o sawl maes – o Gymru a thu hwnt.
Caiff y Gymraeg a’r Saesneg ill dwy eu defnyddio yn yr Ŵyl i wahanol raddau. Os nad ydych yn medru’r Gymraeg a’r Saesneg, gofynnwn i chi nodi hyn wrth gofrestru er mwyn hwyluso trefniadau cyfieithu ar y pryd ar gyfer y gwahanol sesiynau.
Lle a Phryd
Yr Hen Goleg, Aberystwyth | 28-29 Tachwedd, 2019
Rhaglen yr Ŵyl
Rhaglen a Manylion Sesiynau - Gwyl Ein Llais yn y Byd
Cofrestru
Does dim modd cofrestru mwyach. Methu ymuno yn yr hwyl? Byddwn yn darparu ffrwd byw o’r digwyddiad ar ein sianel Facebook: https://en-gb.facebook.com/Prif.Aberystwyth/
Llety
Mae llety gwely a brecwast ar gael ar Gampws Penglais (pris ychwanegol). I arbed ystafell, cwbwlhewch a dychwelwch y ffurflen i constaff@aber.ac.uk
Byncws - Ffurflen Archebu Llety
Cwestiynau Pellach?
Cysylltwch gyda ni - bydstaff@aber.ac.uk
Gyda diolch i'n partneriaid a chyfranwyr ychwanegol: