Aber yn cipio gwobr ddysgu bwysig am yr ail dro
21 Medi 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei henwi yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dyma’r tro cyntaf i brifysgol dderbyn y wobr fawreddog am yr ail flwyddyn o'r bron The Times / Sunday Times Good University Guide, sy’n cael ei gyhoeddi ddydd Sul 23 Medi 2018.
Yn ogystal, mae Prifysgol Aberystwyth ar y brig yn y DU am ansawdd y dysgu yn rhifyn 2019 The Good University Guide, cynnydd o bum safle ers 2018.
Dengys y cyhoeddiad hefyd fod Prifysgol Aberystwyth wedi cynnal ei safle ymhlith 50 uchaf o brifysgolion y DU.
Dywedodd Alastair McCall, Golygydd The Times / Sunday Times Good University Guide: "Mae Aberystwyth wedi cyflawni rhywbeth nad oes unrhyw brifysgol arall yn y DU wedi ei wneud wrth ennill gwobr Prifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu am ddwy flynedd yn olynol trwy wella ar ganlyniadau ardderchog yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr blynyddol. Nid oes gan unrhyw brifysgol yn y DU fyfyrwyr sy’n hapusach gydag ansawdd y dysgu ar hyn o bryd, a hynny am iddynt roi anghenion myfyrwyr yn gyntaf ac yn olaf.”
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rwyf wrth fy modd bod gwaith caled cydweithwyr ar draws y Brifysgol wedi cael ei gydnabod â gwobr mor bwysig am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae gennym staff ar draws y sefydliad sy'n gweithio’n drylwyr, yn egnïol ac yn frwdfrydig er mwyn darparu addysg o’r safon uchaf, ac rwyf yn hynod falch ohonynt. Mae'r wobr hon yn dangos eu hymrwymiad i werthoedd dysgu da a'u hymroddiad i'w myfyrwyr yn ogystal â'r premiwm y mae'r brifysgol hon yn ei roi ar ragoriaeth academaidd ac addysgu dan arweiniad ymchwil. Rydym yn gwrando'n astud ar yr hyn y mae'n myfyrwyr yn ei ddweud ac yn cydweithio'n agos gydag Undeb y Myfyrwyr i gadw llais y myfyrwyr yng nghanol ein cymuned. Wrth i ni ddechrau ar flwyddyn academaidd newydd, mae'r gwaith i ddatblygu a chyfoethogi profiad y myfyrwyr yn parhau wrth i ni alluogi ein myfyrwyr i ddatgloi eu potensial a datblygu fel dysgwyr annibynnol.”
Dywedodd Bruce Wight, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: “Mae'n wych gweld bod y bartneriaeth rhwng yr Undeb a’r Brifysgol yn cael effaith mor gadarnhaol ar ansawdd y dysgu yma yn Aberystwyth. Mae ennill y wobr am Ansawdd y Dysgu yn dangos bod y berthynas rhwng y Brifysgol a'r Undeb yn un gadarn ac fod gan y myfyrwyr gyfle amlwg i fynegi eu barn ar eu profiad dysgu. Hoffwn longyfarch ein Cynrychiolwyr Academaidd yn arbennig, sy'n rhan allweddol o'r broses i sicrhau bod llais y myfyrwyr ar faterion academaidd bob amser yn cael ei glywed yn glir ac yn uchel. Edrychaf ymlaen at weld Aberystwyth yn ennill y wobr am y drydedd flwyddyn yn olynol, ond unwaith eto llongyfarchiadau i’r Brifysgol am fod y gorau am ansawdd y dysgu am yr eildro.”
Ym mis Mehefin 2018 dyfarnwyd gwobr Aur i Brifysgol Aberystwyth yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr.
Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018 Aberystwyth yw’r orau yng Nghymru, ac un o’r gorau yn y DU am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr.
Mae cyflogadwyedd ymysg graddedigion Aberystwyth ar ei bwynt uchaf erioed, gyda 96.8% o’r rhai a raddiodd yn 2017 unai mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl gadael Aberystwyth (Arolwg Destination of Leavers in Higher Education HESA 2018).