Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd
Croeso i'r Adran Ystadau, Cyfleusterau a Preswylfeydd. Rydym yn adran fawr a blaengar sy’n darparu gwasanaethau proffesiynol, ac mae gennym gylch gwaith eang. Ein prif nod yw 'Darparu, cynnal a datblygu amgylchedd o ansawdd uchel mewn modd proffesiynol, effeithlon a chost effeithiol, sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, er mwyn galluogi'r Brifysgol i gyflawni ei nodau a'i hamcanion strategol, heddiw ac yn y dyfodol.'
Amcanion cyffredinol yr Adran Ystadau, Cyfleusterau a Preswylfeydd yw:
- Cefnogi a hwyluso gweithgareddau dysgu, addysgu ac ymchwil.
- Diogelu adeiladwaith a gwasanaethau adeiladau Prifysgol Aberystwyth er mwyn cynnal gwerth asedau.
- Darparu gwasanaeth rhagweithiol ac ymatebol wrth reoli adnoddau.
- Gwella’r dulliau o gyfathrebu â staff a defnyddwyr.
- Gwneud gwell defnydd o systemau gwybodaeth sy'n monitro perfformiad a chostau i hwyluso'r broses o wneud penderfyniadau rheoli.
- Cyflawni’r targedau ariannol a osodir gan y Brifysgol.
- Datblygu a hyfforddi staff Ystadau, Cyfleusterau a Preswylfeydd i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel.
- Cynnal a datblygu profiad preswyl o ansawdd uchel.
- Chwarae mwy o ran yng nghamau cynllunio cynnar prosiectau newydd i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw parhaus yn cael ei gydnabod a'i brisio.
- Meincnodi gweithgareddau a gwasanaethau yn erbyn sefydliadau cyffelyb eraill a defnyddio data HESA i bennu dangosyddion perfformiad allweddol.
Mae croeso i chi gysylltu ag aelodau perthnasol o’r tîm i drafod unrhyw ofynion sydd gennych, a byddwn yn hapus i’ch cynorthwyo lle bo modd.
Andrea James
Cyfarwyddwr Ystadau, Cyfleusterau a Preswylfeydd
Manylion adrodd:
Ceisiadau cynnal a chadw, materion, adrodd am ddiffygion a cheisiadau am waith bach (£5m - £25m) -
Ffôn 01970 622999
neu e-bost campushelp@aber.ac.uk
Ceisiadau prosiect mawr ac ymholiadau eraill - Ffôn 01970 621947
neu e-bost jxr@aber.ac.uk
Ceisiadau glanhau a porthora - E-bost facstaff@aber.ac.uk
Mewn argyfwng ffoniwch staff Diogelwch - Ffôn 01970 622649