Clirio 2024
Ffoniwch ni ar 0800 121 40 80
Mae Clirio yn agor ar Ddydd Gwener, 5 Gorffennaf 2024.
Os ydych chi’n chwilio am le trwy’r broses Glirio, neu’n ailystyried eich opsiynau ar gyfer mis Medi, dyma eich lle. O’r 5ed o Orffennaf, byddwch yn gallu Gwneud Cais Ar-lein os oes gennych eich canlyniadau yn barod, neu gallwch Gofrestru eich Diddordeb yn y broses Glirio os ydych yn aros am eich canlyniadau.
Y broses Glirio yn Aberystwyth
![](/cy/clearing/Impactful-Teaching.png)
Eich Canllaw Clirio
Mae ein Canllaw Clirio yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am y broses Glirio; o sut i wneud cais ag osgoi straen, i wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i chi. Mae gennym dîm ymroddedig o staff i’ch arwain drwy’r broses Glirio.
![](/cy/clearing/Accommodation.png)
Sicrwydd Llety
Rydym yn sicrhau llety i bob ymgeisydd Clirio sy’n gwneud cais cyn ein dyddiad cau, sef y 1af o Fedi 2024. Mae Aberystwyth hefyd wedi ei gosod ymhlith y 5 Dinas Rataf yn y DU ar gyfer Llety Myfyrwyr yn ôl Student Crowd. Bydd myfyrwyr sy’n byw yn llety’r Brifysgol hefyd yn elwa o aelodaeth am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon.
![](/cy/clearing/unique-student-experience.jpeg)
Pam astudio yn Aberystwyth?
Yn ogystal â bod yn un o’r lleoliadau astudio mwyaf arbennig yn y DU, Aberystwyth yw eich lle ar gyfer rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil a phrofiadau myfyrwyr unigryw. Mae Aberystwyth ar y brig yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd y Dysgu (Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni? 2023) ac ar y brig yng Nghymru am Fodlonrwydd Myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023). Mae ein hymchwil yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, sy’n golygu bod ein myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd, mewn adrannau blaenllaw o ran ymchwil byd-eang.
![](/cy/clearing/Student-Experience.png)
Amgylchedd Cefnogol
Rydym eisiau i’n myfyrwyr ffynnu yn Aberystwyth a byddwn yn eich cefnogi drwy'r broses Glirio hyd nes eich bod yn graddio a thu hwnt. Mae ein gwasanaethau proffesiynol a arweinir gan gymheiriaid ar gael ar-lein ac wyneb yn wyneb pan fyddwch ei angen fwyaf. Mae ein cymorth ariannol hefyd yn ymestyn i ymgeiswyr Clirio, gallwch fod yn gymwys i gael Ysgoloriaeth Rhagoriaeth sy’n werth £2,000 yn eich blwyddyn gyntaf.