Proffiliau cyn-fyfyrwyr PhD
Cennydd Owen Jones
1. Beth yw eich enw?
Cennydd Owen Jones
2. Ble magwyd chi?
Ar fferm ar gyrion pentref Pontsian yn ne Ceredigion
3. Beth oedd teitl eich doethuriaeth?
Ffynonellau amgylcheddol o Mycobacterium bovis ar ffermydd yng Nghymru.
4. Pam oedd y maes yma yn apelio i chi?
Mycobacterium bovis yw’r organeb sydd yn gyfrifol am Tb buchol yng Nghymru, a bu’n gyfrifol am 9,585 o wartheg yn cael eu difa yn y flwyddyn hyd at Mawrth 2023. Mae’r afiechyd yn cyfrannu at straen ariannol ac emosiynol ar yr unigolion sydd ynghlwm a’r afiechyd yn ogystal ag achosi afiechyd heintus ac angheuol i wartheg. Mae hwn yn afiechyd sydd yn broblem enfawr i’r diwydiant amaeth yng Nghymru yn ogystal a nifer o wledydd rhyngwladol arall, felly roedd y sgôp rhyngwladol hefyd yn apelgar.
5. Beth oedd y prif heriau wrth gwblhau doethuriaeth?
Dw i’n berson sydd yn gweithio’n dda i derfyn amser, felly roedd cael un terfyn amser oedd 3-4 mlynedd i’r dyfodol yn anodd ei reoli. Ond, trwy cael fy ngoruchwyliwr yn rhoi targedau cyflwyno drafftiau penawdau ayyb, roedd modd dod dros hyn. Roedd heriau Covid o gael mynediad at labordai a cwblhau gwaith maes hefyd yn her penodol i’r cyfnod hwn.
6. Pa hyfforddiant yr oeddech wedi derbyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn gyffredinol, p hyfforddiant oedd mwyaf defnyddiol i chi?
Derbyniais sawl sesiwn hyfforddi o’r Coleg Cymraeg boed wyneb yn wyneb neu ar lein. Roedd y sesiynau hyfforddi yn Llanbed, Caerdydd a Bangor yn rhai hynod o fuddiol gan roeddem yn cael sawl sesiwn ar amrywiaeth o wahanol destunau, ac yn cael y cyfle i gymdeithasu gyda myfyrwyr ymchwil o sefydliadau arall.
7. Beth yw eich swydd gyfredol a sut ydy’r doethuriaeth wedi eich helpu yn eich swydd?
Rwy’n ddarlithydd mewn rheolaeth glaswelltir amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth ers mis Medi 2021. Mae’r sgiliau datblygais o fy nghyfnod fel myfyriwr PhD wedi fy helpu llawer wrth ddod i’r arfer a’r swydd newydd. Bues digon ffodus i ennill tipyn o brofiad addysgu yn ystod fy noethuriaeth, sydd yn naturiol wedi fy helpu dipyn wrth gychwyn fel darlithydd. Yn bwysicach na’ hynny, mae’r profiad o fod yn fyfyriwr diweddar wedi sicrhau bod yr empathi dal gen i pan yn goruchwylio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Rwyf yn parhau i helpu ar y fferm deuluol hefyd, a credwch chi byth ond mae’r sgiliau o reoli amser cefais yn ystod y doethuriaeth werth ei halen yn yr achos yma hefyd.
8. Pa gyngor byddech yn rhoi i fyfyriwr sydd yn ystyried cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae doethuriaeth cymaint mwy nag ymchwilio i’r niche o gwmpas eich pwnc. Os cewch gyfle i fod yn rhan o waith rhyngddisgyblaethol – ewch amdani! Felly hefyd os yn cael cyfle i gyflwyno poster, addysgu neu hyd yn oed helpu allan ar ddiwrnod agored – mae bod yn fyfyriwr ymchwil yn gallu bod yn amrywiol iawn.
Osian Elias
1. Beth yw eich enw?
Osian Elias
2. Ble magwyd chi?
Rhydlewis, Ceredigion
3. Beth oedd teitl eich doethuriaeth?
Polisi Iaith Ymddygiadol?
4. Pam oedd y maes yma yn apelio i chi?
Roedd yn adeiladu ar fy astudiaethau meistr ac yn mynd i gyfeiriad newydd. Roedd hefyd yn gyfle i gyfuno maes eginol ac yn newydd i fi gyda fy niddordeb mewn ieithoedd fel y Gymraeg. Roedd fy nhiwtor yn rhan o’r gwaith ac roedd hynny yn apelio hefyd, fel ffordd i mewn i’r maes.
5. Beth oedd y prif heriau wrth gwblhau doethuriaeth?
Mae’n dipyn o gam o radd meistr i gwblhau doethuriaeth o ran natur y gwaith a’r ffordd o weithio. Rhan o hyn yw’r rhyddid sydd gennych fel myfyriwr doethur i benderfynu ar gyfeiriad eich gwaith ac i wneud y mwyaf o’r cyfle. Mae’n gyfle euraidd – ond dyw cwmpas y cyfle ddim bob amser yn eglur o’r cychwyn cyntaf. Mae gymaint o gyfleoedd o ran addysgu, ymchwilio, rhwydweithio ac ati ac roedd cadw golwg strategol ar bethau yn medru bod yn anodd ar brydiau!
6. Pa hyfforddiant yr oeddech wedi derbyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn gyffredinol, p hyfforddiant oedd mwyaf defnyddiol i chi?
Erbyn hyn fi ddim yn cofio’n iawn (!), ond mae hynny hefyd oherwydd nes i dderbyn llwyth o hyfforddiant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol! Roedd cyrsiau hyfforddiant preswyl yn rheolaidd, ynghyd a chyrsiau achlysurol. Roedd rhain yn trafod ystod enfawr o bynciau, yn hynod o ddefnyddiol, yn gyfle i ddysgu gan arbenigwyr, ac i rwydweithio ac ystod eang o bobl.
7. Beth yw eich swydd gyfredol a sut ydy’r doethuriaeth wedi eich helpu yn eich swydd?
Tua diwedd y ddoethuriaeth es i i ddarlithio daearyddiaeth ddynol, ac felly roedd hyn yn barhad digon didrafferth o’r ddoethuriaeth mewn ffordd. Erbyn hyn, rwy’n gweithio fel Cyfarwyddwr Polisi Iaith a Newid Ymddygiad i IAITH: y ganolfan cynllunio iaith. Mae’r swydd yn adeiladu yn uniongyrchol ar fy mhrofiad ymchwil (fel myfyriwr doethur ac fel darlithydd) ac yn tynnu ar fy arbenigedd yn gyson. Yn hyn o beth, mae’r ddoethuriaeth yn sail gadarn i’m holl waith. Roedd cwblhau doethuriaeth yn gyfle gwych i fagu sgiliau trosglwyddadwy gwych hefyd ac wrth ddatblygu’n bersonol ac mae hyn yn diffinio fy ffyrdd o weithio erbyn heddiw.
8. Pa gyngor byddech yn rhoi i fyfyriwr sydd yn ystyried cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?
I wneud y mwyaf o'r cyfle. Byddwch yn strategol wrth feddwl pam eich bod am gwblhau doethuriaeth, ac felly pa gyfleoedd i wneud y mwyaf ohonynt tra’n gwneud wedyn. Ystyriwch y llwybr bod eraill eisoes wedi dilyn ar ôl cwblhau eu doethuriaeth, gan gofio nad oes gymaint o gyfleoedd da i sefydlu gyrfa yn addysg uwch. Dewiswch eich goruchwylwyr yn ofalus, gan ystyried yr adran a’r gymuned ehangach yn ogystal. Dewiswch rhywle lle fyddwch yn hapus o ran eich gwaith ac er lles chi eich hun. I fi, mae Aberystwyth yn le clos, hapus, a bywiog, ac roedd fy ngoruchwylwyr ac adran yn cadarnhau hyn.