Cynllun Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Pwrpas y cynllun hwn yw creu cymuned fyw o ddarlithwyr sy’n cyfrannu at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru a chyfrannu at amcanion a gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Os ydych chi’n ddarlithydd sy’n cyfrannu at y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eich sefydliad neu’n cyfrannu at amcanion a gwaith y Coleg, gallwch gofrestru i fod yn ddarlithydd cysylltiol y Coleg.
Dyma'r manteision o fod yn rhan o’r cynllun:
- Bod yn rhan o gymuned amlddisgyblaethol cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd i rwydweithio gyda darlithwyr eraill
- Derbyn pecyn sefydlu a newyddlen y Coleg
- Medru ymgeisio am grantiau'r Coleg
- Medru manteisio ar raglen hyfforddiant i ddarlithwyr
- Derbyn gwahoddiad i gynhadledd flynyddol y darlithwyr cysylltiol
- Gallu ymgeisio am wobrau blynyddol y Coleg
- Derbyn cyfleoedd marchnata amrywiol a chymorth perthnasol
Cofrestrwch i fod yn ddarlithydd cysylltiol y Coleg ar wefan y Coleg.