Ysgoloriaethau

Mae’r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Mae nifer o gynlluniau gradd y Brifysgol, mewn amryw o feysydd academaidd yn gymwys ar gyfer ysgoloriaethau y Coleg.

Am restr gyflawn o gyrsiau sy’n gymwys ar gyfer ysgoloriaeth yn Aberystwyth, edrychwch yn ein prosbectws cyfrwng Cymraeg. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar chwilotydd cyrsiau'r Coleg Cymraeg.

Bydd holl ddeiliaid ysgoloriaethau yn cael gweithio tuag at gymhwyster Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg.

Ysgoloriaethau Israddedig

Prif Ysgoloriaethau

Gwerth y Prif Ysgoloriaethau yw £3000 (£1000 y flwyddyn) a chynigir y rhain i fyfyrwyr sy'n astudio 80 credyd neu'n fwy'r flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid i fyfyrwyr sefyll ein harholiad mynediad i gael eu hystyried ar gyfer un o Brif Ysgoloriaethau’r Coleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dylid llenwi'r atodiad perthnasol ar ffurflen gais yr ysgoloriaeth er mwyn cofrestru ar gyfer yr arholiad. Nid oes modd trosglwyddo Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg a ddyfernir gan un brifysgol i brifysgol arall.

Ysgoloriaethau Cymhelliant

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig Ysgoloriaethau Cymhelliant gwerth £1500 (£500 y flwyddyn) ar gyrsiau lle mae modd astudio 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid oes angen sefyll arholiad ar gyfer yr Ysgoloriaethau Cymhelliant. 

Am fanylion llawn ar sut i wneud cais am ysgoloriaeth a ffurflenni cais, ewch i adran myfyrwyr gwefan y Coleg.

Peidiwch ag anghofio am Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Gwobrau’r Brifysgol.  Ceir mwy o fanylion yma.

Ysgoloriaethau Ymchwil

Mae Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg yn cynnig grant cynhaliaeth a ffioedd sy’n gyfwerth â’r hyn a gynigir gan Gynghorau Ymchwil y DG (UKRI) i ddarpar academyddion sydd yn astudio ar gyfer doethuriaeth.  Maent hefyd yn derbyn hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil ac addysgu ac yn magu profiad trwy gyfrannu at fodiwlau israddedig trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Gangen yn gallu enwebu un Ysgoloriaeth Ymchwil doethuriaeth (PhD) drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol pob blwyddyn. Y drefn arferol yw bod pob Prifysgol yng Nghymru yn gallu cyflwyno hyd at pum chais y flwyddyn i’w hystyried gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rydym yn croesawi syniadau am brosiectau posib drwy’r flwyddyn ond byddai angen i ni dderbyn cais erbyn 1af o Dachwedd er mwyn ystyried prosiect bydd yn dechrau yn y mis Medi canlynol.

Prosiectau Ymchwil Blaenorol

Darperir y tabl isod i roi syniad i ymgeiswyr o’r teitlau prosiectau a’r meysydd pwnc mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ariannu ym Mhrifysgol Aberystwyth hyd yn hyn:

Pwnc

Teitl a chopi o'r traethawd

Daearyddiaeth

Astudiaeth o gyfraddau a phatrymau ansefydlogrwydd fertigol ar afonydd Cymru

Hanes a Hanes Cymru

Chwaraeon a chymdeithas : gogledd orllewin Cymru, c.1850-1914

Gwyddorau Biolegol

Prosesau cysgadrwydd ac egino mewn sborau bacteria a ffyngau

Daearyddiaeth

Ffydd, hunaniaeth, a bywyd bob dydd : daearyddiaethau cwtidaidd Mwslemiaid gorllewin Cymru

Mathemateg

Dadelfeniad cyfeiliornad darogan y tywydd trwy ddefnyddio adnewyddiadau ffrwythiannau

Hanes Cymru

Myfyrwyr canoloesol Cymreig a'u gyrfaoedd

Y Gyfraith

Addysg gyfreithiol cyfrwng Cymraeg, a oes hawl i’r ddarpariaeth, ac a ydyw strwythur y ddarpariaeth yn ddigonol?

Daearyddiaeth (Newid Hinsawdd)

Newid hinsawdd: Astudio effeithiau digwyddiadau meteorolegol eithafol ar bobl y gorffennol er mwyn deall ein presennol a'n dyfodol

Diwydiannau Creadigol

Arwyddocâd anime fel ffurf animeiddio newydd, gan gyfeirio at weithiau dethol gan Hayao Miyazaki, Satoshi Kon a Mamoru Oshii

Astudiaethau Theatr

Croesi’r bar: Archwilio hunaniaeth y mewnfudwr Prydeinig trwy gyfrwng archif yr artist Cliff McLucas

Seicoleg

Seicoleg wybyddol: Datgelu salwch niwroddirywiol mewn arlunwyr

Y Gyfraith

Y gyllell ddyrchafedig : archwilio ffiniau hunan-amddiffyniad

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

ASEau, Pleidiau, a disgyblaeth : beirniadaeth o'r 'thesis rheoli pleidiol'

Amaethyddiaeth

Cloffni mewn gwartheg godro, y ffactorau sydd yn ei achosi a’r problemau sy’n codi ohono

Sgriptio

Beth yw ysgrifennu newydd?: Dadansoddiad hanesyddol ac ymholiad ymarferol i’r hyn a olygir gan ysgrifennu newydd heddiw

Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Ymgysylltiad gwleidyddol ar sail ffydd ar lefel is-wladwriaeth yn y DU: achosion Cymru a Gogledd Iwerddon

Daearyddiaeth Ddynol

Polisi Iaith Ymddygiadol?

Cymraeg

Ymchwil i Gymru Fydd: Datblygiad a Delweddau Ffuglen Wyddonol yn y Gymraeg

Daearyddiaeth

Archwilio'r posibiliadau o fewnblannu dealltwriaeth geomorffolegol wrth hyrwyddo a gwarchod geodreftadaeth Cymru

Gwyddorau Amgylcheddol

Rhyngweithiadau planhigyn-pridd y rhywogaeth ymledol Rhododendron ponticum L.

Gwyddorau Amgylcheddol

Astudiaethau ar darddiad esblygiadol a photensial biodechnolegol y ffyngau anaerobig

Ffiseg

Astudiaethau mewn digwyddiadau Cromosfferig a Haen Trawsnewid a'u perthynas â'r Corona gan ddefnyddio IRIS ac AIA

Gwyddorau Amaethyddol

Canfod a rheoli Twbercwlosis buchol (bTB) yn yr amgylchedd ar ffermydd yng Nghymru

Ffiseg

Offeryniaeth, arsylwadau, a dadansoddiad o gorona’r Haul mewn golau gweladwy band cul a band eang

Gwyddorau Amaethyddol

Ffermio digidol yng Nghymru: Troi gwastraff Amaeth yn gyfoeth

Troseddeg

Heddlua pobl sy’n agored i niwed

Milfeddygaeth

Meintioli ymddygiad da byw ar gyfer canfod clefydau gan ddefnyddio technolegau monitro da byw manwl gywir

Hanes

‘Bron bob tŷ wedi claddu rhywun annwyl!’ Astudiaeth o Bandemig Y Ffliw yng Nghymru, 1918-20

Cymraeg i Oedolion

Profiadau, cymhelliant a dilyniant dysgwyr Cymraeg rhwng 16 a 20 mlwydd oed. Sut mae cryfhau y dilyniant ieithyddol ar gyfer dysgwyr 16-18 mlwydd oed a dysgwyr dros 18 mlwydd oed?

Gwyddorau Amaethyddol

Strategaethau amaethyddol y dyfodol yng Nghymru: arweinir gan y farchnad, darparwyr gwasanaethau ecosystem neu arloeswyr arbenigol?

Cymraeg

Gyda’i gilydd yn gryfach? Pŵer y ffilm farddoniaeth

Troseddeg

Astudiaeth achos yn edrych ar effaith trychinebau tirlithriad yng Nghymru o berspectif cyfiawnder amgylcheddol o fewn Troseddeg Werdd