Gwaith y Gangen
Beth yw'r Gangen?
Mae Cangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac mae’n cael ei gweinyddu gan swyddogion a ariennir gan y Coleg ynghyd â swyddogion a gyflogir gan y Brifysgol. Mae’r gwaith dydd i ddydd yn cynnwys cyswllt cyson â swyddogion y Coleg, cefnogi staff academaidd gyda phrosiectau a ariennir gan y Coleg, adrodd am ddatblygiadau a monitro cynnydd prosiectau ac ysgoloriaethau’r Coleg, a chynghori myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â’r ddarpariaeth academaidd drwy’r Gymraeg. Mae’r Gangen hefyd yn cynnwys aelodaeth ehangach o staff a myfyrwyr y Brifysgol sy’n gysylltiedig â’r ddarpariaeth Gymraeg, ac mae cyfarfodydd a gweithgareddau’n cael eu trefnu’n rheolaidd.
Pwyllgor y Gangen
Gwaith Pwyllgor y Gangen o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw arolygu a datblygu darpariaethau academaidd a geir yn Aberystwyth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Pwyllgor yn monitro ac yn adolygu'n flynyddol y ddarpariaeth a geir drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn adrodd am faterion cynllunio ac adnoddau dysgu drwy'r Gymraeg i gyrff cynllunio'r Brifysgol, a thrwyddynt hwy, i'r Cyngor. Mae’r Pwyllgor yn cael ei gadeirio gan aelod o staff academaidd y Brifysgol sy’n dysgu drwy’r Gymraeg.
Aelodau’r Pwyllgor
- pob aelod o'r staff sy'n defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng dysgu;
- staff academaidd berthynol sy'n cefnogi dysgu cyfrwng Cymraeg;
- deiliaid ysgoloriaethau ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
- cynrychiolwyr y myfyrwyr gan gynnwys Llywydd UMCA.
Cadeirydd: Jonathan Fry (jof36@aber.ac.uk)
Is-gadeirydd: Dr Hywel Griffiths (hmg@aber.ac.uk)
Ysgrifennydd: Dr Tamsin Davies (ted@aber.ac.uk) a Mel Owen (meo14@aber.ac.uk), Swyddogion y Gangen
Cylch Gorchwyl Cangen Prifysgol Aberystwyth o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (PDF)
Gweithgareddau’r Gangen
Dengmlwyddiant y Gangen
Mae’r ddolen isod yn eich galluogi i ddarllen ac lawrlwytho e-lyfr sydd yn dathlu dengmlwyddiant Cangen Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2011-2021).
Tudalen Panopto’r Gangen
Mae tudalen Panopto y Gangen yn cynnwys recordiadau fideo o sesiynau blaenorol megis ein digwyddiad Cyflogadwyedd gyda chyn fyfyrwyr a Seminarau Ymchwil. Noder bydd angen mewngofnodi efo cyfrif Prifysgol Aberystwyth i weld y cynnwys.