Amdanom Ni

Darpariaeth Cydweithredol

Mae’r Swyddfa Partneriaethau Academaidd yn ymroddedig i feithrin perthynas gref â phartneriaid, yng Ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol, sy’n rhannu’r un weledigaeth ac ethos â hi ynglŷn â dysgu o ansawdd uchel sydd wedi’i arwain gan ymchwil a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr. Rydym yn gyfrifol am sicrhau ansawdd gweithgareddau partneriaethau cydweithrediadol, sy’n arwain yn rhannol neu’n gyfan gwbl at ddyfarniad Prifysgol Aberystwyth.

 


Datganiad Cenhadaeth:

Trwy ein partneriaethau cydweithrediadol, ein nod yw sicrhau rhagoriaeth o ran ansawdd a darpariaeth wrth inni gefnogi Prifysgol Aberystwyth i gynnal rhaglenni cydweithrediadol sy’n hygyrch yn fyd-eang ac sy’n rhoi sgiliau priodol i fyfyrwyr a fydd ganddynt am weddill eu hoes; mae’r rhain yn berthnasol i’n cymunedau lleol a byd-eang.