Ganolfan Creadigrwydd, Arweinyddiaeth ac Economïau Rhanbarthol (CLaRE)

Mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae dwys angen arweinyddiaeth effeithiol, creadigrwydd sefydliadol, a llunio polisïau mewn amgylcheddau rhyngwladol, rhanbarthol a lleol. Mae gwneud penderfyniadau sefydliadol yn dibynnu ar arweinwyr da, ac mae ansawdd gallu arweinydd i wneud penderfyniadau yn dibynnu ar yr amgylchedd sydd o’u cwmpas. Mewn cymdeithas ôl-COVID, mae angen dulliau amgen a chreadigol o ystyried strategaeth, strwythur ac arweinyddiaeth sefydliadol – dulliau sy’n cynnwys cyfarwyddiadau newydd i’r sefydliad ochr yn ochr â dealltwriaeth ddyfnach o’r amgylchedd a’r gymuned y mae sefydliadau ac unigolion yn gweithredu ynddynt. Mae CLaRE yn cynnig llwyfan ar gyfer ymchwil drawsddisgyblaethol i ymarfer a pholisi sefydliadol, adfywio cymunedol a lleol, a’r gwerth sydd i feddwl yn greadigol ar lefel leol, ranbarthol a rhyngwladol.

Mae strategaethau’n cynnwys creu swyddi, mwy o gynhyrchiant, datblygu entrepreneuriaeth, arallgyfeirio, adfywio, trosglwyddo gwybodaeth, ymchwil a datblygu, cynaliadwyedd a chreu amgylchedd economaidd, cymdeithasol a rheoleiddiol priodol sy’n annog menter a datblygu busnes newydd.

Diddordebau Ymchwil

Sefydlwyd y Ganolfan o fewn Ysgol Fusnes Aberystwyth yn 2006, gyda’i gwaith amlddisgyblaethol yn adeiladu ar draddodiad o astudio economi Cymru ac ardaloedd gwledig yn benodol. Ers ei sefydlu, mae’r Ganolfan wedi ymgymryd â nifer o brosiectau ymchwil uchel eu proffil wedi’u hariannu gan yr UE a’r prosiectau hyn yn cynnwys cydweithio’n rhyngwladol ag ystod eang o bartneriaid academaidd. Mae’r rhain yn cynnwys adroddiad pwysig ar effeithiau diwygio amaethyddol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP) ar gyflogaeth, datblygu rhaglen i annog a chefnogi entrepreneuriaeth ymysg menywod, ac astudiaeth o rwydweithiau dysgu cynaliadwy yng Nghymru ac Iwerddon.

Yng Nghymru mae ymchwilwyr y Ganolfan wedi bod yn rhan o astudiaethau ar gynllunio strategol yn y Canolbarth, datblygu cynaliadwy yn Sir Benfro, effeithiau newid yn yr hinsawdd ar y galw am dwristiaeth, ac ymchwiliad i effeithiau tollau Pont Hafren ar fusnesau bychain, tra bod astudiaethau a chyhoeddiadau eraill yn cynnwys gwaith ar sector cyfleustodau dŵr Cymru, perthynas cwmni rheilffordd treftadaeth â rhanddeiliaid, patrymau hunangyflogaeth, a pholisi datblygu gwledig. Nododd RAE 2008 bod gan y Ganolfan “allbynnau sy’n arwain y byd”, a phwysleisiodd “gefnogaeth yr Ysgol Rheolaeth a Busnes i’r economi ranbarthol”.

I gael rhagor o wybodaeth am bynciau ymchwil cyfredol, gweler y Gyfres Seminarau wythnosol.

Mae CLaRE yn ddiweddar wedi’i ailffurfio ar newydd wedd wrth iddi ystyried strategaeth, strwythur ac arweinyddiaeth sefydliadol mewn cymdeithas Ôl-COVID ochr yn ochr â’r ffocws gwreiddiol ar economïau rhanbarthol a lleol. Yn ei ffurf newydd mae CLaRE yn darparu llwyfan ar gyfer ymchwil drawsddisgyblaethol a chreadigol sy’n cynnwys y celfyddydau a’r dyniaethau yn ogystal â’r gwyddorau cymdeithasol.

Prosiectau Cyfredol

Datblygu Cydlyniant Cymunedol drwy Ymarfer Llenyddol
Tîm Ymchwil: Yr Athro Matthew Jarvis (Aberystwyth, Ysgrifennu Creadigol), Dr Sophie Bennett-Gillison (Aberystwyth) a Dr Lyndon Murphy (Aberystwyth)

Partneriaeth ymchwil twristiaeth gyda Phrifysgol Chengdu
Tîm Ymchwil: Dr Julio Munoz

Prosiect Llif, Newid a Lles
Tîm Ymchwil: Dr Sophie Bennett-Gillison (Aberystwyth), Dr Paul Joiner (Ymchwilydd Annibynnol), Diana Reynolds (Llywodraeth Cymru, Aberystwyth)

Twristiaeth Fferm yng Nghymru
Tîm Ymchwil: Mandy Talbot (Aberystwyth)

Dadansoddiad Deinamig o Dlodi a Bregusrwydd yng Nghymru: Symud y Tu Hwnt i’r “Dull Confensiynol”
Tîm Ymchwil: Shafiul Azam, Abdi Ali, Maria Plotnikova, Peter Midmore, Andy Henley

Adfywio trefi gwledig yng Nghymru: Achos Treffynnon
Tîm Ymchwil: Matthew Price (Myfyriwr PhD, Aberystwyth), Dr Julie Jones (Aberystwyth)

Dylanwadu ar bolisi adfywio cymunedol yng Nghymru ar ôl Covid-19 – dadansoddiad o ddisgwrs rhanddeiliaid
Tîm Ymchwil: Dr Sophie Bennett-Gillison (Aberystwyth), Dr Wyn Morris (Aberystwyth) Lyndon Murphy (Aberystwyth)

Prosiectau’r gorffennol

Beth sy’n ysgogi Pobl Greadigol? A yw artistiaid yn dilyn gyrfaoedd creadigol i gael hunanfoddhad neu i wneud bywoliaeth?
Tîm Ymchwil: Sophie Bennett (Aberystwyth)

Cymru Fwytadwy: Bwyd a’r Ardal Leol
Tîm Ymchwil: Sophie Bennett, Rob Bowen, Richard Marggraf Turley a Tim Williams (oll yn Aberystwyth), gyda phartneriaid busnes Artis Studios ac AO Studios

Amrywiad Prisiau Tai Rhanbarthol yn ôl Math o Eiddo
Tîm Ymchwil: Maria Plotnikova a Dennis Thomas (Aberystwyth), Bruce Morley (Caerfaddon)

Bwriadau Entrepreneuraidd, Cymhellion a Phontio i Hunangyflogaeth
Tîm Ymchwil: Andrew Henley (Aberystwyth), Chris Dawson (Gorllewin Lloegr), Paul Latreille (Sheffield)

Rhagfarn or-optimistiaeth a dewis entrepreneuraidd a pherfformiad busnes
Tîm Ymchwil: Andrew Henley (Aberystwyth), Chris Dawson (Gorllewin Lloegr), David de Meza (LSE) Reza Arabsheibani (Abertawe)

Arweinyddiaeth a Pherfformiad Busnesau Bychain: Amrywiad Rhanbarthol mewn Ffurfio Cwmnïau Newydd
Tîm Ymchwil: Andrew Henley (Aberystwyth), Karen Jones a Sally Sambrook (Bangor), a Luke Pittaway (Georgia Southern)

Ymchwilio i Rôl Eisteddfodau wrth greu a throsglwyddo Gwerth Diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt
Tîm Ymchwil: Brian Garrod a David Dowell (Aberystwyth) (gweler http://www.aber.ac.uk/en/smb/research/cultural-values/)

Archwilio a Phrofi Materion Polisi Rhanbarthol yn y Gogledd-orllewin
Tîm Ymchwil: Rhydian Fôn James, Peter Midmore a Dennis Thomas (Aberystwyth)

Cysylltiadau rhwng y diwydiant amaethyddol a diwygiadau polisi gwledig – Cymru-Sweden
Tîm Ymchwil: Peter Midmore (Aberystwyth), Gunnar Lindberg ac Yves Surry (Uppsala)

Amrywiadau Rhanbarthol wrth Ffurfio Cwmnïau Newydd
Tîm Ymchwil: Andrew Henley a Maria Plotnikova (Aberystwyth)

Sefydliadau Credyd Anffurfiol yn Uzbekistan ôl-Gomiwnyddol
Tîm Ymchwil: Peter Midmore (Aberystwyth) a Kobil Ruziev (Gorllewin Lloegr)

Datblygu Cyfrifiannell Effeithlonrwydd Wyna
Tîm Ymchwil: Wyn Morris a Nishikant Mishra (Aberystwyth)

Datblygu Cyfrifiannell Porthi Wyn ar-lein i fod yn Offeryn Rheoli i Ffermwyr
Tîm Ymchwil: Wyn Morris a Nishikant Mishra (Aberystwyth)

Entrepreneuriaeth Menywod – Cymru-Iwerddon
Tîm Ymchwil: Nerys Fuller-Love (Prif Ymgeisydd), Peter Midmore, Anna Prytherch a Dennis Thomas (Aberystwyth), Bill O’Gorman (Sefydliad Technoleg Waterford)

Effaith Diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin ar Lefelau Cyflogaeth mewn Ardaloedd Gwledig
Tîm Ymchwil: Nerys Fuller-Love, Lesley Langstaffe, Peter Midmore, Mark Rhodes a Dennis Thomas (Aberystwyth), a chydweithio ag academyddion mewn saith gwlad arall yn Ewrop

Dadansoddi Senarios a Datblygu Economaidd Rhanbarthol – Canolbarth Cymru
Tîm Ymchwil: Nerys Fuller-Love, Andrew Henley, Peter Midmore a Dennis Thomas (Aberystwyth)

Hunanddibyniaeth Ranbarthol a Datblygu Economaidd – Sir Benfro, Cymru
Tîm Ymchwil: Peter Midmore a Dennis Thomas (Aberystwyth)

Effaith Newid yn yr Hinsawdd ar Economi Ymwelwyr Cymru
Tîm Ymchwil: Brian Garrod (Aberystwyth), David Frost (ADAS), Gina Cavan a Sarah Lindley (Manceinion), Maureen Agnew a Clare Goodess (Dwyrain Anglia)

Effaith Economaidd Tollau Pont Hafren
Tîm Ymchwil: Peter Midmore, Nick Perdikis, Anne-Marie Sherwood a Dennis Thomas (Aberystwyth)

Newid Sefydliadol mewn Cwmnïau Rheilffordd Treftadaeth
Tîm Ymchwil: Dennis Thomas (Aberystwyth), Kelum Jayasinghe (Essex), Teeven Soobaroyen (Southampton)

Rhwydweithiau Dysgu Cynaliadwy i Entrepreneuriaid – Cymru-Iwerddon
Tîm Ymchwil: Nerys Fuller-Love, Chris Dawson, Anne Howells, Sajjad Jasimuddin, Lesley Langstaffe, Peter Midmore a Dennis Thomas (Aberystwyth), Bill O’Gorman (Waterford)

Effaith Ymchwil Amaethyddiaeth yr UE
Tîm Ymchwil: Peter Midmore, Andrew Henley, Maria Plotnikova a chonsortiwm o Sefydliadau Ymchwil Ewropeaidd (gweler http://www.impresa-project.eu/home.html)

Trafodion Symposiwm CLaRE a Chanolfan Arbenigedd Ranbarthol 2021

Symposiwm CLaRE 23 Mehefin 2021

Cynhaliwyd symposiwm ymchwil blynyddol y Ganolfan Creadigrwydd, Arweinyddiaeth ac Economïau Rhanbarthol (CLaRE) ar 23 Mehefin 2021. Teitl y symposiwm oedd ‘Adfywio Cymunedau Gwledig’. Roedd y symposiwm am hyrwyddo ymchwil yn ymwneud â’r effaith y mae pandemig COVID-19 wedi’i chael ar gymunedau gwledig (wedi’u diffinio yn yr achos hwn i fod yn gymunedau, sefydliadau ac unigolion sy’n gweithredu/byw y tu allan i ddinasoedd). Ei nod oedd arddangos ymchwil academyddion, ymarferwyr a myfyrwyr ymchwil ledled Prifysgol Aberystwyth a rhwydweithiau ei rhanddeiliaid. Cynhaliwyd y symposiwm ar y cyd â rhwydwaith Canolfannau Arbenigedd Ranbarthol Cymru (yn enwedig, y Ganolfan Gwydnwch Cymunedau).

Conference Programme:

12.00

Welcome and introductions (Dr Lyndon Murphy)

12.15-1.00

Keynote speaker: Paul Byard (FSG Tool & Die Limited)

 

Building resilience

 

Presentations – Track 1

Theme: Creativity, Education and Care

1-1.20

Guy Evans (The Care Society, Ceredigion).

 

COVID-19 and The Care Society

1.20-1.40

Leusa Llewelyn (Literature Wales).

 

Reaching new audiences in lockdown / Cyrraedd cynulleidfaoedd mewn byd dan glo

1.40-2.00

Matthew Francis (Aberystwyth)

 

A Writer's Lockdown

2.00-2.20

Siân Lloyd-Williams (Aberystwyth), Prysor Davies (Aberystwyth), Susan Chapman (Aberystwyth), Alwyn Ward (Aberystwyth), Rhodri Aled Evans (Aberystwyth).

On lives, on learning: Online – A study of the lived experiences of stakeholders in the education sector in mid-Wales during the COVID-19 pandemic.

2.20-2.40

Jonathan Fry (Aberystwyth), Roger Owen (Aberystwyth).

 

What are the priorities of consumers and theatre Venue Managers in rural Wales when returning to live events?

2:40-3.00

Break

 

Presentations – Track 2

Theme: Covid19 – Economic Impact and Regeneration

3.00-3.15

Matthew Price (Aberystwyth)

 

The impact of Covid19 on the small high street

3.15-3.35

Lyndon Murphy (Aberystwyth), Wyn Morris (Aberystwyth), Sophie Bennett (Aberystwyth)

 

Influencing community regeneration policy in Wales post Covid-19 an analysis of stakeholder discourse

3.35-3.55

Mandy Talbot (Aberystwyth)

 

Farm Tourism in Wales: operators, impacts and the potential impact of Covid 19 and Brexit.

3.55-4.15

Louise Manning (Royal Agricultural University).

 

Food fraud in a pandemic

4.15

Aloysius Igboekwu (Aberystwyth), Sarah Lindop (Aberystwyth), Maria Plotnikova (Aberystwyth).

 

The economic impact of COVID-19 on Ceredigion in Wales (working title)

4.35 – 5.15pm

Plenary - points of action (including Pan-Wales Conference 2021 discussion)

Mae cyfnodolyn ymchwil (gweithredol) CLaRE yn gyfnodolyn y gwyddorau cymdeithasol sydd ar-lein, wedi’i adolygu gan gymheiriaid, ac ar gyfer staff, myfyrwyr, partneriaid prifysgol, a rhanddeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ddiddordebau’n amrywio ar draws sbectrwm llawn y gwyddorau cymdeithasol – yn ogystal â mynd i’r afael â defnyddio ymarfer creadigol mewn cyd-destunau gwyddoniaeth gymdeithasol. Mae wedi’i anelu’n benodol at helpu academyddion, ymarferwyr, myfyrwyr PhD a DProf i baratoi gwaith ar gyfer ei gyhoeddi. Nid yw cyflwyno gwaith i Gyfnodolyn Ymchwil CLaRE yn atal cyhoeddi’n allanol; yn wir, nod y Cyfnodolyn hwn yw cefnogi creu gwaith sy’n addas i’w gyhoeddi mewn mannau allanol. Prif gynulleidfa’r cyfnodolyn yw darllenwyr sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth, gan gynnwys darlithwyr, myfyrwyr a rhanddeiliaid y Brifysgol sydd â diddordeb mewn materion, prosesau a phrofiadau ym maes y gwyddorau cymdeithasol cyfoes. Cyhoeddir y cyfnodolyn ar-lein drwy wefan Ysgol Fusnes Aberystwyth, https://www.aber.ac.uk/cy/abs/, ddwywaith y flwyddyn, ym mis Rhagfyr a Mehefin.

Canllawiau Cyflwyno

Dylai cyflwyniadau fod naill ai mewn UN ddogfen Word neu ddogfen PDF a dylent fod rhwng 6,000 a 10,000 o eiriau (gan gynnwys rhestr o’r gweithiau y dyfynnwyd ohonynt). Ni dderbynnir llawysgrifau sy’n fwy na’r terfyn geiriau uchaf. Dylid anfon cyflwyniadau at Dr Sophie Bennett-Gillison sob@aber.ac.uk

Caiff pob math o erthyglau eu hystyried gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: ymchwil empirig, astudiaethau achos, adroddiadau sy’n benodol i’r diwydiant, nodiadau ymchwilydd, ac archwiliadau i ymarfer creadigol mewn cyd-destun cymdeithasol-ddiwylliannol.

Strwythur erthygul i CLaRE

Datganiad o fuddiant: Rhaid i bob awdur ddatgelu unrhyw berthynas ariannol a phersonol â phobl neu sefydliadau eraill a allai ddylanwadu’n amhriodol ar eu gwaith. Dylid darparu manylion cyllidwyr hefyd.

Awduraeth: Dylai awduron ddarparu rhestr ddiffiniol a threfnus o awduron ar adeg cyflwyno.

Cyfeirnodi: Nid oes unrhyw ofynion llym o ran fformatio cyfeiriadau wrth gyflwyno. Gall y cyfeirnodi fod mewn unrhyw arddull neu fformat cyn belled â bod yr arddull yn gyson. Pan fo’n berthnasol, rhaid cynnwys enw(au) awdur(au), teitl y cyfnodolyn/teitl llyfr, teitl y bennod/erthygl, blwyddyn cyhoeddi, rhif cyfrol/pennod llyfr a rhif yr erthygl neu rifau tudalen. Mae’r defnydd o DOI yn cael ei annog yn fawr.

Gofynion fformatio: Nid oes unrhyw ofynion fformatio llym ond rhaid i bob llawysgrif gynnwys yr elfennau hanfodol sydd eu hangen i gyflwyno eich llawysgrif, er enghraifft: Crynodeb, Geiriau Allweddol, Cyflwyniad, Deunyddiau a Dulliau, Canlyniadau, Casgliadau, Gwaith Celf a Thablau sydd â Chapsiynau. Dylech rannu’r erthygl yn adrannau sydd wedi’u diffinio’n glir.

Ffigurau a thablau sydd wedi’u hymgorffori yn y testun: gwnewch yn siŵr fod y ffigurau a’r tablau sydd yn yr un ffeil yn cael eu rhoi wrth ymyl y testun perthnasol yn y llawysgrif, yn hytrach nag ar waelod neu ar frig y ffeil.

Tîm Golygyddol:

Prifolygyddion: Dr Sophie Bennett-Gillison & Dr Julio Munoz (Business School)

Dr Ian Birchmore (Business School)

Professor Mererid Hopwood (Welsh and Celtic Studies)

Professor Matthew Jarvis (Creative Writing)

Dr Lyndon Murphy (Business School)

Professor Andrew Thomas  (Business School)

Professor Michael Woods (Geography and Earth Sciences)

Professor Reyer Zwiggelaar (Computer Science)

Recent publications:

2019

  • Cater, C., Poguntke, K. & Morris, W., (2019),  Y Wladfa Gymreig: outbound diasporic tourism and contribution to identify. In: Tourism Geographies. 

2018

  • Barjolle, D., Midmore, P. & Schmid, O., (2018) Tracing the Pathways from Research to Innovation: Evidence from Case Studies. In: EuroChoices.17, 1, p. 11-18. 
  • Bennett, S., Rahman, R. & Fuller-Love, N., (2018). The Rural Artistic Entrepreneur: Exploring Motivational Tension and Creative Production in Rural Economies. In : Revue de l'Entrepreneuriat.1, 17, p. 29-38. 
  • Gkartzios, M. & Remoundou, K., (2018) Language struggles: Representations of the countryside and the city in an era of mobilities. In: Geoforum.93, p. 1-10. 
  • Khorana, S & Perdikis, N (2018). Modelling the Economic Impact of Brexit on the Welsh Economy. Welsh Assembly, Aberystwyth University, pp 1-41 
  • Midmore, P., (2018) Realising the Potential of European Agricultural Science Impacts. In: EuroChoices.17, 1, p. 31. 
  • Morley, B & Thomas, D, (2018) Covariance Risk and the Ripple Effect in the UK Regional Housing Market.  In: Review of Economics and Finance. 12, 3, p. 1-13. 
  • Morris,W. & Bowen, R., (2018). Digital Divide: Broadband access implications on agribusiness in rural Wales. 
  • Williams, K., Williams, J. & Thomas, D., (2018) Why are the British Bad at Manufacturing? Routledge Journals, 1 ed.,Taylor & Francis Ltd. p. 288. (Routledge Library Editions: Industrial Economics). 
  • Woods, M., Bowen, R., Dwyer, J., Jones, R. D., Liddon, A., Marsden, T., Midmore, P., Shortall, S., Williams, P. & Wynne-Jones, S., (2018) After Brexit: 10 Key Questions for Rural Policy in Wales. Centre for Rural Economy Newcastle University. p. 17. 

2017

  • Bennett, S. & Bowen, R., (2017) Brexit: Implications for the Food and Craft Industries
  • Gkartzios, M., Remoundou, K. & Garrod, G., (2017) Emerging geographies of mobility: The role of regional towns in Greece's 'counterurbanisation story'.  , In : Journal of Rural Studies.55, p. 22-32. 
  • Midmore, P., (2017) The science of impact and the impact of agricultural science. In : Journal of Agricultural Economics.68, 3, p. 611-631. 
  • Midmore, P., (2017) Agricultural science research impact in the Eastern European Union Member States. In: Studies in Agricultural Economics.119, 1, p. 1-10. 
  • Morris, W., Henley, A. & Dowell, D., (2017) , Farm diversification, entrepreneurship and technology adoption: Analysis of upland farmers in Wales.  In : Journal of Rural Studies.53, p. 132-143. 
  • Morris, D. & James, W., (2017) Social Media, an Entrepreneurial Opportunity for Agricultural Based Enterprises.  In : Journal of Small Business and Enterprise Development.24, 4, p. 1028-1045. 
  • Munoz, J. R., Griffin, T., & Humbracht, M. (2017). Towards a new definition for “visiting friends and relatives”. International Journal of Tourism Research. 19(5), 477-485. 

  • Munoz, J. R. (2017). The role of students as hosts of VFR travellers: How does the host affect the visitor's experience of a destination. Working paper in CAUTHE 2017: Time For Big Ideas? Re-thinking the Field For Tomorrow. 771-773. 

  • Munoz, J. R. (2017). Is VFR the forgotten link of the collaborative economy? A comparative analysis of VFR, Airbnb and Couchsurfing experiences. IFITTtalk Surrey Think Tank: Collaborative Economy. 

  • Munoz, J. R., Griffin, T., & Humbracht, M. (2017). Towards a new definition for “visiting friends and relatives”. Bournemouth University International Conference: The Visitor Economy, Strategies and Innovations. 

  • Ntim, C. G., Lindop, S. J., Thomas, D. A., Abdou, H. & Opong, K. K., (2017) Executive Pay and Performance: The Moderating Effect of CEO Power and Governance Structure. In : International Journal of Human Resource Management. p. 1-43. 
  • Nunes, S., Lopes, R. & Fuller-Love, N., (2017) Networking, Innovation and Firms' Performance: Portugal as Illustration.  In : Journal of the Knowledge Economy. 

2016 

  • Bowen, R. & Bennett, S., (2016) Selling places: Using place-based marketing to promote regional produce: The case of Rhondda Cynon Taff
  • Fuller-Love, N., Hasnain, S. S. & Jasimuddin, S. M., (2016) Exploring Cause, Taxonomies, Mechanisms and Barriers Influencing Knowledge Transfer: Empirical Studies in NGOs.  In : Information Resources Management Journal.29, 1, p. 39-56 18 p., 3. 
  • Holland, K., Lindop, S. & Zainudin, F., (2016) Tax Avoidance: a threat to corporate legitimacy? an examination of companies' financial and CSR reports. In: British Tax Review vol 2016, no. 3 
  • Morley, B & Thomas, D, (2016) An Empirical Analysis of UK House Price Risk Variation by Property Type  In: Review of Economics and Finance. 6, 2, p. 45-56 p. 
  • Munoz, J. R. (2016). The role of students as hosts of VFR travellers: How do hosts influence their visitor's experience. University of Surrey Hospitality and Tourism Management Conference 2016, 'Making an Impact: Creating Constructive Conversations'. 
  • Plotnikova, M., Romero, I. & Martínez-Román, J. A., (2016) Process innovation in small businesses: the self-employed as entrepreneurs. In : Small Business Economics.p. 1-16. 
  • Plotnikova, M., Romero, I. & Martínez-Román, J. A., (2016) Process innovation in small businesses: the self-employed as entrepreneurs. In : Small Business Economics.p. 1-16. 
  • Plotnikova, M., Sarangi, S. & Swaminathan, S., (2016) On the Relationship between Spillovers and Bundling. In : Manchester School.84, 2, p. 181-196. 
  • Plotnikova, M., Tumanov, A. & Zhelezova, E., (2016) Evolution of the Housing Finance System in Russia.  Milestones in European Housing Finance. Lunde, J. & Whitehead, C. (eds.). Wiley, p. 325-339 (Real Estate Issues). 
  • Remoundou, K., Gkartzios, M. & Garrod, G., (2016) Conceptualizing Mobility in Times of Crisis: Towards Crisis-Led Counterurbanization? In : Regional Studies.50, 10, p. 1663-1674. 
  • Talbot, A., (2016) Farm Tourism: A new peasantry perspective p. 45. 

2015 

  • Breitsohl, J., Wilcox, J. P. & Harris, I. (2015) Groupthink 2.0: An empirical analysis of customers' conformity-seeking in online communities.  In : Journal of Customer Behaviour.14, 2, p. 87-106. 
  • Fuller-Love, N., (2015) Female Entrepreneurship in East Asia. Handbook of East Asian Entrepreneurship. Fu-Lai Yu, T. & Yan, H-D. (eds.). Taylor & Francis, p. 191-201. 
  • Ntim, C. G., Lindop, S., Osei, K. A. & Thomas, D. A., (2015) Executive Compensation, Corporate Governance and Corporate Performance: A Simultaneous Equation Approach  In: Managerial and Decision Economics.36, 2, p. 67-96. 
  • Thomas, D, (2015) Tinopolis to Tinopolis: A Century of Industrial Change . In Amrywiaeth Llanelli Miscellany, 28, p. 53-65. 

2014

  • Bennett, S.S., McGuire, S. & Rahman, R. J., (2014) Living Hand to Mouth: Why the Bohemian Lifestyle Does Not Lead to Wealth Creation in Peripheral Regions. In : European Planning Studies.23, 12, p. 2390-2403. 
  • Fuller-Love, N., Power, J., Sinnott, E. & O'Gorman, B., (2014) Developing self-facilitating learning networks for entrepreneurs: a guide to action.  In : International Journal of Entrepreneurship and Small Business.21, 3, p. 334-352 p. 
  • Lindop, S., Holland, K. & Zainudin, F., (2014). What do companies tell us about their corporate income taxation affairs? 
  • Plotnikova, M., (2014) The Effect of Prior Educational Achievement on Academic outcomes in Economics at a UK University
  • Talbot, A. & Cater, C. I.( 2014) Student-led Planning of Tourism and Hospitality Education: The Use of Wikis to Enhance Student Learning.  The Routledge Handbook of Tourism and Hospitality Education. Airey, D., Dredge, D. & Gross, M. J. (eds.). Taylor & Francis.