Programme Specifications
Ysgrifennu Creadigol a'r Diwydiant Cyhoeddi
Information provided by Department of Welsh:
Information provided by Department of Welsh:
Cymraeg
Information provided by Department of Welsh:
Medi 2023
Information provided by Department of Welsh:
Nod y rhaglen yw datblygu diddordeb a gallu myfyrwyr sy’n astudio Ysgrifennu Creadigol, gan feithrin ynddynt wybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach o’r maes, ynghyd â’u galluogi i werthfawrogi arwyddocâd diwylliannol a chreadigol y Gymraeg. Enynnir brwdfrydedd dros y pwnc drwy gyfrwng cwricwlwm eang a chytbwys. Mae’r rhaglen yn cynnig dewis eang o fodiwlau creadigol, ieithyddol, llenyddol feirniadol a phroffesiynol sy’n ymwneud â iaith ac â llenyddiaeth mewn gwahanol gyfnodau hanesyddol, o’r cyfnod cynharaf hyd heddiw. Mae modiwlau craidd y rhaglen yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau creu, ymchwilio a dadansoddi iaith a llên sylfaenol, ac ar feithrin dealltwriaeth o gyweiriau a theithi’r iaith Gymraeg. Gan hynny, nod y rhaglen yw cynhyrchu graddedigion a fydd yn meddu ar sgiliau creadigol, sgiliau ymchwilio, sgiliau beirniadol a sgiliau cyfathrebu o safon uchel, ac a fydd yn defnyddio’r sgiliau hynny i gyfoethogi eu bywydau diwylliannol a phroffesiynol mewn cyd-destun Cymraeg a dwyieithog.
Information provided by Department of Welsh:
Gellir crynhoi canlyniadau dysgu arfaethedig y rhaglen fel a ganlyn: cyflwynir seiliau cadarn ar gyfer meithrin sgiliau ysgrifennu yn y flwyddyn gyntaf, ac adeiledir ar hynny yn yr ail a’r drydedd flwyddyn drwy roi cyfle i’r myfyrwyr weithio’n fwy annibynnol dan gyfarwyddyd. Bydd y modiwl craidd Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol yn cyflwyno’r myfyrwyr yn Rhan 1 i ystod eang o wahanol ffurfiau llenyddol creadigol, ynghyd â’r diwydiant creadigol yn gyffredinol. Yn yr ail flwyddyn, rhoir cyfle iddynt ganolbwyntio ar rai ffurfiau creadigol mewn mwy o fanylder yn y modiwl CY20420 Gweithdai Ysgrifennu Creadigol ac, erbyn y drydedd flwyddyn, bydd modd iddynt arbenigo ar un neu fwy o ffurfiau drwy weithio’n fwy annibynnol yn y modiwl CY30420 Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol. Cefnogir y llwybr hwnnw drwy Ran 1 a Rhan 2 gan fodiwlau craidd a dewisol sy’n rhoi sail ieithyddol a llenyddol gadarn iddynt gyflawni’r gwaith. Mewn byr eiriau, fe’u dysgir i ysgrifennu’n gryno, yn fwriadus ac yn ddiwastraff; i hunanfyfyrio’n aeddfed feirniadol; i ddadansoddi’n drylwyr destunau llenyddol a phroffesiynol.
Information provided by Department of Welsh:
-
A1 Dealltwriaeth o wahanol ffurfiau llenyddol a phrofiad o’u harfer.
-
A2 Y gallu i ysgrifennu Cymraeg safonol mewn modd eglur ac effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
-
A3 Ymwybyddiaeth drylwyr o lenyddiaeth Gymraeg o wahanol gyfnodau, sef o’r oesoedd canol hyd y presennol.
-
A4 Dealltwriaeth o amrywiadau lleol a chymdeithasol Cymraeg cyfoes ac ymagweddau tuag atynt.
-
A5 Y gallu i ddeall, i ddisgrifio ac i werthuso effaith amryfal ddatblygiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ar yr iaith Gymraeg ac ar y modd y llunnir ac y dehonglir testunau llenyddol.
-
A6 Datblygu syniadau cymhleth a dehongliadau annibynnol a deallus, gan ddeall eu perthynas â sefyllfaoedd hanesyddol penodol.
-
A7 Dealltwriaeth o berthynas y Gymraeg â thechnoleg a chyfryngau o bob math.
-
A8 Ymwybyddiaeth o wahanol feysydd ieithyddiaeth gymwysedig, megis cynllunio a pholisi iaith, caffael iaith, dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, dadansoddi disgwrs a chyfieithu.
-
A9 Dadansoddi testunau a disgyrsiau gan ddefnyddio methodolegau, damcaniaethau a therminoleg ieithyddol a llenyddol addas, gan gynnwys rhai a gysylltir yn arbennig â’r Gymraeg (yn benodol, y gynghanedd).
-
A10 Dealltwriaeth o berthynas y Gymraeg a’i llenyddiaeth â diwylliannau ac ieithoedd eraill.
Dysgu ac Addysgu:
Defnyddir ystod o ddulliau dysgu, yn unol ag amcanion modiwlau unigol: darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtora, dosbarthiadau iaith, dosbarthiadau darllen testun, gwaith maes, profiad gwaith, gweithdai, traethawd estynedig neu brosiect (dan gyfarwyddyd), dysgu cyfeiriedig, dysgu annibynnol, e-ddysgu. Dysgir 1–5, 7–8, 10 ym modiwlau creiddiol a dewisol Rhan 1, a rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu 1–10 ym modiwlau dewisol Rhan 2. Disgwylir i fyfyrwyr gadarnhau ac ymestyn yr wybodaeth a ddysgir mewn darlithoedd, seminarau, gwaith maes ac ati drwy ddarllen yn annibynnol. Ceir cymorth ac adnoddau ychwanegol i fyfyrwyr yn Llyfrgell y Brifysgol ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Strategaethau a Dulliau Asesu:
Defnyddir y dulliau asesu canlynol ar fodiwlau’r rhaglen, a hynny mewn gwahanol gyfuniadau: arholiadau, profion ac ymarferion iaith, gwaith cwrs (traethodau ac adolygiadau), gwaith prosiect (gall fod ar y cyd), traethawd estynedig, asesu llafar (gan gynnwys cyflwyniadau ffurfiol a chyfraniadau mewn seminar), profiad gwaith (gan gynnwys adroddiadau ffurfiol a chadw dyddiadur adfyfyriol), gweithgareddau sy’n asesu sgiliau arbennig (gan gynnwys defnyddio ffurfiau llenyddol, technoleg gwybodaeth, llunio llyfryddiaeth a chyfeiriadau, llunio holiadur, trefnu gwaith maes), gwaith ffolio, gan gynnwys ysgrifennu creadigol ac ymarferion cyfieithu.
Information provided by Department of Welsh:
-
B1 Ysgrifennu’n greadigol i safon uchel drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o ffurfiau llenyddol, gan arbenigo mewn un neu ddwy ffurf benodol
-
B2 Canfod a dadansoddi gwybodaeth, safbwyntiau a dadleuon cymhleth ac amrywiol y pwnc gan arfer sgiliau ymchwil a thechnoleg gwybodaeth addas.
-
B3 Dangos sgiliau ieithyddol ymarferol a fydd yn cynnwys y gallu i drafod pynciau cymhleth yn briodol ac yn raenus, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
-
B4 Medru dadansoddi iaith a dadansoddi’r defnydd a wneir ohoni mewn amrywiol sefyllfaoedd.
-
B5 Gallu gwerthuso llenyddiaeth yn ei chyd-destun llenyddol, generig, hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.
Dysgu ac Addysgu:
Datblygir sgiliau creadigol a deallusol drwy gydol y rhaglen mewn amrywiol ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu sgiliau gwrando mewn darlithoedd, sgiliau deall wrth ddarllen a chymryd nodiadau (1, 3–4), seminarau, trafodwersi, traethodau estynedig a gwaith cwrs (1–5). Y mae 3 a 4 yn annatod i fodiwlau gramadegol creiddiol Rhan 1 a Rhan 2.
Strategaethau a Dulliau Asesu:
Mae pob un o’r dulliau asesu a ddefnyddir yn mesur gallu’r myfyriwr ym mhob un o’r sgiliau deallusol uchod drwy ymatebion ysgrifenedig. Asesir cyflwyniadau llafar yn ffurfiol hefyd mewn ystod o fodiwlau creadigol, ieithyddol a phroffesiynol.
Sgiliau proffesiynol ymarferol / Sgiliau penodol i ddisgyblaeth
Erbyn diwedd eu rhaglen, disgwylir i'r holl fyfyrwyr allu dangos:
-
C1 Dealltwriaeth o rym mynegiannol a chreadigol y Gymraeg, ynghyd â dealltwriaeth o gyweiriau a theithi’r Gymraeg, gan eu defnyddio’n briodol (i’r dasg neu i’r cyd-destun proffesiynol) ar lafar ac yn ysgrifenedig
-
C2 Arddangos hunanddisgyblaeth wrth gynllunio, trefnu, llunio, golygu a chyflwyno gwaith â diwyg proffesiynol o fewn terfynau amser penodedig
-
C3 Medru gwerthuso testunau cynradd ac eilaidd yn feirniadol yn eu cyd-destun llenyddol, generig, hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.
-
C4 Arddangos hunanddisgyblaeth wrth reoli amser ac wrth weithio’n annibynnol
-
C5 Arddangos y gallu i gydweithio ac i gyd-drafod yn effeithiol ag eraill, gan ddangos sensitifrwydd diwylliannol ac ieithyddol.
Dysgu ac Addysgu:
Cyflwynir y sgiliau ymarferol a disgyblaethol hyn i bob myfyriwr ym modiwlau craidd Rhan 1, ac fe’u datblygir ymhellach yn y modiwlau sy’n rhan o arlwy Rhan 2. Mae’r modiwl sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol (Portffolio Creadigol Annibynnol) yn cynnwys hyfforddiant ymchwil. Mae sgil 1 yn annatod i fodiwlau gramadegol creiddiol Rhan 1 a Rhan 2.
Strategaethau a Dulliau Asesu:
Asesir sgiliau 1–3 yn bennaf drwy waith cwrs ac arholiadau, ond nid asesir gwaith grŵp yn ffurfiol. O ran sgil 4, cosbir gwaith cwrs a gyflwynir ar ôl y dyddiad cyflwyno a gytunwyd.
Information provided by Department of Welsh:
-
D1 Dealltwriaeth o ffurfiau creadigol, o gyweiriau ac o rym mynegiannol y Gymraeg, ynghyd â’r cyd-destun priodol ar gyfer eu defnyddio
-
D2 Medru mynegi eu syniadau eu hunain a syniadau eraill mewn modd cryno, graenus, manwl-gywir ac argyhoeddiadol, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig
-
D3 Arddangos hunangyfeiriad a hynangymhelliant wrth gychwyn ar eu gwaith, a chymryd cyfrifoldeb drosto
-
D4 Gwerthuso eu harferion a’u rhagdybiaethau eu hunain a myfyrio arnynt
-
D5 Golygu gwaith, a’i gyflwyno mewn diwyg eglur a phroffesiynol
-
D6 Y gallu i ddeall hanfodion deunydd mewn iaith arall (neu ieithoedd erail) ac i’w gyfieithu i’r Gymraeg, neu ei ailfynegi yn y Gymraeg
-
D7 Gweithio’n adeiladol mewn grwpiau, ac asesu gwerth a pherthnasedd syniadau a dadleuon eraill.
Dysgu ac Addysgu:
Mae’r Rhaglen yn datblygu’r rhinweddau hyn wrth fynd rhagddi. Dysgir 1 a 2 yn bennaf drwy baratoi traethodau a thasgau creadigol, a thrwy baratoi ar gyfer seminarau a thrafodaethau; dysgir sgiliau 3 a 4 drwy lunio traethodau a phrosiectau, a thrwy gyflwyniadau llafar. Datblygir 5 wrth baratoi pob darn o waith ysgrifenedig i’w asesu. Mae sgil 6 yn elfen gref o fodiwlau sy’n ymwneud â chyfieithu ac â gramadeg. Meithrinnir sgil 7 ym mhob modiwl, ond nid asesir gwaith grŵp yn ffurfiol. Mae sgiliau 1 a 2 yn annatod i fodiwlau gramadegol creiddiol Rhan 1 a Rhan 2.
Strategaethau a Dulliau Asesu:
Mae’r meini prawf a ddatblygwyd ar gyfer marcio aseiniadau llafar, gwrando ac ysgrifenedig y rhaglen yn gwobrwyo safon a ddangosir drwy 1–6 yn ffurfiannol ac yn gyfansymiol, ond nid asesir sgil 7 yn ffurfiol.
BA Ysgrifennu Creadigol a'r Diwydiant Cyhoeddi [W840]
Academic Year: 2024/2025Single Honours scheme - available from 2021/2022
Duration (studying Full-Time): 3 yearsY Golygydd a Diwydiant Cyhoeddi Cymru
Y Golygydd a Diwydiant Cyhoeddi Cymru