Module Information

Cod y Modiwl
CY24520
Teitl y Modiwl
Y Gynghanedd: Cwrs Trochi
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  2 Awr  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  2 Awr  40%
Asesiad Ailsefyll Tasgau  40%
Asesiad Ailsefyll Tasgau  20%
Asesiad Semester Tasgau Wythnosol (dros chwe wythnos - gweithdai)  40%
Asesiad Semester Tasgau ar gyfer seminarau 8, 9 a 10  , lle gofynnir i’r myfyrwyr ddod o hyd i enghreifftiau o wahanol gynganeddion mewn cerdd briodol (er enghraifft, cerdd gan Ddafydd ap Gwilym). Gofynnir i’r myfyrwyr gyflwyno’r gwaith ar lafar ar ddechrau’r seminar. Os nad yw hyn yn ymarferol bosib oherwydd niferoedd, cynhelir sesiwn holi ac ateb yn seiliedig ar yr un dasg lle disgwylir i bob myfyriwr gyfrannu.  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Adnabod a dadansoddi’r prif fathau o gynghanedd;

Llunio cynganeddion cytsain syml;

Deall o’r newydd rai egwyddorion ieithyddol sylfaenol ynghylch yr iaith Gymraeg, megis cyseinedd, sillafau, acennu, odli;

Adnabod a dadansoddi enghreifftiau o’r gynghanedd mewn gwahanol gyfnodau yn hanes y grefft, o’r cynfeirdd i’r beirdd mwyaf diweddar;

Adnabod a deall sut y datblygodd y gynghanedd o gyfnod i gyfnod yn hanes y grefft;

Deall datblygiadau ymarferol a theoretig diweddar ym maes y gynghanedd.

Disgrifiad cryno

Ystyrir y gynghanedd yn grefft gwbl unigryw i’r iaith Gymraeg ac yn drysor diwylliannol. I’r rheini sydd wedi bod â diddordeb yn y grefft ers tro, ond heb gael cyfle i fynd i’r afael â hi, bydd y cwrs hwn yn eu rhoi ar ben ffordd. I’r rheini sy’n credu mai crefft i feirdd yn unig yw’r gynghanedd, bydd y cwrs hwn yn eu hannog i ailfeddwl. Nid yw popeth a ysgrifennir mewn cynghanedd yn farddoniaeth, ac mae’r sgiliau a ddysgir fel rhan o’r cwrs yn werthfawr i unrhyw un sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg.

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno egwyddorion theoretig ac ymarferol y grefft o gynganeddu. Yn y bôn, crefft yw’r gynghanedd sy’n galluogi i’r sawl sy’n ei hymarfer adnabod geiriau a gramadeg mewn modd trylwyr iawn. Beth bynnag a ysgrifennir, o gerdd i nofel i draethawd i ddarn cyfieithu, gall dealltwriaeth o’r gynghanedd gyfoethogi defnydd yr awdur o’r iaith Gymraeg. Yn ogystal â’r gwaith ymarferol o lunio cynganeddion, bydd y cwrs yn olrhain twf a datblygiad hanesyddol y gynghanedd ar hyd y canrifoedd, o Aneirin i Twm o’r Nant a Goronwy Owen (a gyfeiriodd at y gynghanedd fel ‘that horrid jingle’) i’r datblygiadau mwyaf diweddar.

Cynnwys

Chwe gweithdy dwyawr o hyd a phum seminar ddwyawr o hyd dros gyfnod o 11 wythnos.

1. Gweithdy: hanfodion ymarferol y gynghanedd (y ‘sbectol gynganeddu’), sef cytseiniaid/llafariaid, sillafau, acen, odl;
2. Gweithdy: y gynghanedd gytsain, gyda phwyslais ar gynganeddu geiriau unigol ac osgoi proestio;
3. Gweithdy: y gynghanedd gytsain, gyda phwyslais ar gynganeddu geiriau unigol gyda mwy nag un gair arall;
4. Gweithdy: y gynghanedd gytsain, gyda phwyslais ar lunio llinellau seithsill;
5. Gweithdy: ymarfer llunio cynganeddion cytsain, gan ganolbwyntio ar feiau a goddefiadau;
6. Gweithdy: y gynghanedd sain a’r gynghanedd lusg;
7. Seminar: darllen a dadansoddi enghreifftiau o’r gynghanedd yng ngwaith beirdd cyfoes;
8. Seminar: darllen a dadansoddi enghreifftiau o’r gynghanedd yng ngwaith y cynfeirdd, y gogynfeirdd a’r cywyddwyr, gan olrhain twf a datblygiad y grefft;
9. Seminar: darllen a dadansoddi enghreifftiau o’r gynghanedd yng ngwaith beirdd y cyfnod modern cynnar, o anterliwtiau Twm o’r Nant i waith yr emynwyr a’r awdlau eisteddfodol, ynghyd ag adfywiad y canu cynganeddol gan feirdd a hynafiaethwyr y ddeunawfed ganrif a’i ddylanwad ar y canu caeth a’r canu rhydd, yr awdl a’r bryddest;
10. Seminar: theorïau yn ymwneud â’r gynghanedd, megis dadleuon R.M. Jones ynghylch ‘gwahuno’, ymchwil diweddar i berthynas y gynghanedd a niwrowyddoniaeth;
11. Seminar: y defnydd o’r gynghanedd y tu hwnt i farddoniaeth, megis mewn penawdau papur newydd a chylchgronau, hysbysebion ac ar Twitter.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Asesir y gallu i gyfathrebu’n effeithlon yn Asesiad 2. Datblygir y gallu hwnnw yn y seminarau’n bennaf.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Datblygir drwy’r gweithdai a’r seminarau allu’r myfyrwyr i ddatrys problemau’n analytig, yn arbennig yn achos Asesiad 1, ond y mae’n berthnasol hefyd ar gyfer Asesiadau 2 a 3.
Gwaith Tim Asesir y gallu i gyfrannu at waith tîm fel rhan o’r seminarau’n bennaf, ond y mae’n berthnasol hefyd i’r gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygir gallu’r myfyrwyr i wella eu dysgu a’r perfformiad drwy’r tasgau wythnosol (Asesiadau 1 a 2).
Rhifedd Mae ymarfer a dadnsoddi cynganeddu yn golygu cyfri sillafau sylfaenol.
Sgiliau pwnc penodol Y gallu i adnabod, dadansoddi a llunio cynganeddion, a thrwy hynny i ddeall o’r newydd rai agweddau hanfodol ar yr iaith Gymraeg.
Sgiliau ymchwil Asesir y gallu i ymchwilio’n annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth yn feirniadol yn Asesiad 2 a 3.
Technoleg Gwybodaeth Anogir y myfyrwyr i wneud defnydd o’r Bwrdd Du ac (mewn cyswllt ag Asesiadau 2 a 3) i ddod o hyd i ddeunydd yn ymwneud â’r gynghanedd ar lein.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5