Programme Specifications
Cymraeg / Daearyddiaeth
Information provided by Department of Welsh:
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:
Information provided by Department of Welsh:
Datganiad Meincnodi’r Gymraeg gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:
Datganiad Meincnodi Daearyddiaeth a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch
Information provided by Department of Welsh:
Medi 2023
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:
Medi 2023
Information provided by Department of Welsh:
-
Rhoi i’r myfyrwyr y cyfle i astudio’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth ar wastad academaidd uchel, gan roi iddynt y moddion i’w deall, eu dadansoddi a’u gwerthfawrogi fel rhan ganolog o hanes meddwl, dychymyg a mynegiant y Cymry.
-
Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg, a’u galluogi i’w mynegi eu hunain ynddi, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hyderus, yn rhugl ac yn gywir
-
Cynorthwyo myfyrwyr i ddeall ac i werthfawrogi grym mynegiannol iaith.
-
Meithrin dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol.
-
Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i feddwl drostynt eu hunain, i feithrin barn feirniadol a golygwedd hanesyddol, a, lle bo’n berthnasol, i feithrin eu doniau llenyddol.
-
Ennyn mewn myfyrwyr frwdfrydedd tuag at y pwnc.
-
Darparu profiad cyffrous a boddhaus o ran dysgu ac addysgu.
-
Meithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn berthnasol i ddatblygiad personol y myfyrwyr ac a fydd yn gaffaeliad iddynt pan gyflogir hwy maes o law.
-
Paratoi myfyrwyr ar gyfer ymateb i ofynion cyflogwyr mewn gyrfaoedd lle byddant yn arddel cymhwyster yn y Gymraeg a lle disgwylir iddynt ddefnyddio’r iaith yn gyson ar wastad uchel.
-
Gosod sylfaen ar gyfer astudio pellach o fewn cwmpas y pwnc ei hun ac o fewn meysydd perthynol.
Y mae’r amcanion uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:
Mae Daearyddiaeth yn Aberystwyth yn archwilio natur ac effaith prosesau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a ffisegol o'r raddfa fyd-eang i'r raddfa leol. Mae’r cynllun gradd Cydanrhydedd BA Daearyddiaeth yn rhoi pwyslais ar agweddau ar Ddaearyddiaeth Ddynol, gan archwilio’r ffyrdd y mae unigolion, sefydliadau, llywodraethau a phrosesau strwythurol yn creu, siapio a chynrychioli lleoedd. Trwy eu dewis o fodiwlau, mae myfyrwyr yn gallu datblygu llwybrau sy'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar Ddaearyddiaeth Ddynol neu sy'n cyfuno elfennau o Ddaearyddiaeth Ddynol a Ffisegol. Mae strwythur y rhaglen Cydanrhydedd yn caniatáu i fyfyrwyr gyfuno diddordeb mewn Daearyddiaeth â diddordeb mewn ail bwnc. Nodau cynllun gradd Cydanrhydedd BA Daearyddiaeth yw:
-
Datblygu dealltwriaeth eang a dwfn o ddaearyddiaeth, ei chynnwys, ei dulliau a'i hathroniaeth
-
Darparu rhaglen gyflwyno strwythuredig sy'n drylwyr yn academaidd ac sy'n bodloni gofynion meincnodi'r presennol a'r dyfodol
-
Annog gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol dethol trwy fodiwlau dewisol Lefel 3 a arweinir gan ymchwil yn y meysydd hynny
-
Cynhyrchu graddedigion ag ystod eang o alluoedd dadansoddol, beirniadol a thechnegol o fewn daearyddiaeth.
-
Datblygu pwerau meddwl beirniadol, dadansoddol a dadl resymegol
-
Datblygu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy gan gynnwys llythrennedd, llythrennedd cyfrifiadurol, graffeg, gosod problemau a datrys problemau ac ysgrifennu adroddiadau.
-
Annog astudio a meddwl annibynnol, meddyliau ymholgar, ac ymrwymiad i ysgolheictod personol o'r safon uchaf
-
Galluogi myfyrwyr i gyfuno diddordeb mewn Daearyddiaeth gyda diddordeb mewn ail bwnc.
-
Datblygu dealltwriaeth eang a dwfn o Ddaearyddiaeth, ei chynnwys, ei dulliau a’i hathroniaeth
-
Cynnig rhaglen strwythuredig sy’n academaidd drwyadl, ac sy’n bodloni’r gofynion meincnodi cyfredol a rhai’r dyfodol
-
Hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol detholedig drwy fodiwlau dewisol yn Lefel 3, ym meysydd arbenigedd yr Adran
-
Meithrin graddedigion ag ystod eang o alluoedd dadansoddol, beirniadol a thechnegol ym maes daearyddiaeth.
-
Datblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol a dadansoddol, a dadlau’n rhesymegol yn Gymraeg a Saesneg
-
Datblygu medrau mewn ystod o sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, sgiliau cyfrifiadurol, graffigedd, gosod a datrys problemau, ysgrifennu adroddiadau, sgiliau labordy a gwaith maes
-
Hybu astudio a meddwl annibynnol, meddyliau chwilfrydig, ac ymrwymiad i ysgolheictod personol o’r safon uchaf.
-
Galluogi myfyrwyr i gyfuno diddordeb sylfaenol mewn Daearyddiaeth â diddordeb sylweddol mewn ail bwnc.
Information provided by Department of Welsh:
Canlyniadau Dysgu arfaethedig - mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, doniau a nodweddion eraill yn y meysydd canlynol:
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:
Ar ôl gorffen y cynllun gradd cydanrhydedd BA Daearyddiaeth bydd myfyrwyr:
-
yn gallu gwerthuso syniadau, cysyniadau a dulliau daearyddol yn feirniadol, yn Gymraeg a Saesneg, ar draws y pwnc yn ei gyfanrwydd, ac o fewn canghennau penodol o Ddaearyddiaeth
-
yn gallu cyflawni gwaith ymchwil annibynnol, gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau cartograffig, cyfrifiannol, llenyddol a thechnegol
-
wedi datblygu ystod o sgiliau daearyddol, a’r gallu i’w cymhwyso i amrywiaeth o faterion daearyddol
-
yn gallu gweld bod eu profiad dysgu wedi cael ei atgyfnerthu drwy fod yn gysylltiedig â gwaith ymchwil
-
yn gallu gwerthuso’u perfformiad eu hunain mewn ystod o gyd-destunau addysgol ac o dan wahanol ddulliau asesu
-
yn gallu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm, gydag ymwybyddiaeth gymdeithasol o’r cyfraniad y mae ysgolheictod ac ymchwil gymhwysol yn eu maes wedi ei wneud i reolaeth a pholisi amgylcheddol.
-
yn meddu ar y sgiliau a’r ymwybyddiaeth angenrheidiol i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd proffesiynol, neu gychwyn ar ymchwil ac astudiaethau uwchraddedig.
Information provided by Department of Welsh:
-
A1. Gwybodaeth drylwyr o deithi’r iaith Gymraeg.
-
A2. Gwybod sut i ddisgrifio a dadansoddi iaith gan ddefnyddio’r eirfa dechnegol briodol.
-
A3. Ymwybyddiaeth gyffredinol o ddatblygiad yr iaith Gymraeg drwy’r oesoedd ac o brif gyfnodau hanesyddol yr iaith.
-
A4. Gwybodaeth o lenyddiaeth Gymraeg hen a diweddar.
-
A5. Gwybodaeth ynghylch hanes llenyddiaeth Gymraeg ac o’r ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a deallusol a ddylanwadodd arni drwy’r oesoedd.
-
A6. Gwybodaeth sut i drin gweithiau llenyddol yn feirniadol, gan ddefnyddio geirfa dechnegol lle bo hynny’n briodol.
-
A7. Adnabyddiaeth o wahanol ddulliau a genres llenyddol a’r teithi a’r nodweddion a berthyn iddynt.
-
A8. Ymwybyddiaeth o’r gwahanol ddulliau o astudio llenyddiaeth, gan gynnwys amgyffrediad o berthnasedd cysyniadau beirniadol.
-
A9. Gwybodaeth ynghylch y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth mewn ieithoedd eraill ac o le testunau llenyddol Cymraeg o fewn patrymau diwylliannol rhyngwladol.
-
A10. Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith a llenyddiaeth mewn perthynas â meithrin, cynnal a datblygu’r hunaniaeth genedlaethol Gymreig.
-
A11. Ymwybyddiaeth o sefyllfa gymdeithasol bresennol yr iaith ac o’r dulliau a ddefnyddir i’w hyrwyddo a’i hadfer.
-
A12. Cynefindra â ffynonellau cyfeirio safonol yn ymwneud â’r Gymraeg a’i diwylliant, ar ffurf brintiedig ac electronig.
Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:
Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.
Dull asesu:
Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:
-
A1 Disgrifio’r berthynas rhwng gweithgarwch dynol a’r amgylchedd ffisegol, gan gynnwys effaith gweithgarwch dynol ar ffurf y dirwedd ac ansawdd yr amgylchedd.
-
A2 Disgrifio ac esbonio’r amrywiadau gofodol mewn ffenomenau dynol a chyfansoddiad amgylcheddau ffisegol y Ddaear ar wahanol raddfeydd gofodol ac amseryddol.
-
A3 Esbonio’r amryw ffyrdd y caiff llefydd, tirweddau ac amgylcheddau eu ffurfio a’u hail-greu’n barhaus drwy amrywiaeth o brosesau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol, mewn ystod o gyd-destunau, o’r lleol i’r byd-eang.
-
A4 Disgrifio’r prosesau ffisegol a chemegol sy’n gyfrifol am ffurfio amgylcheddau corfforol y Ddaear.
-
A5 Gweld y berthynas rhwng prosesau a ffurf yn y byd dynol a ffisegol.
-
A6 Gwerthuso’n feirniadol y cyfraniad y mae astudiaethau daearyddol yn ei wneud i’r pryderon sydd, ar sail gwybodaeth, am y Ddaear a’i phobl, yn nhermau academaidd, ymarferol a pholisi.
-
A7 Gwerthuso datblygiad Daearyddiaeth fel disgyblaeth arbennig, a thrafod y berthynas rhwng Daearyddiaeth a disgyblaethau eraill yn y gwyddorau ffisegol a naturiol, y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol.
-
A8 Cyfosod cyfraniadau Daearyddiaeth Dynol a Ffisegol i drafod materion rheoli amgylcheddol.
-
A9 Bod yn ymwybodol o ystod a natur y ffynonellau o ddata sydd ar gael i’r daearyddwr a defnyddio a gwerthuso’r ystod sylweddol o strategaethau arsylwi, cofnodi a dadansoddi a ddefnyddir mewn ymchwil maes daearyddol ac i ddadansoddi data.
-
A10 Disgrifio gwahanol ffyrdd o gynrychioli’r amgylchedd dynol a ffisegol – yn cynnwys testunau, mapiau, hafaliadau mathemategol, hafaliadau cemegol, delweddau gweledol, a modelau (yn cynnwys caledwedd, modelau rhifiadol a chysyniadol).
-
A11 Gwerthuso yn feirniadol yr ystod o ddulliau athronyddol a methodolegol a ddefnyddir gan ddaearyddwyr wrth ddadansoddi a dehongli amgylcheddau dynol a ffisegol y Ddaear.
-
A12 Dangos dealltwriaeth o’r ffordd y caiff ‘ffyrdd o weld’ sy’n benodol i ddaearyddiaeth eu cynhyrchu, eu damcaniaethu a’u dehongli, yn cynnwys cynrychioli llefydd drwy ddisgyrsiau academaidd, polisi a lleyg.
Information provided by Department of Welsh:
-
B1. Sgiliau ieithyddol ymarferol a fydd yn cynnwys y gallu i drafod pynciau cymhleth yn raenus, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
-
B2. Medrau dadansoddi iaith a’r defnydd ohoni mewn amrywiol sefyllfaoedd.
-
B3. Y gallu i gynnull ac i gyfleu gwybodaeth ynghylch testunau llenyddol ac i ymdrin â hwy yn feirniadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
-
B4. Y gallu i ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn llenyddiaeth.
-
B5. Y gallu i ystyried llenyddiaeth yn ei chyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.
-
B6. Y gallu i adnabod confensiynau llenyddol ac i werthfawrogi eu defnydd a’u swyddogaeth mewn perthynas â genres llenyddol arbennig.
-
B7. Llunio llyfryddiaethau a chyfeirio mewn modd safonol a chyson at ffynonellau.
Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:
Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.
Dull asesu:
Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:
-
B1 Haniaethu a chyfuno gwybodaeth
-
B2 Beirniadu a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol
-
B3 Dehongli data a thestunau yn feirniadol
-
B4 Gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau
-
B5 Asesu rhinweddau theorïau, esboniadau a pholisïau cyferbyniol
-
B6 Datblygu dadl resymegol
-
B7 Dod o hyd i ffyrdd o ddatrys problemau
-
B8 Ysgrifennu mewn arddull academaidd briodol wrth ysgrifennu am, adolygu a thrafod themâu daearyddol.
-
B9 Cyfosod testunau academaidd yn briodol ac yn feirniadol, a dyfynnu a chyfeirnodi ffynonellau yn y dull cywir
-
B10 Cymryd cyfrifoldeb am eu dysg eu hunain gan adolygu a myfyrio ar y dysg hwnnw
-
C1 Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad daearyddol, gan gynnwys cynhyrchu adroddiad terfynol.
-
C2 Cyflawni gwaith maes effeithiol (gan roi sylw priodol i ddiogelwch ac asesu risg).
-
C3 Cyflwyno data daearyddol yn effeithiol drwy ddefnyddio cyfryngau priodol gan gynnwys mapiau, diagramau, ystadegau, modelau a rhyddiaith academaidd.
-
C4 Defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu, dadansoddi a chyfuno gwybodaeth o’r byd dynol a/neu’r byd ffisegol, gan gynnwys samplu maes, arolygon gyda holiaduron, cyfweliadau a thechnegau meintiol.
-
C5 Cyfuno a dadansoddi gwahanol fathau o dystiolaeth ddaearyddol.
-
C6 Dyfeisio a defnyddio amrywiaeth o ddulliau technegol a dulliau yn y labordy i gasglu a dadansoddi data amgylcheddol.
-
C7 Dadansoddi goblygiadau daearyddol digwyddiadau cyfoes, penderfyniadau polisi, a phrosesau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol.
-
C8 Cwestiynu a dehongli’r broses o gynhyrchu a chyflwyno dogfennau polisi, cyfryngau print a darlledu, deunydd tirwedd a thestunol.
-
C9 Gweld y materion moesol a moesegol sydd ynghlwm wrth drafodaethau ac ymholiadau daearegol.
Information provided by Department of Welsh:
-
D1. Gallu mynegiant graenus yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
-
D2. Gallu i gyfleu dadleuon yn gydlynus ac yn groyw ac mewn modd argyhoeddiadol.
-
D3. Gallu i feddwl yn annibynnol.
-
D4. Gallu i ymagweddu’n feirniadol ac i ddadansoddi a chrynhoi dadleuon a safbwyntiau a gyflwynir gan eraill.
-
D5. Gallu i weithio’n annibynnol ac i gywain gwybodaeth yn drefnus a phwrpasol o amryw ffynonellau, i’w chloriannu’n feirniadol gan ddethol elfennau arwyddocaol a dilys, a’i chyflwyno i eraill ar ffurf gydlynus ac ystyrlon.
-
D6. Gallu i ddeall ac i ddatblygu cysyniadau cymhleth ac i ymdrin â hwynt yn feirniadol ac yn ddadansoddol.
-
D7. Gallu i weithio yn fanwl ac yn drylwyr.
-
D8. Medrau trefniadol mewn perthynas â thasgau gosodedig, gan gynnwys rheoli amser yn effeithiol.
-
D9. Sgiliau technoleg gwybodaeth sylfaenol, gan gynnwys prosesu geiriau, a’r gallu i gywain gwybodaeth o ffynonellau electronig.
-
D10. Golygu gwaith cyn ei gyflwyno mewn diwyg clir a graenus.
-
D11. Gallu i ddeall hanfodion deunydd a luniwyd mewn iaith arall/ieithoedd eraill ac i’w gyfieithu i’r Gymraeg neu ei ailfynegi yn y Gymraeg.
Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:
Yn gyffredinol dysgir sgiliau trosglwyddadwy/allweddol drwy ddilyn y modiwlau a astudir, hynny yw, y mae eu meithrin yn gysylltiedig â dulliau dysgu’r modiwlau.
Ymhlith y dulliau hynny y mae darlithiau, darllen dan gyfarwyddyd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, paratoi ac ysgrifennu traethodau, a rhoi cyflwyniadau.
Asesir y sgiliau hyn mewn arholiadau ffurfiol, profion iaith, gwaith cwrs, ac asesu llafar.
Y mae mesur gallu’r myfyrwyr i’w mynegi eu hunain yn raenus yn y Gymraeg yn rhan o asesu pob modiwl.
Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:
Ar ôl cwblhau’r rhaglen bydd y myfyriwr yn gallu cymryd cyfrifoldeb amdanynt eu hunain a’u gwaith. Bydd y myfyriwr yn medru dangos gallu yn y sgiliau allweddol canlynol sy’n drosglwyddadwy i gyd-destun y tu allan i academia: D1 Gweithio’n annibynnol D2 Gweithio fel rhan o dîm D3 Parchu safbwyntiau, credoau, barn a gwerthoedd eraill D4 Gwrando ar siaradwyr eraill, a thrafod â hwy D5 Cyfathrebu’n effeithiol ar lafar mewn ystod o sefyllfaoedd, yn cynnwys trafodaethau a dadleuon grŵp a chyflwyniadau ffurfiol. D6 Cyfathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig mewn amrywiaeth o ffyrdd. D7 Defnyddio technolegau gwybodaeth i brosesu, cadw, a chyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys taenlenni, cronfeydd data, prosesu geiriau, e-bost a’r we fyd-eang. D8 Darganfod a chael gafael ar wybodaeth, a’i threfnu a’i thrin o ffynonellau traddodiadol ac electronig, gan gynnwys llyfrgelloedd, adnoddau cyfrifiadurol ar-lein a’r we fyd-eang. D9 Rheoli amser a rheoli trefniadau eu gwaith eu hun. D10 Ymchwilio i faterion a datrys problemau D11 Addasu i newid D12 Gallu darllen, deall a dehongli ystod eang o ddeunydd ysgrifenedig. D13 Sgiliau arsylwi. D14 Coladu, prosesu, dehongli a chyflwyno data rhifiadol. D15 Nodi llwybrau gyrfa priodol a datblygu’r gallu i gystadlu’n effeithiol am gyfleoedd i gael swyddi. Dysgu: Nod y rhaglen yw hyrwyddo, datblygu a meithrin ymwybyddiaeth a medrau myfyrwyr yn y sgiliau trosglwyddadwy allweddol hyn – sgiliau y bydd myfyrwyr eisoes yn eu medru i raddau mwy neu lai. Mae rhai o’r sgiliau hyn yn rhan annatod o weithgareddau dysgu ar draws y rhaglen (D1, D4, a D7-D12). Datblygir eraill drwy fodiwlau a gweithgareddau dysgu penodol, gan gynnwys gwaith maes (D2, D10 a D13), dosbarthiadau ac ymarferion ymarferol/ labordy (D14), cyflwyniadau llafar (D5). Asesu: Mae asesu galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â nifer o’r canlyniadau uchod (D6-D10 a D12) yn ganolog i’r meini prawf a ddefnyddir i werthuso ystod o ffurfiau asesu a ddefnyddir yn nhair lefel y cynllun gradd. Mae’r rhain yn cynnwys traethodau gwaith cwrs, ymarferion ymarferol, prosiectau gwaith maes, traethodau prosiect, prosiect ymchwil annibynnol a thraethodau a welir ymlaen llaw, nas gwelir ymlaen llaw a thraethodau arholiadau amser rhydd. Ar ben hynny, asesir nifer o’r sgiliau uchod yn benodol ar wahanol bwyntiau yn ystod y rhaglen trwy ystod o ddulliau, gan gynnwys y Prosiect Ymchwil annibynnol (D1), adroddiadau ar y prosiect gwaith maes grŵp (D2), cyflwyniad llafar ar y prosiect gwaith maes (D5), ymarferion gwaith maes (D13), ac ymarferion ymarferol (D14).
BA Cymraeg / Daearyddiaeth [LQ75]
Academic Year: 2024/2025Joint Honours scheme - available from 2000/2001
Duration (studying Full-Time): 3 yearsDylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar
Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc
Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc