Module Information

Cod y Modiwl
DA34220
Teitl y Modiwl
Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Cofrestru ar gyfer gradd gyfun neu brif bwnc mewn Daearyddiaeth, Physical Geography neu Human Geography.
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ail-gyflwynor adroddiad a fethwyd (<40%). Ni fydd modd ail-gyflwynor adroddiad os na chyflwynwyd yr adroddiad gwreiddiol oherwydd rheswm annilys   100%
Asesiad Semester Adroddiad prosiect terfynol o 6,000 o eiriau.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad daearyddol trwyadl.
2. Cyflawni ymchwil empiraidd effeithiol ac addas, gan gynnwys casglu data cynradd.
3. Dadansoddi data'n drwyadl, gan ddefnyddio technegau addas a dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli.
4. Cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig sylweddol ar yr ymchwil mewn dull academaidd addas.
5. Dangos hunangymhelliad, gallu i gynllunio a blaengarwch wrth weithio'n annibynnol.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol sy'n cael ei arwain gan fyfyriwr Daearyddiaeth gradd gyfun a phrif bwnc. Bydd pwnc addas sy'n berthnasol i'r byd daearyddiaeth yn cael ei gynnig gan y myfyriwr a'i gymeradwyo gan gyd-gysylltydd y modiwl. Ceir pedair rhan i'r prosiect: (i) dynodi pwnc ymchwil a datblygu cynllun ymchwil addas; (ii) ymchwil empiraidd i gasglu gwybodaeth o ffynonellau eilaidd, a chasglu data cynradd os oes angen, fel bo'n briodol ar gyfer y gwaith ymchwil; (iii) dadansoddi data a gwybodaeth, gan gynnwys dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli; (iv) creu adroddiad terfynol 6,000 o eiriau, i'w gyflwyno ar ddiwedd semester 1.

Cynnwys

Modiwl yw hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol sy'n cael ei arwain gan fyfyriwr Daearyddiaeth gradd gyfrun a phrif bwnc. Penodir ymgynghorydd ar gyfer pob myfyriwr a fydd yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar ddatblygiad y prosiect, yn ogystal a'r ffordd y bydd yn cael ei adrodd. Derbynia myfyrwyr gefnogaeth ar gyfer eu hastudiaethau annibynnol mewn sawl cyd-destun:

(i) pedwar cyfarfod fel unigolyn gyda'u harolygydd. Galluoga'r cyfarfodydd hyn i'r arolygydd i roi adborth a chyfarwyddyd a fydd wedi ei dargedu'n benodol ar astudiaeth y myfyriwr. Bydd y cyfarfodydd hyn yn sylfaen ar gyfer y system Tiwtor Personol ar Lefel 3;
(ii) tri cyfarfod grw^p yn ystod semester 1, a fynychir gan holl fyfyrwyr gradd gyfun/prif bwnc aelod o staff. Bydd cyfle yn y cyfarfodydd hyn i drafod erthyglau a fydd yn help i'r holl fyfyrwyr hyn i gwblhau eu prosiect;
(iii) tair darlith sgiliau cyffredinol (a fydd yn cynnwys elfennau APPR arwyddocaol) ar gyfer y cwrs gradd neu ar gyfer y flwyddyn yn gyffredinol, fel y bo'n briodol. Bydd rhai o'r rhain yn sesiynau a fydd yn cefnogi'r Prosiect Gradd Gyfun/Prif Bwnc, e.e. strwythuro eich prosiect terfynol, tra bydd rhai eraill yn canolbwyntio ar faterion CPD, e.g. amgyffred sgiliau a chaffael swyddi.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy greu adroddiad ysgrifenedig. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy: drafod yr ymchwil - fesul unigolyn ac mewn grwpiau; ac o bosib, gellir eu datblygu trwy ymchwil empiraidd lle defnyddir dulliau ymchwil geiriol (e.e. cyfweliadau a holiaduron).
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Datblygir sgiliau datrys problemau trwy nodi cwestiynau ymchwil, methodoleg addas a chynllun ymchwil, a thrwy ymatebion i anawsterau a brofir yn ystod casglu'r data.
Gwaith Tim Datblygir medrau gwaith tim yn y cyfarfodydd grw^p, e.e. ar ffurf trafodaeth a gwaith grw^p. Ni fydd y medrau hyn yn cael eu hasesu'n ffurfiol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu profiad o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil yn y trafodaethau unigol a grw^p.
Rhifedd Os yn addas i'r pwnc ymchwil a ddewisir, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau rhifyddol trwy gasglu, dadansoddi a chyflwyno data meintiol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygir sgiliau datblygiad personol fel rhan o'r darlithoedd APPR a'r cyfarfodydd Tiwtor Personol sy'n rhan o'r modiwl. Yn ogystal, bydd llawer o'r sgiliau generig a ddatblygir trwy'r prosiect ymchwil yn hynod drosglwyddadwy i ystod eang o yrfaoedd.
Sgiliau ymchwil Datblygir sgiliau ymchwil trwy gasglu a dadansoddi data sy'n briodol ar gyfer ymchwilio i'r cwestiynau ymchwil.
Technoleg Gwybodaeth Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol wrth ddynodi ffynonellau data a chasglu data (e.e. y rhyngrwyd, adnoddau gwybodaeth electronig), wrth ddadansoddi data (e.e. pecynnau ystadegol) ac wrth wneud adroddiad ar y prosiect (e.e. prosesu geiriau, pecynnau GIS a mapio).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6