Programme Specifications
Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Cyfryngau
Information provided by Department of International Politics:
N/A
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Information provided by Department of International Politics:
Gellir dod o hyd i’r ‘Datganiad Meincnod Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol’ perthnasol yma: https://www.qaa.ac.uk/the-quality-code/subject-benchmark-statements/subject-benchmark-statement-politics-and-international-relations
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Communications, Media, Film and Cultural Studies
Information provided by Department of International Politics:
Medi 2023
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Medi 2023
Information provided by Department of International Politics:
Mae rhaglenni cyfun yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth ddofn mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a phwnc arall, gan astudio hanner eu modiwlau yn y naill adran a'r llall. Y mae myfyrwyr sy'n gwneud gradd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn ennill sylfaen gadarn ym maes egwyddorion a chysyniadau craidd y ddisgyblaeth yn ogystal â chael y cyfle i arbenigo mewn is-feysydd allweddol o'u dewis, neu, i astudio'r sbectrwm cyflawn o faterion y gellir eu hystyried yn berthnasol i wleidyddiaeth ryngwladol cyfoes. Dysgir yr holl fodiwlau gan staff ymchwil sy'n ffynnu ar y cyfle i drwytho'r myfyrwyr â'u gwaith (cyhoeddedig, ac ar droed). Nod y rhaglen yw creu myfyrwyr sy'n meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ddadansoddi a myfyrio ar gynnwys y cynllun gradd yn ogystal ag ennill ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy. Yn ein barn ni, bydd sgiliau yn y pwnc hwn yn werthfawr i gyflogwyr y dyfodol ac i'r gymdeithas sifil ehangach.
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
• Rhoi sylfaen i fyfyrwyr yn yr ystod o ddulliau a ddatblygwyd i ddeall cyfathrebu cyfryngol, o'r sylfeini mewn cyfathrebu ieithyddol a gweledol i ddulliau cyfathrebu penodol, e.e. newyddiaduraeth, hysbysebu, gwahanol fathau o ysgrifennu, a sut y mae’r rhain i gyd yn cael eu trawsnewid ar hyn o bryd yn y byd digidol.
• Ymdrin â’r rhain yng nghyd-destun datblygiadau cyfredol yn y cyfryngau newydd yn benodol, gan roi sylw i brosesau globaleiddio a chydgyfeiriant, a'u goblygiadau.
• Datblygu'r wybodaeth a'r galluoedd sydd gan fyfyrwyr fel bod modd iddynt ystyried yn feirniadol ac yn gynhyrchiol rôl y cyfryngau traddodiadol a newydd mewn prosesau cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes.
• Datblygu gwahanol sgiliau a dealltwriaeth ymhlith myfyrwyr a fydd yn eu galluogi i ddod i hyd i waith yn yr ystod eang o swyddi a diwydiannau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu, trefnu, storio, dosbarthu a defnyddio gwybodaeth a chyfathrebu cyfryngol.
Information provided by Department of International Politics:
Bwriad canlyniadau dysgu y rhaglen hon yw diwallu disgwyliadau'r Datganiad Meincnodi ar gyfer Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Y mae strwythur y cynllun gradd a'r cyflwyniad ohono yn cydnabod bod angen sicrhau cydbwysedd priodol rhwng ennill gwybodaeth pwnc-benodol, a datblygu sgiliau disgyblaeth penodol a chyffredinol. Y mae cyfuno'r ddwy elfen hon yn nodwedd ganolog o'r canlyniadau dysgu. Rhydd y rhaglen gyfle i fyfyrwyr ddatblygu ac arddangos gwybodaeth, dealltwriaeth, nodweddion, sgiliau a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol:
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Information provided by Department of International Politics:
Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r canlynol:
-
A1. Esblygiad y system ryngwladol o Westphalia tan heddiw
-
A2. Y dadleuon allweddol yn hanes Cysylltiadau Rhyngwladol fel disgyblaeth
-
A3. Ddamcaniaethau a chysyniadau craidd y maes
-
A4. Brif strwythurau a phrosesau gwleidyddiaeth fyd-eang gan gynnwys gwybodaeth am ddeinameg rhanbarthol, llywodraethau a sefydliadau
-
A5. Weithredwyr allweddol cysylltiadau rhyngwladol
-
A6. Y deinamig, y prosesau a’r problemau allweddol sy’n wynebu Gwleidyddiaeth Fyd-eang
-
A7. Sut gall yr ymdriniaethau hyn ein helpu i esbonio a deall digwyddiadau yn y byd
Dysgu/Addysgu a dulliau asesu:
Dysgir 1-7 trwy ddarlithoedd, seminarau, asesu gwaith cwrs, arholiadau ac ymchwil annibynnol. Y mae myfyrwyr hefyd yn dysgu trwy gymryd rhan mewn cymdeithasau myfyrwyr disgyblaeth-benodol a darlithiau cyhoeddus yn ogystal â thrwy gyfrwng adnoddau cyhoeddus eraill megis papurau newydd, teledu, radio a'r rhyngrwyd. Drwodd a thro, anogir myfyrwyr i ddarllen yn annibynnol er mwyn cynyddu, atgyfnerthu ac ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth unigol o'r pwnc. Profir gwybodaeth a dealltwriaeth (1-7) trwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig dibaratoad ac arholiadau y paratoir ar eu cyfer ymlaen llaw (1-7), traethodau (1-7), traethawd estynedig, (1-7, gan ddibynnau ar y pwnc) a gall gynnwys, yn ôl y dewis o opsiynau, cyflwyniadau seminar, adroddiadau, chwiliadau llenyddiaeth neu adolygiadau llyfr neu ffilm, e-bortffolios , logiau dysgu neu flogiau. Gall myfyrwyr hefyd ddysgu drwy hunan-ystyried wrth gwblhau eu ffurflenni i Raglen Ddatblygu’r Adran Gyrfaoedd.
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
• Cysyniadau a damcaniaethau cyfathrebu allweddol a chyfathrebu torfol
• Rôl technolegau'r cyfryngau o ran hanes cyfathrebu
• Ffurfiau cyfoes ar drawsnewid cyfathrebu cyfryngol sy'n gysylltiedig â globaleiddio, digideiddio a chydgyfeiriant y cyfryngau
• Rôl cyfathrebu cyfryngol mewn sefyllfaoedd penodol (e.e. gwleidyddol)
Information provided by Department of International Politics:
Sgiliau Deallusol:
-
B1. Dewis, disgrifio a gwerthuso gwahanol ymdriniaethau
-
B2. Dewis materion ac ymchwilio iddynt
-
B3. Cymhwyso cysyniadau, damcaniaethau a syniadau at achosion go iawn
-
B4. Nodi, archwilio a ffurfio atebion i broblemau deallusol
-
B5. Rhesymu, dadansoddi a dehongli data a syniadau yn feirniadol
-
B6. Mynegi ac ymarfer annibyniaeth barn
-
B7. Myfyrio ar y profiad o ddysgu ac o ganlyniad, addasu strategaethau deallusol
-
B8. Gallu defnyddio gwybodaeth a ddysgwyd i ddatrys problemau hypothetig neu wirioneddol
-
B9. Gallu gwahaniaethu rhwng y perthnasol a'r amherthnasol
-
B10. Sylweddoli bod mwy nag un ateb i broblemau yn aml
Dulliau Dysgu ac Addysgu ac Asesu:
Tra bod darlithiau yn cyflwyno pynciau a syniadau ger bron myfyrwyr, datblygir sgiliau deallusol pan fydd myfyrwyr yn mynd i'r afael â'r pwnc eu hunain, a rhyngweithio ag eraill yn y gymuned ddysgu ddeallusol yn ystod trafodaethau (mewn seminarau, lle mae tiwtoriaid yn ymroi i feithrin a datblygu sgiliau deallusol, ac mewn dadleuon cyhoeddus ehangach.) ac hefyd yn y broses o ddarllen ac ysgrifennu nodiadau, traethodau neu arholiadau. Yn ogystal, y mae myfyrdod a hunan-asesiad yn hanfodol ar gyfer dysgu sgiliau deallusol. Y mae tiwtoriaid yn ffurfio'u hargraffiadau am allu a chynnydd myfyrwyr ac yn eu hasesu trwy eu cysylltiad â hwy mewn seminarau ac wrth asesu gwaith ysgrifenedig. Asesir sgiliau deallusol (1-10) yn bennaf yn ôl perfformiad traethawd ac arholiad, yn ogystal â’r dulliau asesu eraill a nodir uchod. Y mae'r meini prawf asesu a gyhoeddir yn amlygu'r sgiliau deallusol hyn, ac yn eu tro adlewyrchir y rhain yn yr adborth i fyfyrwyr. Gall myfyrwyr asesu eu perfformiad eu hunain trwy fesur graddfa eu cynnydd hwy wrth ei gymharu â chynnydd eu cyfoedion, ac yng ngoleuni sylwadau'r tiwtor. Y mae rhwydd hynt i fyfyrwyr drafod datblygiad ac asesiad anffurfiol sgiliau o'r fath yn ystod oriau gwaith staff. Ni asesir dysgu personol (7) yn ffurfiol ond adlewyrchir llwyddiant cymharol yng ngallu myfyriwr i wella dros gyfnod o amser. Caiff dysgu personol hefyd ei wella drwy ymwneud â’r broses CDP.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
-
C1. Ceisio a dethol gwybodaeth, a gwneud nodiadau effeithiol ar wybodaeth o amrywiol ffynonellau
-
C2. Blaenoriaethu a threfnu gwybodaeth a'i gyflwyno fel tystiolaeth mewn dadl
-
C3. Cynllunio, gwneud a chwblhau gwaith ysgrifenedig (erbyn dyddiadau cau caeth) sy'n briodol i wahanol gynulleidfaoedd neu dasgau
-
C4. Adnabod ac adfer gwybodaeth berthnasol a chyfoe
-
C5. Casglu gwybodaeth a dadleuon ar fyr rybudd i ateb cwestiynau penodol
-
C6. Mynegi barn ddeallus trwy waith ysgrifenedig a thrafodaeth.
-
C7. Gwrando ar farn eraill ac ymateb yn briodol
-
C8. Llunio cwestiynau ac archwilio'r cysylltiadau rhwng amryfal bynciau
-
C9. Dysgu o brofiad Dulliau
Dysgu ac Addysgu ac Asesu:
Y mae'r holl fodiwlau craidd, ac yn enwedig y rheiny a ddysgir yn Rhan Un, yn cynnwys elfennau sy'n ymdrin yn uniongyrchol â datblygu sgiliau ymarferol (1-8). Y mae'r broses o ysgrifennu traethodau, adroddiadau a chyflwyniadau (1-6) a pharatoi ar gyfer arholiadau (1-6, 9) yn fodd i'r myfyriwr hogi sgiliau trwy ymarfer, ag adborth y tiwtoriaid yn sicrhau arweiniad iddynt. Y mae trafod mewn seminarau neu ddadlau mewn fforymau cyhoeddus yn fodd i fyfyrwyr wella eu sgiliau cyfathrebu deallusol (2, 5-9). Yn ogystal â hyn, y mae myfyrwyr yn dysgu a gwella sgiliau o'r fath trwy fyfyrio'n unigol ar eu profiadau dysgu ac addasu eu dulliau dysgu i bwrpas; proses sy'n cael cryn sylw yn yr holl fodiwlau. Gall myfyrwyr hefyd ddysgu drwy hunan-ystyried wrth gwblhau eu ffurflenni i Raglen Ddatblygu’r Adran Gyrfaoedd.
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
• Yn gallu archwilio'n feirniadol ystod eang o sefyllfaoedd a ffurfiau cyfathrebu, gan archwilio eu hystyr a'u goblygiadau
• Yn gallu tynnu ar ystod eang o ffynonellau, a’u defnyddio
• Yn gallu mesur yn feirniadol statws a chryfder enghreifftiau o hawlio gwybodaeth
• Yn gallu cymhwyso dealltwriaeth sy'n deillio o'r cwrs i ddadleuon polisi cymdeithasol a gwleidyddol cyfredol
• Yn gallu dadansoddi ystyron cymhleth gwahanol destunau a delweddau
• Yn gallu defnyddio ystod o becynnau cyfryngau digidol a meddalwedd, gan ystyried pam y cânt eu defnyddio a phwy yw’r gynulleidfa darged
Information provided by Department of International Politics:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd y myfyrwyr yn gallu cymryd cyfrifoldeb drostynt eu hunain a'u gwaith. Byddant yn gallu:
• D1. Gweithio'n annibynnol
• D2. Gweithio mewn tîm
• D3. Parchu barn a safbwyntiau pobl eraill
• D4. Gwrando
• D5. Cyfathrebu ar lafar
• D6. Cyfathrebu ar bapur
• D7. Cyfathrebu yn electronig
• D8. Gair-brosesu
• D9. Defnyddio'r We
• D10. Rheoli amser a gweithio o fewn dyddiadau cau
• D11. Ymchwilio i faterion
• D12. Datrys problemau
• D13. Addasu i newidiadau
• D14. Datblygu ymwybyddiaeth gyrfa
Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:
Yn ystod y cynllun hwn, ac ar ôl ei gwblhau, bydd y sgiliau trosglwyddadwy canlynol yn cael eu meithrin:
• Bydd cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig yn cael eu datblygu drwy ystod o dasgau sydd wedi'u hasesu a thasgau nad ydynt wedi’u hasesu. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gynhyrchu gwaith ysgrifenedig amrywiol, o draethodau academaidd traddodiadol ac arholiadau i lyfrau nodiadau sy’n ymwneud ag ymarfer myfyriol. Bydd cyfathrebu llafar yn cael ei ddatblygu mewn seminarau a gweithdai, lle bydd disgwyl i'r myfyrwyr baratoi a chyflwyno cyflwyniadau ar bynciau penodol a thrafod materion (rhai damcaniaethol a’r rhai sy’n ymwneud â thestunau/cyfryngau penodol), yn ogystal â gweithio tuag at gynhyrchu gwefannau, ffilmiau byrion ac ati drwy fodiwlau ymarferol.
• Bydd angen i fyfyrwyr weithio o’u pen a’u pastwn eu hunain hefyd os ydynt am gwblhau'r cynllun hwn yn llwyddiannus. Bydd disgwyl i fyfyrwyr bennu eu hamserlen waith eu hunain, a dylent fod yn hunan-ddisgybledig a gallu cynllunio’n dda wrth weithio o fewn terfynau amser. Mewn rhai modiwlau, bydd cyfle i fyfyrwyr fynd ar drywydd eu diddordebau personol a datblygu creadigrwydd. Byddant yn gallu creu eu tasgau eu hunain ar gyfer aseiniadau (os bydd cydlynydd y modiwl yn cymeradwyo hyn), neu gynhyrchu ffilmiau/gwefannau ar bynciau o'u dewis.
• Bydd llawer o'r modiwlau, yn enwedig y rhai sy'n cynnwys elfen 'ymarferol', yn gofyn i fyfyrwyr weithio mewn timau. Bydd rhagor o gydweithio yn cael ei annog mewn seminarau lle bydd angen i fyfyrwyr gydweithio ar dasgau bach penodol.
• Bydd sgiliau trosglwyddadwy eraill yn cynnwys defnyddio technoleg gwybodaeth a thechnolegau eraill yn fedrus. Bydd disgwyl i fyfyrwyr brosesu eu gwaith ysgrifenedig, defnyddio’r e-bost yn rheolaidd, canfod ac olrhain gwybodaeth ar-lein (ac yn y llyfrgell) a defnyddio offer cynhyrchu/golygu.
• Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu a chymhwyso ystod o sgiliau ymchwil.
BA Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Cyfryngau [3P2L]
Academic Year: 2024/2025Joint Honours scheme - available from 2021/2022
Duration (studying Full-Time): 3 yearsInternational Relations: Perspectives and Debates
Ymarfer Cynhyrchu 1: Cyfryngau
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw
Climate Change and International Politics in the Anthropocene
Climate Change Politics
Science, Technology, and International Relations
The European Union: Politics, Policies, Problems
The Second World War in Europe
International Politics and Global Development
Intervention and Humanitarianism
The BRICS in World Politics
Total War, Total Peace
Politics in Diverse Societies
People and Power: Understanding Comparative Politics Today
Russian intelligence from Lenin to Putin
Strategy, Intelligence and Security in International Politics
Datganoli a Chymru
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society
Political Theory
The Governance of Climate Change: Simulation Module
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War
Devolution and Wales
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918
Questions of International Politics
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century
Contemporary Latin America
Trade Wars and the Liberal Order
Capitalism and International Politics
War Crimes
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig
Dissertation
Climate Change Politics
Science, Technology, and International Relations
The European Union: Politics, Policies, Problems
The Second World War in Europe
Intervention and Humanitarianism
The BRICS in World Politics
Total War, Total Peace
Politics in Diverse Societies
Russian intelligence from Lenin to Putin
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig
Datganoli a Chymru
Dissertation
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society
Political Theory
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War
Devolution and Wales
Questions of International Politics
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century
Contemporary Latin America
Trade Wars and the Liberal Order
Capitalism and International Politics
War Crimes