Module Information

Cod y Modiwl
GW30000
Teitl y Modiwl
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cynnig Ymchwil  2000 o eiriau  15%
Asesiad Ailsefyll Traethawd Hir  10000 o eiriau  85%
Asesiad Semester Traethawd Hir  10000 o eiriau  85%
Asesiad Semester Cynnig Ymchwil  2000 o eiriau  15%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos gwybodaeth o brif ddadleuon theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Dangos dealltwriaeth gyffredinol o hanesyddiaeth theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Myfyrio’n feirniadol ar y prif ddamcaniaethau a chysyniadau yng nghyd-destun cysylltiadau rhyngwladol cyfoes.

Dangos gwybodaeth gyffredinol o brif awduron a’u prif weithiau.

Dangos ymwybyddiaeth o syniadau am luniadaeth damcaniaethau sy’n cystadlu â’i gilydd

Adnabod ystod eang o safbwyntiau damcaniaethol a chloriannu’r gwahaniaethau rhyngddynt.

Dangos tystiolaeth o werthfawrogi’r berthynas rhwng theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol a meysydd academaidd cysylltiedig (e.e. damcaniaeth wleidyddol, damcaniaeth gymdeithasol, athroniaeth a.y.y.b.).

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn cynnig ystod o wahanol safbwyntiau i fyfyrwyr ar ddamcaniaethu’r rhyngwladol. Byddwn yn archwilio gwreiddiau disgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, datblygiad ysgolion damcaniaethol o feddwl, rôl lensys damcaniaethol wrth ffurfio ein dealltwriaeth o’r byd, ac amrywiaeth o wahanol ddulliau damcaniaethol ar gyfer darllen prosesau gwleidyddiaeth ryngwladol.

Cynnwys

Yn y sesiynau hyn trafodir yr ystod eang o ddamcaniaethau a ffurfiodd ddisgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol yn hanesyddol, ac sy’n weithgar ynddi ar hyn o bryd, a bydd hefyd yn edrych tuag at dueddiadau sydd ar dwf yn theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys traddodiadau canolog theori Gwleidyddiaeth Ryngwladol megis Realaeth, Rhyddfrydiaeth, Lluniadaeth a’r Ysgol Seisnig a hefyd gasgliad o safbwyntiau ‘beirniadol’ megis Marcsiaeth, Ffeminyddiaeth, Ôl-drefedigaethrwydd a damcaniaethau ôl-bositifiaeth. Nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i arolwg drylwyr o faes damcaniaethau Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac i’w paratoi ar gyfer astudiaethau pellach yn Rhan Dau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Bydd y myfyrwyr yn cyflawni ymarferion tîm yn ystod y seminarau. Ar gyfer llawer o’r pynciau ar y modiwl, bydd y seminarau yn cynnwys trafod mewn grwpiau bychain a gofynnir i fyfyrwyr drafod pynciau craidd pwnc y seminar fel grŵp. Bydd y trafodaethau a’r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o’r modiwl, ac yn galluogi’r myfyrwyr i fynd i’r afael â phwnc arbennig, ac ymchwilio iddo, drwy waith tîm.
Datrys Problemau Creadigol Bydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau yn un amcan canolog o’r modiwl; wrth gyflwyno dau ddarn o waith ysgrifenedig i’w asesu, bydd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Bydd gallu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a’i asesu drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; rhoi trefn ar ddata a llunio ateb i’r broblem; rhesymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6