Former Archdruid honoured
The Rev John Gwilym Jones.
12 July 2012
The former Archdruid of Wales, the Rev. John Gwilym Jones was honoured as Fellow of Aberystwyth University today, Thursday 12 July.
A graduate of Aberystwyth, John Gwilym Jones was presented by Gwerfyl Pierce Jones, Vice-President of Aberystwyth University.
Presentation of John Gwilym Jones by Gwerfyl Pierce Jones:
“Pleser ac anrhydedd imi yw cyflwyno'r Parchedig John Gwilym Jones i'w urddo'n Gymrawd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
It is my privilege and pleasure to introduce the Reverend John Gwilym Jones for investiture as a Fellow of Aberystwyth University.
Mae unrhyw un sy'n ymddiddori yn 'y Pethe' yn gwybod am Barc Nest ger Castellnewydd Emlyn, aelwyd ddiwylliedig ryfeddol a ffynhonnell awen tri brawd a ddaeth yn eu tro yn Brifeirdd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yr ail o'r brodyr hynny yw John Gwilym a'r dysgedicaf o bosibl. Graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn Aberystwyth ac wedi blwyddyn o ddarlithio mewn Cymraeg Canol ym Mhrifysgol Dulyn aeth ati i astudio Diwinyddiaeth yn Abertawe. Y weinidogaeth a enillodd fryd yr egin ysgolhaig a chafodd alwad i Fethania,
Y Tymbl, cyn symud ym 1967 i Eglwys Annibynnol, Pendref, Bangor lle bu'n gwasanaethu am ddeugain mlynedd. Cafodd gyfle hefyd i ddarlithio mewn Cymraeg a Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor ac i fod yn Arholwr Cymraeg i'r Cyd-bwyllgor Addysg, CBAC.
John Gwilym Jones is one of three talented brothers brought up on a farm near Castell newydd Emlyn in west Wales; all three are Master Poets, having received the coveted accolade of being crowned or chaired at the National Eisteddfod of Wales.
A graduate of Aberystwyth and well on his way to a professional academic career, the Christian ministry became his chosen vocation, and he served as a much revered Welsh Congregational minister throughout his working life. While he continued to pursue a host of other interests, they were never at the expense of his work as a Minister.
Roedd popeth a wnâi yn ail i'w ddyletsyddau fel gweinidog. Yr oedd yn fugail arbennig, mawr ei ofal o'i aelodau, ac yn bregethwr grymus, meddylgar. Bu yn ei dro yn llywydd Undeb yr Annibynwyr, yn olygydd y cylchgrawn Porfeydd, ac yn aelod o bwyllgor llywio'r llyfr emynau cydenwadol, Caneuon Ffydd. Mae'n heddychwr o argyhoeddiad, yn Gristion cadarn ei ffydd ac yn eciwmenydd wrth reddf. Yr oedd yn un o arweinwyr yr ymgais i uno enwadau'r Anghydffurfwyr yn 80au a 90au'r ganrif ddiwethaf ac mae'n aelod amlwg gyda Christnogaeth 21, mudiad sy'n ceisio ymateb yn greadigol i'r argyfwng ym myd crefydd, Cristnogaeth a hanes yr eglwysi heddiw.
He is a devout Christian, a committed pacifist and one who has been at the forefront of ecumenical initiatives aimed at bringing together the various Nonconformist denominations.
Mae'n Gymro tanbaid – eang ei ddiddordebau – o bêl-droed i gynganeddu, o dalyrnau i'r eisteddfod. A'r mwyaf o'r rhain, yn ddiamau yw'r Eisteddfod. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Cyffiniau ym 1981 a bu'n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996. Yn Eisteddfod Bro Colwyn 1995 cafodd yr anrhydedd unigryw o goroni ei frawd iau, Aled Gwyn, ac o gadeirio ei fab, Tudur Dylan Jones. Daeth yn gofiadur yr Orsedd yn 2005 a pharhaodd yn y swydd honno nes i'w frawd arall, T. James Jones, ddod yn Archdderwydd yn 2010. Ym mis Awst caiff ei anrhydeddu'n Gymrawd gan yr Eisteddfod – dyna ichi ddwy gymrodoriaeth yn yr un flwyddyn. Tipyn o gamp! Ni ddylid anghofio ychwaith ei gyfraniad i eisteddfodau bach ar hyd a lled Cymru fel beirniad llên a llefaru.
His contribution to the National Eisteddfod and to small local eisteddfodau across the length and breadth of Wales is second to none. Archdruid, Recorder, Fellow – he has achieved every honour available. And let me share this with you. In his role as Archdruid in 1995 he had the honour of crowning his younger brother and chairing his son in two of the the main ceremonies – a unique experience which probably meant more to him than winning the Chair himself in 1981. That is the measure of the man.
His poems and writings have appeared in many collections and he is a regular contributor to Welsh-language radio and television.
Mae wedi cyhoeddi toreth o storïau, sgyrsiau a cherddi mewn gwahanol gasgliadau. Trysor o gyfrol o'i eiddo yw Ail Drannoeth a gyhoeddwyd yn 2003.Y mae hefyd yn llais cyfarwydd a phoblogaidd ar Radio Cymru. Yn wir, mae'n meddu ar lais gyda'r mwyaf clir a soniarus – llais a feithrinwyd ym mhulpudau ac ar lwyfannau eisteddfodau bach a mawr dros y blynyddoedd. Yfô, heb unrhyw amheuaeth, a ddylai fod yn traethu heddiw – nid yn unig i'ch cadw'n effro trwy'r seremoni ond i'ch mesmereiddio yr un pryd.
Ac mae'n ddyn trwsiadus. Dywedodd un o'i aelodau wrthyf na welodd John Gwilym erioed heb ei dei, hyd yn oed wrth iddo dorchi llewys i wneud rhyw waith cynnal a chadw yn y capel. Rwyf innau'n gyfarwydd â'i weld yn ei wisg eisteddfodol, ac yn gallu tystio ei fod gyda'r mwyaf urddasol o Orseddogion.
Ond nid dyna'r agweddau a anrhydeddir yma heddiw, gyfeillion, ond cyfraniad hir a sylweddol gŵr unplyg a diymhongar i grefydd a diwylliant yng Nghymru dros gyfnod o ymron i hanner canrif.
We honour his substantial contribution to religion and culture in Wales over a period of half a century.
Vice-Chancellor: It is a great honour to present John Gwilym Jones for investiture as a Fellow of Aberystwyth University.
Is-Ganghellor: Mae'n wir fraint cael cyflwyno'r Parchedig John Gwilym Jones i'w urddo'n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth eleni.”
Eight new Fellows are being honoured by Aberystwyth University at this year’s ceremonies which take place between Tuesday 10 and Friday 13 July.
The title of Fellow is awarded to honour distinguished people who have a close association with Aberystwyth University or who have made an outstanding contribution to professional or public life in Wales.
The 2012 Fellows are the actor Michael Sheen, TV presenter Alex Jones, Professor Michael Clarke, Director of the Royal United Services Institute, Mark Price, Managing Director of Waitrose, Dr Jan Jaroslav Pinkava, Oscar winner, Rev. John Gwilym Jones, Former Archdruid of Wales, Caitlin Moran, Broadcaster, TV critic and columnist, and Judge Sir David Lloyd Jones.
AU23212