Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiad Meintiol (2,000 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Ymarfer Ansoddol (3,000 gair) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Meintiol (2,000 gair) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Ymarfer Ansoddol (3,000 gair) | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth o'r egwyddorion methodolegol sylfaenol sydd wrth wraidd ymchwil gwerthuso.
2. Gwerthfawrogi rhai o'r problemau technegol, ymarferol a moesol y deuir ar eu traws wrth werthuso effaith ymyriadau cyfiawnder troseddol.
3. Cynllunio astudiaeth werthuso syml.
4. Gwerthfawrogi'r gwahaniaeth rhwng strategaethau ymchwil gwerthuso cyfunol a ffurfiannol.
5. Defnyddio damcaniaethau troseddegol craidd a rhesymu ar gyfer testunau a pholisïau cymhwysol mewn meysydd fel rheoli ac atal troseddau.
6. Dangos ymwybyddiaeth feirniadol a dealltwriaeth o gryfderau a chyfyngiadau dulliau dadansoddol ansoddol a meintiol mewn gwahanol gyd-destunau ymchwil.
7. Cyflwyno data ystadegol mewn amrywiaeth o wahanol ffurfiau.
8. Tynnu casgliadau priodol o ddata ystadegol a phennu'r arwyddocad ystadegol.
9. Canfod yr hyn sy'n cael ei ystyried yn arfer moesegol da wrth gynnal ymchwil empiraidd ym maes troseddeg a nodi'r risgiau personol y gellir dod ar eu traws wrth wneud gwaith maes mewn sefyllfaoedd ymchwil penodol.
10. Asesu'n feirniadol adroddiadau polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Dadansoddi data empiraidd
Disgrifiad cryno
1) wybodaeth am egwyddorion sylfaenol dulliau a methodolegau ymchwil ansoddol a meintiol mewn ymchwil troseddegol.
Mae’r modiwl presennol yn adeiladu ar y sylfaen hwn trwy alluogi myfyrwyr i werthfawrogi sut y gellir cymhwyso’r dulliau ymchwil a’r technegau hyn wrth gloriannu mentrau polisi a rhaglenni ymyrryd yn ymwneud a throseddu. Mae’n cyflwyno’r myfyrwyr i syniadau a thechnegau mwy datblygedig mewn dadansoddi data ansoddol a meintiol.
Mae'r modiwl yn trafod egwyddorion ymchwil gwerthuso ac yn dangos sut y defnyddir dulliau a methodolegau'r gwyddorau cymdeithasol wrth astudio ymyriadau a gynlluniwyd a rhaglenni triniaeth yn y maes cyfiawnder troseddol. Bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i'r myfyrwyr wneud eu gwaith ymchwil empiraidd eu hunain a dadansoddi'n feirniadol astudiaethau sy'n bod eisoes.
Cynnwys
Cynlluniau ymchwil arbrofol a lled-arbrofol yng nghyd-destun polisi.
Dulliau ansoddol wrth werthuso arferion a pholisïau cyfiawnder troseddol.
Casglu data ansoddol: arsylwi gan gyfranogwyr ac eraill nad ydynt yn gyfranogwyr, grwpiau ffocws a thechnegau cyfweld.
Profion seicolegol sylfaenol.
Dulliau meintiol: ystadegau casgliadol, arwyddocâd ystadegol a Chi-sgwar.
Cyflwyniad i feddalwedd meintiol.
Cloriannu rhaglenni lleihau troseddu, a mentrau atal troseddu.
Egwyddorion ac arferion moesol mewn gwaith ymchwil troseddegol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn cael eu hasesu yn yr asesiad. Fodd bynnag, ystyrir sgiliau cyfathrebu llafar yn ystod y seminarau a’r dosbarthiadau ymarferol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Modiwl sy’n seiliedig ar sgiliau yw hwn a fydd o gymorth mewn gwaith neu gyflogaeth ol-raddedig yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Bydd y myfyrwyr yn asesu gwahanol fathau o ddata ac yn ystyried pa ddull dadansoddi sydd fwyaf addas. |
Gwaith Tim | Yn ystod y seminarau bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd ar gyfer rhai gweithgareddau. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y myfyrwyr yn cael sesiynau lle byddant yn ymarfer eu sgiliau ymchwil newydd. |
Rhifedd | Mae natur y dadansoddi data yn gofyn am ddefnyddio gwybodaeth rifyddol. |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r ymchwil wedi’i anelu at brofi theori a data gwyddor gymdeithasol a throseddegol. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i’r myfyrwyr wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a chymhwyso’r hyn a ddysgir i’w asesiadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd y myfyrwyr yn defnyddio nifer o wahanol raglenni meddalwedd a fydd o gymorth iddynt o safbwynt eu dysgu a’u hasesu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5