Module Information

Cod y Modiwl
RG23400
Teitl y Modiwl
Systemau Cynhyrchu Da Byw
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Aseiniad Cynhyrchu Cig  Aseiniad cynhyrchu cig  30%
Asesiad Semester Aseiniad godro  Aseiniad godro  30%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad semester 2 awr  40%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau or asesiad syn cyfateb ir hyn a arweiniodd at fethur modiwl  Rhaid i fyfyrwyr gwblhau’r elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl.  40%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr gwblhau’r elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl.  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Roi disgrifiad meintiol o systemau cynhyrchu anifeiliaid ac adnabod y rhyngweithio rhwng elfennau'r system

2. Adnabod prif rwystrau cynhyrchiant

3. Adnabod rol ymchwil yn natblygiad systemau cynhyrchu anifeiliaid

4. Dadansoddi cofnodion perfformiad da byw er mwyn adnabod, egluro a chywiro perfformiad is-optimaidd

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn disgrifio trefniadaeth a rheolaeth y prif systemau cynhyrchu gwartheg godro, eidion, defaid a moch yn y DU. Cyfeirir yn benodol at y ffactorau sy'n dylanwadu ar gynhyrchiant anifeiliaid, iechyd a lles, effeithiolrwydd defnyddio adnoddau, perfformiad ariannol ac ansawdd y cynnyrch. Trafodir cymhwyso ymchwil i dwf, atgynhyrchu, llaetha, geneteg, maeth, iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer datblygu gwell systemau cynhyrchu.

Cynnwys

Strwythur diwydiannau cynhyrchu eidion, defaid, llaeth a moch y DU.
Rheoli bwyd gwartheg godro, sgor cyflwr, defnyddio porfa ac anoddau bwyd eraill
Datblygiad, strwythur a swyddogaeth cadeiriau, trin cyfansoddiad llaeth
Bridio gwartheg godro
Magu heffrod a ffrwythlondeb y fuches
Iechyd gwartheg godro yn cynnwys anwylderau metabolig, cloffni, TB, Clwy'r Traed a'r Genau a Thafod Glas
Systemau cynhyrchu ar gyfer defaid mynydd, tiroedd uchel a thiroedd isel
Rheoli atgynhyrchu'r famog a'r hwrdd
Bridio defaid
Strategaethau bwydo'r famog yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod llaetha
Iechyd y famog feichiog a'r famog sy'n llaetha ac 'rn sy'n tyfu
Systemau cynhyrchu lloi sugno, strategaethau bwydo a rheoli atgynhyrchu
Magu lloi
Systemau cynhyrchu cig eidion llaeth dwys, lled ddwys a helaeth
Systemau cynhyrchu moch
Rheoli'r hwch gyfnewid
Strategaethau bwydo ar gyfer perfformiad oes gorau'r hwch sy'n bridio
Rheoli'r hwch drwy'r cyfnod bridio, beichiogrwydd, esgor, llaetha a'r cyfnod sych.
Rheoli'r mochyn newyddanedig, wedi'i ddiddyfnu, sy'n tyfu ac sy'n gorffen.
Iechyd a lles moch.
Sicrhau'r ansawdd cynnyrch gorau.
Cynlluniau yswiriant ffermydd a'u lles.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau ysgrifenedig yn yr aseiniad yn cynnwys cyfathrebu drwy eiriau, tablau a diagramau. Asesir drwy'r aseiniad a'r arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa ym maes ffermio a'r diwydiannau sy'n cefnogi'r maes hwn a datblygiad sgiliau perthnasol.
Datrys Problemau Dangosir yn y darlithoedd a'r dosbarthiadau ymarferol sut y caiff problemau wrth ddatblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid eu hadnabod a'u datrys. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau datrys problemau drwy'r aseiniadau. Asesir drwy aseiniad.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy oresgyn heriau i ddysgu a deall a godir yn yr aseiniadau. Trwy astudio hunangyfeiriedig a defnyddio deunyddiau e-ddysgu.
Rhifedd Dadansoddi a dehongli cyfresi data aseiniad. Dehongli ymchwil a gyhoeddwyd. Asesir yn yr asesiniadau.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol ac aseiniadau yn datblygu ymwybyddiaeth o ddehongli a chymhwyso ymchwil i ddatblygu a gwella systemau cynhyrchu anifeiliaid. Asesir yn yr aseiniad a'r arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio prosesyddion geiriau a thaenlenni wrth baratoi aseiniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5