Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiad technegol ar gynhyrchu anifeiliaid. | 40% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 40% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl. | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Disgrifio'r systemau pwysig o gynhyrchu a ddefnyddir yn y diwydiannau cynhyrchu cig eidion, defaid, llaeth, moch, brwyliaid ac wyau
2. Adnabod y prif rwystrau i gynhyrchiant ar gyfer pob un o'r systemau hyn
3. Cymharu effeithiolrwydd gwahanol ddulliau o gynhyrchu ar gyfer pob system
4. Trafod cymhwyso ymchwil wyddonol i gynhyrchu anifeiliaid
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn gyflwyniad i brif systemau cynhyrchu anifeiliaid fferm (cig eidion, defaid, llaeth, moch, brwyliaid ac wyau) a'u cynllun yng nghyd-destun amaethyddiaeth y DU a'r byd. Cyfeirir yn benodol at rwystrau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i gynhyrchu, a phwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid. Tynnir sylw at y cwmpas ar gyfer cymhwyso gwybodaeth ac ymchwil wyddonol fel sylfaen ar gyfer modiwlau dilynol.
Cynnwys
a. Y gwahanol systemau o gynhyrchu a'r heffeithiolrwydd, cryfderau a gwendidau perthnasol
b. Cyd-destun economaidd a deddfwriaethol cyfredol pob system
c. Iechyd a rhwystrau eraill i gynhyrchu ym mhob system
2. Cymhwyso'r ymchwil i gynhyrchu anifeiliaid, gan gynnwys biotechnoleg
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol drwy'r arholiad a'r aseiniad, lle caiff y rhain eu hasesu. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Ceir elfen o ddatrys problemau yn yr aseiniad. Caiff hyn ei asesu yn yr aseiniad a rhoddir adborth arno. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad, a hynny y tu allan i oriau cyswllt ffurfiol. Bydd myfyrwyr yn medru adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad. |
Rhifedd | Bydd elfen o drafod rhifau yn perthyn i'r aseiniad. Caiff hyn ei asesu yn rhan o'r aseiniad a rhoddir adborth. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygir ac asesu cysyniadau sy'n benodol i'r pwnc sy'n ymwneud â chynhyrchu anifeiliaid yn yr arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ymchwilio i bynciau ehangach na chwmpas y darlithoedd ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Defnyddir gwybodaeth o amryw ffynonellau. Asesir sgiliau ymchwil drwy'r arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a defnyddio cronfeydd data i ganfod testunau wrth baratoi ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4