Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Seminar | 2 x Seminarau 2 Awr |
Lecture | 5 x Darlithoedd 1 Awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Traethawd estynedig 12,000 - 20,000 o eiriau . Rhaid cynnwys: Y syniad neu gynllun y traethawd estynedig; Arolwg or maes gan osod y cwestiwn yng nghyd-destun y dadleuon academaidd cyfredol Cynllun ymchwil; Methodoleg ymchwil; Astudiaeth beilot, os oes; Casglu data; Dadansoddi data; Ysgrifennu Bydd y prosiect cyffredinol yn cael ei asesu yn ogystal. | 100% |
Supplementary Assessment | Traethawd estynedig 15,000 - 20,000 o eiriau - fel uchod | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Cynllunio cwestiwn ymchwil y gellir ei brofi drwy brosiect empiraidd.
2. Dangos gallu i osod y cwestiwn hwnnw mewn cyd-destun damcaniaethol
3. Dangos gallu i gynnal arolwg effeithiol o'r maes
4. Dangos gallu i ddewis a chynllunio'r fethodoleg fydd yn taflu goleuni ar y cwestiwn / cwestiynau ymchwil orau
5. Nodi a thrafod y problemau methodolegol cyffredin
6. Casglu data
7. Dadansoddi a gwerthuso data ymchwil yn feirniadol
8. Dangos gallu i ddehongli canfyddiadau
9. Dod i gasgliadau sy'n seiliedig ar y canfyddiadau
10. Sicrhau bod y data'n cefnogi'r casgliadau yn glir
11. Gosod y canfyddiadau yng nghyd-destun ehangach damcaniaeth a pholisi
Aims
Content
Fe'i gosodir gan y myfyrwyr yn dilyn cyngor a chymeradwyaeth y staff.
Brief description
Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gynllunio, cyflawni ac ysgrifennu prosiect ymchwil empiraidd manwl ym maes Troseddeg.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Mae ymchwil empiraidd yn peri bod rhaid wrth ddefnyddio pecynnau TG, yn enwedig ar gyfer cyflwyno data. Mae ymchwil bob amser yn peri bod rhaid wrth ddefnyddio ffynonellau electronig a phapur y llyfrgell yn ogystal â'r we a disgwyliwn na fydd yn wahanol i fodiwlau eraill yn hyn o beth. |
Communication | (a) datblygu gwerthfawrogiad o bosibiliadau ymchwil pynciau trwy ddewis testun hyfyw i ymchwilio iddo; (b) datblygu sgiliau ymchwil o ran dod o hyd i'r deunyddiau perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pynciau; (c) datblygu'r sgiliau sy'n gysylltiedig â pharatoi, cynllunio, trefnu, casglu canlyniadau a dadansoddi ac amserlennu darn o waith ymchwil y gellir ei gynnal dros gyfnod o rai misoedd; (d) meithrin y gallu i drefnu syniadau a rhoi deunyddiau mewn trefn i gyflwyno'r ddadl a'r data yn effeithiol; (e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd ar gyfer cyflwyniad eglur, rhugl a darllenadwy o'r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol o 6,000 - 10,000 o eiriau. |
Improving own Learning and Performance | Datblygir ac asesir sgiliau ysgrifennu trwy ysgrifennu'r prosiect. Ni fydd sgiliau llafar yn cael eu hasesu ond bydd disgwyl i'r myfyrwyr amddiffyn eu cynllun a'u methodoleg ger bron y goruchwyliwr a myfyrwyr eraill yn y grŵp. |
Information Technology | Bydd rhai myfyrwyr yn dewis prosiect grŵp ac asesir pa mor dda y mae'r grŵp wedi gweithio yn ogystal ag asesu unigolion, o ran eu gallu i weithio fel rhan o'r grŵp a'u cyfraniad fel unigolion. Lle bydd myfyrwyr yn gweithio ar eu prosiectau eu hunain, fe'u gelwir ynghyd i drafod eu gwaith ymchwil mewn grwpiau. Yn y darlithoedd bydd disgwyl iddynt hefyd wneud ymarferion byr, ac i ddatrys neu drafod problemau amrywiol mewn grwpiau. |
Personal Development and Career planning | Bydd rhaid wrth hyn. Mae gwerthuso deunyddiau meintiol yn feirniadol, boed yn ddeunyddiau personol neu'n ddeunyddiau ymchwilwyr eraill, yn gofyn am ddadansoddi gwybodaeth rifyddol. Bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddefnyddio a dadansoddi gwybodaeth rifyddol, yn enwedig yr wybodaeth ystadegol a ddefnyddir mewn ymchwil empiraidd. |
Problem solving | |
Research skills | Canfod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil, cynllunio'r fethodoleg, ei defnyddio a dadansoddi'r canlyniadau. Bydd pob elfen o hyn yn gofyn am sgiliau datrys problemau. |
Subject Specific Skills | |
Team work | Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis cwblhau eu prosiect empiraidd eu hunain fydd yn datblygu o reidrwydd waith annibynnol fydd yn cael ei asesu. O ddewis prosiect grŵp, bydd gofyn i bob un o fyfyrwyr y prosiect reoli elfen benodol o'r ymchwil a bydd eu mewnbwn personol yn cael ei asesu ar sail yr hyn a gyflawnir yn yr adran hon. Asesir yr unigolyn yn y grŵp drwy gyfrwng asesu gan gymheiriaid a chyflwyniadau / cyflwyniadau llafar gan y grŵp. |
Notes
This module is at CQFW Level 6