Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Practical | 4 x Sesiynau Ymarferol 2 Awr |
Seminar | 2 x Seminarau 2 Awr |
Lecture | 7 x Darlithoedd 2 Awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Aseiniad 3,000 o eiriau neu gyfatebol megis casglu, llunio neu ddadansoddi data empiraidd neu drafod setiau data rhifyddol mawr fydd yn golygur un ymdrech ag ymchwilio ar gyfer traethawd 3,000 o eiriau ond na fydd yr hyn a gynhyrchir yn dilyn yr un ffurf. Gofynnir am yr aseiniad yn wythnos 12. | 100% |
Supplementary Assessment | Fel uchod | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Dangos dealltwriaeth o'r egwyddorion methodolegol sylfaenol sydd wrth wraidd ymchwil gwerthuso.
2. Gwerthfawrogi rhai o'r problemau technegol, ymarferol a moesol y deuir ar eu traws wrth werthuso effaith ymyriadau cyfiawnder troseddol.
3. Gwerthfawrogi'r gwahaniaeth rhwng strategaethau ymchwil gwerthuso cyfunol a ffurfiannol.
4. Defnyddio damcaniaethau troseddegol craidd a rhesymu ar gyfer testunau a pholisiau cymhwysol mewn meysydd fel rheoli ac atal troseddau.
5. Dangos ymwybyddiaeth feirniadol a dealltwriaeth o gryfderau a chyfyngiadau dulliau dadansoddol ansoddol a meintiol mewn gwahanol gyd-destunau ymchwil.
6. Cyflwyno data ystadegol mewn amrywiaeth o wahanol ffurfiau.
7. Tynnu casgliadau priodol o ddata ystadegol a phennu'r arwyddocad ystadegol.
8. Canfod yr hyn sy'n cael ei ystyried yn arfer moesegol da wrth gynnal ymchwil empiraidd ym maes troseddeg a nodi'r risgiau personol y gellir dod ar eu traws wrth wneud gwaith maes mewn sefyllfaoedd ymchwil penodol.
9. Asesu'n feirniadol adroddiadau polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
10. Llunio adroddiad ymchwil sy'n seiliedig ar ddadansoddiad o ddata empiraidd.
Brief description
Mae'r modiwl yn trafod egwyddorion ymchwil gwerthuso ac yn dangos sut y defnyddir dulliau a methodolegau'r gwyddorau cymdeithasol wrth astudio ymyriadau a gynlluniwyd a rhaglenni triniaeth yn y maes cyfiawnder troseddol. Bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i'r myfyrwyr wneud eu gwaith ymchwil empiraidd eu hunain a dadansoddi'n feirniadol astudiaethau sy'n bod eisoes.
Content
Cynlluniau ymchwil arbrofol a lled-arbrofol yng nghyd-destun polisi.
Dulliau ansoddol wrth werthuso arferion a pholisiau cyfiawnder troseddol.
Casglu data ansoddol: arsylwi gan gyfranogwyr ac eraill nad ydynt yn gyfranogwyr, grwpiau ffocws a thechnegau cyfweld.
Profion seicolegol sylfaenol
Dulliau meintiol: ystadegau casgliadol, arwyddoca^d ystadegol a Chi-sgwar.
Cyflwyniad i feddalwedd meintiol.
Egwyddorion ac arferion moesol yng ngwaith ymchwil troseddegol.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Bydd agweddau ar ystadegau casgliadol yn cael eu dysgu a'u hasesu yn rhan o'r modiwl. |
Communication | Bydd natur ryngweithiol y dulliau dysgu a fabwysiedir ar gyfer y modiwl hwn yn sicrhau y bydd y myfyrwyr yn meithrin sgiliau cyfathrebu ar lafar. Datblygir sgiliau ysgrifenedig drwy gyfrwng yr aseiniad gwaith cwrs. |
Improving own Learning and Performance | Mae'r broses ymchwilio ynddi'i hun, o gynllunio'r prosiect i ddadansoddi'r data a chyflwyno'r canfyddiadau, yn cynnwys ystyried a dadansoddi eich gwaith eich hun yn feirniadol. Y gobaith yw y bydd y myfyrwyr yn trosglwyddo'r sgiliau a ddatblygir yma i feysydd pwnc eraill. |
Information Technology | Bydd disgwyl i fyfyrwyr chwilio drwy gronfeydd data ar-lein a defnyddio rhaglenni ystadegol cyfrifiadurol syml i ddadansoddi data meintiol. |
Personal Development and Career planning | Bydd paratoi ar gyfer seminarau a dosbarthiadau ymarferol yn datblygu sgiliau rheoli amser. Bydd meithrin sgiliau dadansoddol a chael cipolwg ar ddadleuon methodolegol allweddol yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu eu gallu i fefddwl yn feirniadol. |
Problem solving | Dyma sgìl greiddiol mewn gweithgarwch ymchwil cymdeithasol ac fe fydd yn nodwedd amlwg o'r modiwl, yn enwedig yn y dosbarthiadau ymarferol. |
Research skills | Bydd y modiwl yn atgyfnerthu, datbygu ac ymestyn y sgiliau technegol ac ymchwil ymarferol a gyflwynwyd yn y modiwl Lefel 1, Sgiliau Ymchwil Troseddeg. |
Subject Specific Skills | Holl ethos y modiwl hwn yw cynorthwyo myfyrwyr wrth ddatblygu a defnyddio'r sgiliau ymchwil troseddegol fydd yn eu galluogi i wneud gwaith ymchwil empiraidd a dadansoddi'n feirniadol ymchwil cyfiawnder troseddol a throseddegol. |
Team work | Bydd elfen o waith tîm yn y sesiynau ymarferol a'r seminarau. |
Notes
This module is at CQFW Level 6