Module Information
Cod y Modiwl
GF11010
Teitl y Modiwl
PROSES CYFREITHIOL
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Cyd-Ofynion
Elfennau Anghymharus
LA11010, LA31010, LA15710
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 16 awr. Yn Saesneg |
Seminarau / Tiwtorialau | 3 awr. Seminarau. Yn Gymraeg |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Ymryson | 25% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad 1.5 awr ar ddiwedd Semester 1 | 75% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig 1000 o eiriau oir ddadl ymryson | 25% |
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad - os caiff yr arholiad ei fethu | 75% |
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y modiwl dylai fyfyrwyr fod wedi datblygu'r sgiliau/galluoedd canlynol:
- Dod o hyd i wybodaeth Gyfreithiol
- Defnyddio dulliau ymchwil electronig a chopi caled
- Defnyddio technoleg gwybodaeth
- Dehongli ffynonellau cyfreithiol sylfaen ac eilaidd
- Sgiliau dadansoddi
- Sgiliau datrys problemau
- Llunio a Chloriannu dadleuon
- Rhesymu Cyfreithiol
- Trefnu syniadau a dadleuon
- Sgiliau beirniadol
- Dulliau Cyfreithiol
- Sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ar bapur (ysgrifennu traethodau, ysgrifennu mewn arholiad ac ymryson).
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl yw paratoi myfyrwyr at eu hastudiaethau eraill yn y Gyfraith yn y Brifysgol trwy gyflwyno'r amrywiaeth o sgiliau y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu meistroli er mwyn llwyddo yn yr astudiaethau hynny. Mae'r modiwl yn cyflawni hynny trwy gynnig y cyfle i ddatblygu a mireinio'r sgiliau hyn.
YMCHWILIO I'R GYFRAITH
Ar ol esbonio'n gyntaf yr angen i ddatblygu sgiliau cyfreithiol, mae'r modiwl yn cyflwyno'r syniad o ymchwil gyfreithiol a'i phwysigrwydd sylfaenol i fyfyrwyr a gweithwyr yn y Gyfraith. Cyflwynir Llyfrgell y Gyfraith, a bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo a'i chynllun a'i stoc. Bydd ymarferiad llyfrgellol yn gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i ddewis helaeth o ddefnyddiau sy'n berthnasol i astudio'r Gyfraith. Trwy hyn bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae ymchwilio trwy ddefnyddio `copi caled? (llyfrau, cyfnodolion, adroddiadau yn y gyfraith, gwyddoniaduron ayb) a thrwy ddefnyddio systemau technoleg gwybodaeth. Rhoddir arweiniad arbennig ar ddod o hyd i brif ffynonellau'r gyfraith - ddeddfwriaeth ac adroddiadau'r gyfraith - ar ddod o hyd i ysgrifau cyfreithiol academaidd, ac ar gynllunio ymchwil gyfreithiol.
DARLLEN Y GYFRAITH
Yn ogystal a dod o hyd i'r deunydd cyfreithiol addas, rhaid hefyd ddatblygu'r gallu i ddadansoddi a chymhwyso cynnyrch yr ymchwil. Rhoddir arweiniad ar ddarllen a dadansoddi deddfwriaeth, adroddiadau'r gyfraith, ac ysgrifau academaidd. Trwy gyfres o ymarferion bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau hyn ac yn cael adborth a rhagor o arweiniad gan y tiwtoriaid. Traethodau cyfreithiol ysgrifenedig ac atebion i broblemau, a thrafod a chyflwyniadau llafar mewn dosbarthiadau fydd y prif ddulliau o ddangos eich gallu i ddarllen a dadansoddi defnyddiau cyfreithiol yn ystod eich astudiaethau. Bydd cyfle yn y modiwl hwn i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau hyn, yn enwedig ysgrifennu cyfreithiol a datrys problemau.

Nod
Tri amcan sydd i'r modiwl hwn. Y cyntaf yw meithrin gallu myfyrwyr i astudio'r gyfraith yn effeithiol, yn annibynnol ac mewn grwpiau. Yr ail amcan yw sicrhau bod myfyrwyr yn meithrin a datblygu sgiliau ymchwil yn y gyfraith. Y trydydd amcan yw hybu amrywiaeth o sgiliau cyflwyno a dehongli, sy'n werthfawr wrth astudio'n academaidd ar bob lefel, yn ogystal ag yn y farchnad swyddi ehangach.
Cynnwys
Maes llafur:
Cyflwyniad
Pwysigrwydd Sgiliau Cyfreithiol
Ymchwilio i'r Gyfraith
Llyfrgell y Gyfraith
Dod o hyd i Ffynonellau Sylfaenol
Dod o hyd i Ffynonellau Eilaidd
Darllen y Gyfraith
Darllen Deddfwriaeth
Darllen Adroddiadau Cyfreithiol
Darllen ysgrifau cyfreithiol academaidd
Ysgrifennu Cyfreithiol
Ysgrifennu at wahanol ddibenion cyfreithiol
Ysgrifennu academaidd - adnabod ffynonellau ac awdurdodau

Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydHolland & Webb (2010) Learning Legal Rules 7th ed. Blackstone Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4