Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 16 awr. Yn Saesneg |
Seminarau / Tiwtorialau | 3 awr. Seminarau. Yn Gymraeg |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr Arholiad 1.5 awr | 100% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad 1.5 awr ar ddiwedd Semester 1 | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Dylai myfyrwyr y modiwl hwn fedru deall datblygiad y gyfundrefn gyfreithiol, a medru cynnig sylwadau ar ei nodweddion. Dylent ddeall yn arbennig y defnydd o gynsail farnwrol a'r harwyddocad, a'r berthynas rhwng cynsail ymrwymol a chyfundrefn y llysoedd. Dylai myfyrwyr fedru disgrifio 'rheolau' honedig dehongli statudol a chynnig sylwadau arnynt, a gweld sut mae hyn a rol barnwyr wrth ddehongli yn gosod cynsail wrth lunio'r gyfraith. Dylai myfyrwyr ddeall rol y proffesiwn cyfreithiol a'r rheithgor.
Bydd gan fyfyrwyr wybodaeth a dealltwriaeth o'r canlynol:
- seiliau damcaniaethol y gyfraith
- yr amgylchfyd cyfreithiol
Datblygir sgiliau dadansoddi ynghyd a dealltwriaeth o berthnasedd ac amherthnasedd.
O ran sgiliau a rhinweddau eraill, bydd myfyrwyr yn datblygu:
- sgiliau ymchwil annibynnol
- sgiliau llafar ac ysgrifennu
- darllen a dehongli gwybodaeth.
Disgrifiad cryno
Mae'r cwrs yn ystyried strwythur y gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Dadansoddir yn fanwl y rhan y mae'r farnwriaeth yn ei chwarae o ran dehongli deddfwriaeth a datblygu cyfraith achosion. Ystyrir dulliau o ddatrys anghydfod trwy edrych ar y broses ymgyfreithio ffurfiol. Rhoddir braslun o'r gwahaniaeth rhwng cyfraith a ffaith oherwydd ei bwysigrwydd i astudiaethau cyfreithiol yn gyffredinol. Ystyrir patrwm trefn y llysoedd a swyddogaeth proffesiwn y gyfraith. Ni fyddai cwrs fel hwn yn gyflawn heb gyflwyno datblygiad hanesyddol y gyfraith yng Nghymru a Lloegr. Rhoddir hyn gyda phwyslais arbennig ar dwf y gyfraith gyffredin ac ecwiti. Amcan y cwrs yw cynnig dealltwriaeth drylwyr o amgylchfyd gwaith y gyfraith, a hefyd sylweddoli mai pwnc deinamig sy'r newid yn gyson yw'r gyfraith, ac nid corff disyflyd o reolau sydd i'w dysgu ar y cof. Bydd deall materion megis cynsail farnwrol a'r dulliau a ddefnyddir gan y farnwriaeth i ddehongli statudau yn fuddiol iawn i fyfyrwyr wrth wynebu pynciau fel y gyfraith droseddol neu gyfraith tir.
Nod
Amcan y modiwl hwn yw cynnig dealltwriaeth o batrwm, datblygiad hanesyddol a dulliau gweithio' r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, fel y bydd myfyrwyr yn medru asesu cyfundrefnau cyfreithiol yn feirniadol.
Cynnwys
1. Cyflwyniad i'r gyfraith fel pwnc
(i) Beth yw "cyfraith"?
(ii) Hanes cryno o ddatblygiad a ffynonellau'r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
(iii) Gwahaniaethau a chategoriau'r gyfraith.
2. Braslun o Gyfundrefn y Llysoedd
(i) Patrwm y gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
(ii) Y gyfundrefn apelio sifil a throseddol.
3. Cyfraith a Ffaith
(i) Pwysigrwydd y gwahaniaeth rhwng cyfraith a ffaith mewn damcaniaeth ac arfer.
(ii) Cymharu cyfundrefnau ymchwiliadol a gwrthwynebiadol.
4. Cyfraith Achosion a Chyfundrefn Cynseiliau
(i) Y rhan y mae cyfraith achosion yn ei chwarae yng nghyfundrefn gyfreithiol Cymru a Lloegr
(ii) Cymharu a chyfundrefnau cyfreithiol eraill.
(iii) Cyfundrefn cynseiliau Lloegr ar waith.
(iv) Cynseiliau yng nghyd-destun Ewrop.
5. Deddfwriaeth a Dehongliad Statudol
(i) Patrwm Mesurau.
(ii) Y broses ddeddfwriaethol.
(iii) 'Rheolau' dehongliad statudol a chynorthwyon eraill i ddehongli.
(iv) Effaith Deddf Hawliau Dynol 1998.
6. Tribiwnlysoedd a Dulliau Eraill o Ddatrys Anghydfod
(i) Categoriau o dribiwnlysoedd.
(ii) Gwahanol ddulliau o ddatrys anghydfod.
(iii) Diwygiadau.
7. Y Proffesiwn Cyfreithiol a Swyddogaeth y Rheithgor yn y Gyfundrefn Gyfreithiol.
(i) Swyddogaethau'r proffesiwn cyfreithiol a'r farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr.
(ii) Swyddogaeth y Rheithgor.
(iii) Troseddau heillfford.
Rhestr Ddarllen
Dylid Ei BrynuElliott & Quinn (2010) The English Legal System 11th ed. Pearson Chwilio Primo Slapper & Kelly (2011) The English Legal System 12th ed. Routledge Cavendish Chwilio Primo Testun I Gyfeirio Ato
Holland & Webb (2010) Learning Legal Rules 7th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Ingman, T (2010) The English Legal Process 13th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Manchester, C & Salter, D (2006) Exploring the law :the dynamics of precedent and statutory interpretation 3rd ed. Sweet & Maxwell Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4