Cwrs Cynganeddu: Yr Ail Gam

 

This is a Welsh medium course on ‘cynghanedd’ aimed at reminding students of the rules and enable them to practice composing poems.

Key Facts

 

Language: Welsh

Duration: 10 Weeks 

Number of Credits: 10

Tutor: Ceri Wyn Jones

Learning Method: Online: Scheduled Sessions 

Level: This module is at CQFW Level 4

Module Code: YD12910

Fee: £150.00 - Fee Waiver Scheme available

Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.

Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!

I ddechrau eich cais, cwblhewch y ffurflen gais Hepgor Ffioedd: Ffurflen Gais Cynllun Hepgor Ffioedd Dysgu Gydol Oes (Blwyddyn Academaidd 2024 - 2025)

 

Amlinell 

A wyt ti'n gyfarwydd â rheolau'r gynghanedd, ond heb ddigon o hyder i fynd ati i greu? Neu heb gael cyfle i fynd ati ers blwyddyn neu ddwy, ond yn awyddus i ailafael ynddi? Dyma’r modiwl i ti, felly, sef cwrs cynganeddu fydd yn rhoi’r cyfle i ti ymarfer y grefft yn gyson ac yn caniatáu i ti ddysgu mwy am y gynghanedd fel cyfrwng ac am rai o’i mesurau hi. Mwy na hynny, mae’n gyfle i gael hwyl wrth wneud hynny.

Rhaglen y Cwrs

  • 1. Adolygu gwybodaeth o dermau technegol y gynghanedd ac o ofynion y cyn ganeddion gwahanol: croes, croes o gyswllt, traws, sain a llusg. Dadansoddi llinellau o gerddi buddugol y Gadair eleni.(Gosod tri chwpled/pennill cywydd fel tasg)

    2 (a)Dadansoddi a thrafod cwpledi’r dosbarth a fyddai ‘ar y cyd’ yn well na ‘y dosbarth’ – rhag i bobl fynd i ofidio y byddan nhw o dan y chwyddwydr fel unigolion?
    (b)Adolygu gofynion yr englyn a chyflwyno nifer o esiamplau o waith awduron amlwg (a llai amlwg). (Gosod englyn fel tasg.)

    3. (a) Dadansoddi a thrafod englynion y dosbarth
    (b) Cyflwyniad i’r amrywiaeth o ddulliau posib o gynganeddu rhwng y gair cyrch a’r ail linell, (Gosod englyn fel tasg.)

    4. (a) Dadansoddi a thrafod englynion y dosbarth
    (b) Cyflwyniad i fesurau gwahanol yr englyn (ee englyn milwr ac englyn penfyr). (Gosod englyn milwr/penfyr fel tasg)

    5 (a) Dadansoddi a thrafod englynion milwr a phenfyr y dosbarth
    (b) Cyflwyniad i’r hir-a-thoddaid. (Gosod tasg gweithio llinellau decsill.)

    6 (a) Dadansoddi a thrafod llinellau decsill y dosbarth
    (b) Cyflwyniad i gyfundrefn y pedwar mesur ar hugain.
    (c) Gosod tasg englyn neu hir-a-thoddaid

    7. (a) Dadansoddi a thrafod englynion/hir-a-thoddeidiau’r dosbarth
    (b) Cyflwyniad i fesurau digynghanedd cyfres Y Talwrn
    (c) Gosod englyn fel tasg.

    8. (a) Dadansoddi a thrafod englynion y dosbarth
    (b) Gosod tasgau gwaith cartref ar gyfer Steddfod y Dosbarth (i’w chynnal yn ystod gweithdy 10)

    9. (a) Adolygiad o’r cwrs ar ei hyd.
    (b) Neilltuo amser ar gyfer rhoi tro ar dasgau’r Steddfod.

    10. Steddfod y Dosbarth, sef y pedair tasg a osodwyd yng ngweithdy 8, sef Englyn, Cwpled, Triban a Limrig

    Mae’n bosib y bydd union gynnwys y gweithdai yn gorfod newid o wythnos i wythnos, gan ddibynnu ar brofiad blaenorol y myfyrwyr a’r graddau y maen nhw’n ymdopi â’r gwaith newydd.

Manylion y Cwrs

Ar-lein; Sesiynau Byw 

Dyddiadau:-

Ebrill 10, 24

Mai 1, 8, 22, 29

Mehefin 5, 19, 26

Amser: Nos Iau, 7yh - 8.30yh 

(Mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r tiwtor newid amseroedd / dyddiadau ambell sesiwn ond rhoddir blaen-rybudd teg).

Canlyniadau Dysgu 

  • 1. Adnabod a llunio gwahanol ffurfiau ar y gynghanedd;
  • 2. Llunio cwpledi/pennill cywydd
  • 3. Llunio englyn penfyr ac englyn milwr
  • 4. Llunio llinellau decsill
  • 5. Llunio englynion

Asesiadau 

  • Trafodaethau - 40%
  • Aseiniad ysgrifenedig neu ar lafar 1 - 30%
  • Aseiniad ysgrifenedig neu ar lafar 2 - 30%

Gofynion Mynediad 

Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Mae’r cwrs yn addas i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.

Beth sydd ei angen arnaf? 

  • Mynediad i'r rhyngrwyd. 
  • Mynediad i liniadur neu gyfrifiadur gyda chamera gwe a meicroffon; gallai clustffonau fod yn ddefnyddiol hefyd. 
  • Defnyddiwch borwr gwe Chrome lle bo hynny'n bosib.