Cwrs Cynganeddu: Dechrau o’r Dechrau’n Deg
This is a Welsh medium course introducing ‘cynghanedd’ to students giving them a guidance on recognizing its different forms.
Key Facts
Language: Welsh
Duration: 10 Weeks
Number of Credits: 10
Tutor: Ceri Wyn Jones
Learning Method: Online: Scheduled Sessions
Level: This module is at CQFW Level 4
Module Code: YD12810
Fee: £150.00 - Fee Waiver Scheme available
Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.
Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!
Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’n rhestr bostio.
Amlinell
A hoffet ti ddysgu sut i gynganeddu? Am ganrifoedd roedd crefft y beirdd yng Nghymru yn cael ei galw'n 'gyfrinach y beirdd’, ond nid cyfrinach yw hi heddiw!
Bydd y cwrs hwn yn dy alluogi i ddysgu'r rheolau ac i wybod mwy am hanes a datblygiad y grefft. Nid dim ond system sy'n ateb cytseiniaid ac yn odli'r fewnol yw'r gynghanedd, ond dull o greu barddoniaeth sydd yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd hi ganrifoedd yn ôl.
Beth well na chael hwyl yn adnabod crefft anhygoel sy'n gwbl unigryw i'r iaith Gymraeg?
Rhaglen y Cwrs
Bydd y modiwl yn cynnwys cyfres o ddeg gweithdy, fel a ganlyn:
1. Cychwyn arni: cyflwyniad i’r gynghanedd drwy’r oesoedd, o’r canu cynharaf hyd heddiw. Trafodaeth ar y llyfrau mwyaf defnyddiol. Cyflwyno termau technegol.
2. Adolygu termau technegol, adnabod yr acen a chynganeddu geiriau
3-5. Y gynghanedd gytsain: edrychir ar y gynghanedd draws, y gynghanedd groes a’r gynghanedd groes-o-gyswllt fel ffurfiau gwahanol ar yr un math o gynghanedd. Bydd y ddau diwtorial cyntaf yn canolbwyntio ar ddysgu’r rheolau, a bydd mwy o bwyslais ar greu yn y trydydd.
6. Y gynghanedd sain.
7. Y gynghanedd lusg.
8. Y cwpled: canolbwyntir ar ddefnyddio gwahanol gynganeddion er mwyn llunio cwpledi, gyda phwyslais ar greu. Bwrir golwg ar fesur y cywydd.
9. Yr englyn: canolbwyntir ar newid cwpledi’n englynion drwy ychwanegu dwy linell arall ar y dechrau, gyda phwyslais ar greu.
10. Bwrw golwg dros yr hyn a ddysgwyd, a mwynhau’r hyn a grewyd gyda’n gilydd.
Manylion y Cwrs
Canlyniadau Dysgu
- 1. Adnabod gwahanol ffurfiau ar y gynghanedd wrth wrando a darllen cerdd.
- 2. Adnabod gwahanol fesurau cerdd dafod.
- 3. Llunio gwahanol fathau o gynganeddion unigol.
- 4. Llunio cwpledi caeth ac englynion.
Asesiadau
- Trafodaethau - 20%
- Cyflwyno Englyn 1 - 50%
- Cyflwyno Englyn 2 - 30%
Gofynion Mynediad
Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Mae’r cwrs yn addas i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.
Beth sydd ei angen arnaf?
- Mynediad i'r rhyngrwyd.
- Mynediad i liniadur neu gyfrifiadur gyda chamera gwe a meicroffon; gallai clustffonau fod yn ddefnyddiol hefyd.
- Defnyddiwch borwr gwe Chrome lle bo hynny'n bosib.