Ffotograffiaeth: Y Gwyll a Goleuni’r Nos: Cwm Elan
This is a Welsh medium course introducing students to the principles of digital photography during the dusk and night period, giving the students knowledge and understanding of the basic use of the camera to ensure the highest quality photos.
Key Facts
Language: Welsh
Duration: 10 Weeks
Number of Credits: 10
Tutor: Dafydd Wyn Morgan
Learning Method: In Person
Lefel: This Module is at CQFW Level 4
Module Code: YD10110
Fee: £250.00 - Fee Waiver Scheme available
Diolch i gefnogaeth ariannol gan Medr trwy'r Cynllun Hepgor Ffioedd, caiff ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru (a sydd ddim yn astudio mewn prifysgol), astudio’r cwrs hwn am ddim.
Oherwydd natur y cwrs, nifer cyfyngedig sydd ar gael felly y cyntaf i’r felin fydd hi!
I ddechrau eich cais, cwblhewch y ffurflen gais Hepgor Ffioedd: Ffurflen Gais Cynllun Hepgor Ffioedd Dysgu Gydol Oes (Blwyddyn Academaidd 2024 - 2025)
Amlinell
Nod y cwrs ymarferol hwn yw cyflwyno egwyddorion ffotograffiaeth ddigidol yn ystod cyfnod y gwyll a’r nos, gan roi gwybodaeth a dealltwriaeth i'r dysgwr o ddefnydd sylfaenol y camera er mwyn sicrhau lluniau o’r ansawdd uchaf.
Tra bydd agweddau sylfaenol ffotograffiaeth ddigidol yn cael eu cwmpasu (trin a chyflunio’r camera digidol, dewis lensys, datguddiad, cyfansoddiad a beirniadaeth delwedd), bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar dynnu lluniau penodol yn ystod y nos a chyfnod y gwyll.
Bydd y dysgwr yn cael cyfle i arsylwi a thynnu lluniau yng Nghwm Elan, Powys.
Yn agored i bawb o ddechreuwyr i arbenigwyr, mae'r cwrs hwn yn archwilio tynnu lluniau awyr y nos a’r gwyll tra'n ymgorffori natur.
Rhaglen y Cwrs
Dwy sesiwn o dynnu lluniau o awyr y gwyll a’r nos mewn lleoliadau detholedig gyda chyfarwyddid gan arbenigwr yn y maes.
Yn ystod y sesiynau bydd yr elfennau isod yn cael eu dysgu:
- Sut i ddal camera a defnyddio’r treipod a’r teclyn rheoli di-gyffwrdd
- Sgiliau maes sylfaenol
- Ffurfweddu'r DSLR / Camera di-ddrych
- Dewis lens
- Amlygiad
- Cyfansoddiad
- Goleuadau naturiol
- Rheolaeth greadigol
- Golygu ac addasu lluniau
Ceir adolygiad o’r lluniau yn ystod y cwrs er mwyn dysgu sut i hunan-feirniadu gwaith a galluogi gwelliant parhaus.
Mae ein tiwtor, Dafydd Wyn Morgan, yn un o ffotograffwyr mwyaf brwdfrydig Cymru, sy’n arbenigo mewn ffotograffiaeth a fideograffiaeth nos gan gyflwyno'r wybren dywyll mewn cysylltiad â thirweddau byd natur. Mae ei luniau wedi cael eu cyhoeddi yn y National Geographic, Sky at Night Magazine Sky News a llawer o bapurau newydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Cymerwch bip ar ei wefan: Home | Serydda / Stargazing / Wales
Manylion y Cwrs
Nos Sul, 25ain a nos Lun, 26ain Mai 2025
Rhwng 9 yr hwyr a 3 y bore
Cwrdd yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, Cwm Elan, Rhayader, Powys, LD6 5HP Gwefan: Home - Cymraeg | Elan Valley
Awgrymir i chi ddod â bwyd a diod
Pwysig: Mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu’r offer angenrheidiol (gweler y rhestr isod).
Canlyniadau Dysgu
- Adnabod, dewis a defnyddio sgiliau a dulliau ffotograffiaeth sylfaenol a phriodol wrth dynnu lluniau yn ystod y nos a chyfnod y gwyll
- Dangos sgiliau sylfaenol wrth ddefnyddio camera digidol ac offer ffotograffiaeth gan gynnwys pecynau golygu
- Dysgu technegau newydd wrth dynnu lluniau yn yr awyr agored yn ystod y nos a chyfnod y gwyll
- Hunan-feirniadu delweddau er mwyn galluogi gwelliant parhaus
Asesiadau
- Arddangosiad ymarferol o gymhwysedd yn ystod y gwaith maes
- Portffolio o waith a delweddau a dynnwyd yn ystod y cwrs
Gofynion Mynediad
Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Mae’r cwrs yn addas i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.
Beth sydd ei angen arnaf?
Mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu’r offer canlynol:
- Camera DSLR / Di-ddrych
- Treipod
- Remote control
- Tortsh pen
- Cerdyn SD
- Gliniadur
Awgrymir i ddysgwyr lawrlwytho yr ap (iau) canlynol:
- Clear Outside
- Stellarium
- Aurora Alerts