Sgiliau Dwyieithog i’r Gweithle 1

 

The course is to enable students to identify and develop core skills needed in the workplace.

Key Facts

 

Language: Welsh

Duration: 14 Weeks 

Number of Credits: 10

Tutor: Dr Tamsin Davies

Learning Method: Online

Level: This module is at CQFW Level 4

Module Code: YD10010

Fee: £150.00 - Fee Waiver Scheme available

This course is currently unavailable for booking

Be the first to know when new dates are announced by joining our mailing list.

Thanks to financial support from Medr through the Fee Waiver Scheme  : Lifelong Learning , Aberystwyth University individuals who live in Wales (and who are not studying at a university), can study this course for free.

Due to the nature of the course, there are a limited number available so it will be first come, first served!

 

 

 

Disgrifiad

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i adnabod a datblygu sgiliau craidd sydd eu hangen yn y gweithle.  Bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau gweithgareddau sy’n dangos sgiliau cyflogadwyedd craidd, megis gweithdai, gwaith gwirfoddol a hyfforddiant ar-lein, ac ysgrifennu dyddlyfr adfyfyriol (reflective journal) anffurfiol. Mae’r modiwl hwn yn cydnabod pum sgil graidd sy’n bwysig i’r gweithle:

  • Hunan-ymwybyddiaeth
  • Cyfathrebu
  • Meddwl yn feirniadol
  • Llythrennedd ddigidol a gwybodaeth
  • Proffesiynoldeb

Bydd y modiwl hefyd yn darparu cefnogaeth i'r rhai llai hyderus eu Cymraeg i gryfhau eu sgiliau dwyieithog i'r gweithle.

Dyddiadau

13 Hydref 2025 – 16 Ionawr 2026

Canlyniadau Dysgu 

1. Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’u sgiliau eu hunain.

2. Myfyrio ar wybodaeth a phrofiadau a gawsant yn ystod y modiwl.

3. Datbygu eu gallu mewn ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy’n cynnwys darllen, cymathu, archwilio a meddwl yn feirniadol.

4. Cymhwyso eu sgiliau dwyieithog i'r gweithle

Asesiadau 

Dyddlyfr hunan-fyfyrio - 100%

Cynnwys

  1. Hunan-ymwybyddiaeth
  • Adnabod eich sgiliau i’r gweithle
  • Cwis Paru Gyrfa Gyrfa Cymru
  1. Cyfathrebu

Rhaid dewis 2 awr o weithgareddau:

  • Sesiynau SgiliauAber
    • Ysgrifennu ffurfiol
    • Trawsieithu
    • Sgiliau darllen
    • Cyflwyniadau llafar

NEU

  • Cwblhau sesiynau’r Dystysgrif Sgiliau Iaith 
  1. Meddwl yn feirniadol

Rhaid dewis 2 awr o weithgareddau:

  • Adnoddau a chwis llythrennedd Newyddion a'r Cyfryngau (1 awr)
  • Sesiynau SgiliauAber
    • Beth yw meddwl yn feirniadol?
    • Ysgrifennu traethawd 
  1. Llythrennedd ddigidol a gwybodaeth

Rhaid dewis 2 awr o weithgareddau:

  • Sesiynau SgiliauAber
    • Cymraeg ar y cyfrifiadur
    • Defnyddio Box of Broadcasts
    • Cyflwyniad i Endnote
    • Cadw i fyny yn eich pwnc
  • Porth Adnoddau:
    • Cwrs ar ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol ‘Sbia ar hwn’ 
  1. Proffesiynoldeb

Rhaid dewis 2 awr o weithgareddau:

  • Ymddygiad proffesiynol
  • Sesiynau SgiliauAber
    • Golygu a phrawf-ddarllen (1 awr)

NEU

  • Lleoliad gwaith neu waith gwirfoddoli